Ffarmacoleg yw’r wyddor sy’n sail i’r ffordd y mae cyffuriau meddyginiaethol yn gweithio o ran iechyd a chlefydau a sut cânt eu prosesu gan ein cyrff.
.jpg)
Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrAdnabyddir ffarmacoleg fel gradd israddedig hanfodol sydd ei hangen er mwyn datblygu meddyginiaethau newydd, gwella therapïau presennol a thrin cleifion.
Bydd ein gradd mewn Ffarmacoleg yn cynnwys ystod eang o bynciau sy’n sail i feddygaeth gan gynnwys: tocsicoleg, meddyginiaeth bersonol, datblygu cyffuriau, geneteg, ffisioleg, imiwnoleg a niwrowyddoniaeth.

Ein Straeon myfyrwyr
Trwy ein tri maes cyflogadwyedd, bydd Ffarmacoleg Feddygol yn rhoi ichi fynediad i ystod o yrfaoedd cyffrous, gan gynnwys y byd academaidd, ymchwil ddiwydiannol, cynhyrchion fferyllol, cyfraith patent, ysgrifennu meddygol a’r diwydiannau bwyd a diodydd.

Llwybrau i Feddygaeth
Mae Llwybrau i Feddygaeth yn bumed dewis delfrydol ar gyfer eich Cais UCAS gan roi’r cyfle ichi sicrhau cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein Rhaglen Feddygaeth erbyn ichi raddio.
Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth
SUT BROFIAD YW ASTUDIO FFARMACOLEG FEDDYGOL?
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn canolbwyntio ar un o dri Maes Cyflogadwyedd: Ymchwil Feddygol, Menter ac Arloesi, a’r Gwyddorau Meddygol Ymarferol (ein Llwybr i Feddygaeth). Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno a manteisio ar eich prosiect ymchwil flwyddyn olaf i’r eithaf.

Archwiliwch opsiynau eich cwrs ...
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am bob un o'n cyrsiau. Ar bob tudalen cwrs fe welwch wybodaeth am fodiwlau, gofynion mynediad, staff addysgu, ffioedd dysgu a sut mae ein Llwybrau i Feddygaeth yn gweithio.