.jpg)
Diwrnodau Agored Israddedig
Cofrestrwch NawrBeth yw Biocemeg a Biocemeg Feddygol?
Bydd ein gradd mewn Biocemeg yn eich galluogi i astudio’r prosesau cemegol sy’n digwydd mewn organeddau byw, gan weithio i ddeall y broses fyw ei hun a meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i weithio fel biocemegydd mewn ystod o ddiwydiannau.
Bydd Biocemeg Feddygol yn rhoi ichi’r sgiliau a’r wybodaeth i ddeall sut mae celloedd yn gweithredu ar lefel foleciwlaidd, gan feithrin y sgiliau a’r wybodaeth i ddatblygu syniadau a chynnyrch newydd a ddefnyddir er mwyn mynd i’r afael â’r heriau iechyd mwyaf rydym yn eu hwynebu bellach.
Cofrestrwch nawr - Diwrnodau AgoredPa fath o swyddi allwch chi eu cael gyda gradd biocemeg?
Mae 100% o'n Graddedigion Biocemeg mewn Cyflogaeth neu astudiaethau pellach 6 mis ar ôl astudio. Mae Biocemeg yn wyddoniaeth ymarferol â chymwysiadau mewn nifer o feysydd biolegol eraill. Mae’r wybodaeth, y galluoedd a’r sgiliau sylfaenol sydd gan fiocemegydd yn ei alluogi i lwyddo mewn gwahanol ddiwydiannau o ysbytai i brifysgolion, amaethyddiaeth, cynnyrch cosmetig, addysg a chynhyrchion fferyllol.


Llwybrau i Feddygaeth
Mae Llwybrau i Feddygaeth yn bumed dewis delfrydol ar gyfer eich Cais UCAS gan roi’r cyfle ichi sicrhau cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein Rhaglen Feddygaeth erbyn ichi raddio.
Darganfyddwch mwy - Llwybrau i Feddygaeth
Sut brofiad yw astudio biocemeg a biocemeg feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?
Byddwch yn gallu dewis gradd BSc 3-blynedd neu, os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn dilyn gyrfa ymchwil, ein gradd MSci 4-blynedd. Os byddwch yn dewis Biocemeg Feddygol, byddwch yn gallu dilyn ein Llwybr i Feddygaeth hefyd. Trwy deilwra’ch astudiaethau, gallwch chi weithio tuag at yr yrfa yr ydych yn ei dymuno a manteisio ar eich prosiect ymchwil flwyddyn olaf i’r eithaf.
Hefyd rydym yn cynnig gradd gydanrhydedd mewn Biocemeg a Geneteg, sy’n eich galluogi i astudio datblygiadau ar flaen y gad ym maes ymchwilio i fioleg folecwlaidd a’i heffaith ar glefydau dynol, gan ddangos egwyddorion cyffredin disgyblaethau biocemeg a geneteg.