Hysbysiad GDPR ENRICH Cymru, Fersiwn 2.0 25.09.2020

Rheolydd Data a'i fanylion cyswllt

Prifysgol Abertawe yw'r Rheolydd Data ac mae'n ymrwymedig i ddiogelu hawliau myfyrwyr, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Manylion cyswllt y Swyddog Diogelu Data

Mae gan Brifysgol Abertawe Swyddog Diogelu Data a gellir cysylltu â'r unigolyn hwnnw yn dataprotection@abertawe.ac.uk

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu amdanoch chi?

Bydd y data personol a gesglir i ymuno ag ENRICH Cymru fel a ganlyn: prif enw a theitl cyswllt, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?

Diben casglu'r data hwn yw darparu cyfleoedd ymchwil drwy roi'r manylion hyn i dimoedd ymchwil dethol mewn Prifysgolion ar draws Cymru a chyda Chanolfan Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Gofal a Iechyd Cymru.

Beth yw ein sail gyfreithlon dros brosesu'ch data personol?

‘Tasg er budd y cyhoedd’ (Erthygl 6 y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data) yw’r sail gyfreithlon y byddwn yn prosesu eich data personol ar gyfer ymchwil arni. Mae'n brosesu hanfodol fel rhan o'r weithdrefn gofrestru ar gyfer rhwydwaith ENRICH Cymru. Mae diben ENRICH Cymru er budd y cyhoedd fel a nodir yn nod drosfwaol y rhwydwaith i wella bywydau pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal ar draws Cymru.

Pwy sy'n derbyn eich data?

Efallai y caiff eich enw a'ch manylion cyswllt eu rhannu â Chanolfan Cymorth a Chyflenwi, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn cynnig cymorth ichi wrth gyflawni astudiaethau rydych chi wedi dewis cymryd rhan ynddynt.

Am faint o amser y caiff eich gwybodaeth ei chadw?

Caiff eich data ei gadw am hyd y cyfnod y bydd y Gofal Cartref wedi'i gofrestru gyda rhwydwaith ENRICH Cymru. Unwaith y bydd y Cartref Gofal yn dadgofrestru gydag ENRICH Cymru, caiff eich data ei dynnu o'r gronfa ddata. Ni chaiff eich data ei drosglwyddo y tu allan i'r DU i unrhyw wledydd trydydd parti.

Pa hawliau sydd gennych?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu i'ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu, i gywiro, dileu a chyfyngu ar fynediad at eich gwybodaeth bersonol a'i throsglwyddo. Ewch i dudalennau gwe’r Brifysgol am ddiogelu data i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau. https://www.swansea.ac.uk/about-us/compliance/data-protection/your-rights/

Sut i gyrchu eich data?

Dylid cyflwyno ceisiadau neu wrthwynebiadau'n ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:- Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data), Swyddfa'r Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP: dataprotection@abertawe.ac.uk

Diogelwch eich gwybodaeth

Caiff eich data ei storio ar gronfa ddata a ddiogelir gan gyfrinair ar weinydd Prifysgol Abertawe, a ddiogelir gan gyfrinair hefyd. Dim ond unigolion a ganiateir a gaiff fynediad at y gronfa ddata hon.

Sut i gwyno

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd mae'ch data personol wedi cael ei brosesu, i ddechrau, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon wedi hynny, mae gennych yr hawl i gysylltu'n uniongyrchol â'r Comisiynydd Gwybodaeth i gael penderfyniad. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF www.ico.org.uk