Beth yw astudio Geneteg?

Geneteg yw’r maes bioleg sy’n ystyried genynnau yn benodol, ac yn ehangach mae’n ystyried etifeddeg mewn organeddau byw. Yn ei hanfod mae’n astudio DNA a sut mae genynnau wedi’u codio gan DNA yn creu organeddau byw. Yn ddiweddarach, mae maes geneteg wedi datblygu er mwyn helpu i ddeall yr hyn sy’n digwydd pan fo genynnau a’u cynnyrch cysylltiedig yn methu gweithredu yn ôl eu bwriad, sy’n arwain at glefydau genetig sy’n cyfyngu ar fywyd a chanserau.

Mae Geneteg Feddygol yn creu effaith anferth ym maes diagnosio a thrin clefydau dynol. Mae gwybodaeth a gafwyd gan ddilyniannu’r genom dynol yn galluogi ymchwilwyr i ddeall y clefydau niferus sydd ag elfennau geneteg. Mae llawer o feddygon sy’n dod i ymchwilio yn canolbwyntio ar agweddau geneteg ar iechyd dynol a chlefydau. 

1af yn y derynas unedig ar gyfer (Complete University Guide 2022)

Ein Straeon myfyrwyr

Erin Macdonald
Llun Erin Macdonald

"Mae’r cwrs yn cyffwrdd ar amrywiaeth o bynciau fel Imiwnoleg, Sgiliau i Ymchwilwyr a Bioleg Celloedd Ewcaryotig. Mae astudio yn Abertawe wedi bod yn brofiad gwahanol i mi oherwydd dechreuais yn ystod Covid-19 ond rydw i wedi cael mwy o ddarlithoedd a gweithdai wyneb yn wyneb ar y campws eleni a bob amser yn edrych ymlaen atynt. Fy hoff bwnc ar fy nghwrs hyd yma yw Imiwnoleg a Ffisioleg Ddynol. Rydw i’n hoff iawn o ddysgu am systemau’r corff a sut mae triniaethau'n gweithio a thrin amrywiaeth o glefydau a hefyd sut mae’r corff yn ymateb i’r driniaeth."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Erin

PA YRFAOEDD SYDD AR GAEL YM MAES GENETEG?

Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth armystod eang o bynciau er mwyn eich paratoi ar gyfer swyddi mewn amrywiaeth eang o broffesiynau. Mae cyfleoedd gyrfaol yn gallu bod yn ddi-rif oherwydd y ffordd y mae geneteg yn sail i’r holl fywyd biolegol, felly mae gradd mewn geneteg yn gallu eich gwneud yn gystadleuol dros ben mewn llawer o feysydd biolegol.

Ym Mhrifysgol Abertawe, bydd eich gallu i ddewis modiwlau sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau geneteg eich hun yn eich galluogi i lunio’ch gradd. Bydd ein teulu o raddau geneteg yn rhoi ichi fynediad i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys y byd academaidd, ymchwil ddiwydiannol, cynnyrch fferyllol, cynghori genetigol, ysgrifennu meddygol a’r diwydiannau bwyd a diodydd i enwi ychydig ohonynt.

SA1

Llwybrau i Feddygaeth

Mae Llwybrau i Feddygaeth yn bumed dewis delfrydol ar gyfer eich Cais UCAS gan roi’r cyfle ichi sicrhau cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein Rhaglen Feddygaeth erbyn ichi raddio.

 

Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth

SUT BROFIAD YW ASTUDIO GENETEG A GENETEG FEDDYGOL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE?

Byddwch yn gallu dewis gradd BSc 3-blynedd neu, os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn dilyn gyrfa ymchwil, ein gradd MSci 4-blynedd. Os byddwch yn dewis Geneteg Feddygol, byddwch yn gallu dilyn ein Llwybr i Feddygaeth hefyd. Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno a manteisio ar eich prosiect ymchwil flwyddyn olaf i’r eithaf.

Hefyd rydym yn cynnig gradd gydanrhydedd mewn Biocemeg a Geneteg, sy’n eich galluogi i astudio datblygiadau ar flaen y gad ym maes ymchwilio i fioleg folecwlaidd a’i heffaith ar glefydau dynol, gan ddangos egwyddorion cyffredin disgyblaethau biocemeg a geneteg.

Singleton Campus

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.

Dolenni Cyflym