Adroddiad Cynhadledd ENRICH Cymru 2019

Cynhaliwyd Cynhadledd genedlaethol gyntaf ENRICH Cymru ym Mangor ar 23 Hydref 2019. Roedd y Gynhadledd ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal neu gyda chartrefi gofal, ymchwilwyr a oedd am weithio gyda chartrefi gofal a phreswylwyr cartrefi gofal a'u hanwyliaid. Roedd yn gyfle i gysylltu â chartrefi gofal ac ymchwilwyr; ymuno â'r rhwydwaith ENRICH; cael gwybod am yr ymchwil ddiweddaraf mewn cartrefi gofal lleol a chymryd rhan mewn gweithdai rhyngweithiol.  Roedd presenoldeb da yn y Gynhadledd, gyda'r 49 o gynadleddwyr yn cynnwys staff cartrefi gofal, maes gofal cymdeithasol, aelodau o'r cyhoedd, y GIG a'r byd academaidd. Mae adborth anffurfiol gan gynrychiolwyr ar y diwrnod ac o'r gwerthusiad ffurfiol yn cadarnhau bod y gynhadledd wedi cael derbyniad da iawn. 

Roedd y cyflwyniadau ar y diwrnod yn canolbwyntio ar y pynciau canlynol:

  • Ymchwil i iechyd y geg mewn cartrefi gofal gan ddefnyddio dull cyd-ddylunio (yr Athro Paul Brocklehurst)
  • Datblygu ffordd nad yw'n ymwthiol o fonitro lefelau glwcos gwaed mewn preswylwyr cartrefi gofal (Dorte Pamperin, RSP Systems)
  • Ychwanegu gwerth at fywyd mewn lleoliad gofal drwy ymarfer pontio'r cenedlaethau (Dr Catrin Hedd Jones)
  • Nodi anghenion cymorth cartrefi gofal i bobl â dementia: hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol ymhlith preswylwyr drwy'r amgylchedd ffisegol (Choo Ying Lau)
  • Digideiddio cynlluniau gofal ar gyfer yr henoed gan ddefnyddio technolegau newydd a ddelir â llaw (Evonne Robinson ac Anne-Lotte Ricotta, Amber Care Ltd)

Cafwyd tri gweithdy rhyngweithiol hefyd:

  • cARTrefu: Rhoddodd y gweithdy hwn gyflwyniad i cARTrefu, sef y prosiect celfyddydau cyfranogol mwyaf sy'n gweithio mewn cartrefi gofal yn Ewrop. Hefyd, cafwyd archwiliad ymarferol o sut mae artistiaid yng Nghymru yn defnyddio eu proffesiynau i wella lles pobl hŷn sy'n byw gyda dementia.
  • Labordy Arloesi Gofal Cymdeithasol: Datblygodd y gweithdy hwn gwestiynau ymchwil i gartrefi gofal, wedi'u llywio gan brofiad polisi ac ymarfer cyfranogwyr. Roedd yn llwyfan ar gyfer rhannu ac archwilio syniadau ar y cyd, gan ddefnyddio'r safbwyntiau gwahanol yn yr ystafell. Mae opsiwn i gyfranogwyr barhau i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cwestiynau ymchwil i syniadau am brosiectau a cheisiadau am gyllid ymchwil.
  • Eiliadau Hudol: Mae bodau dynol yn adrodd straeon ac yn gwneud synnwyr o'r byd drwy naratif. Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl yn dysgu orau drwy siarad â'i gilydd, a straeon yw'r sbardun perffaith ar gyfer hyn. Yn y gweithdy hwn, amlinellwyd y meddylfryd y tu ôl i ddull chwedleua o ddysgu a datblygu, a rhoddwyd ymarfer syml i gyfranogwyr y gallent roi cynnig arno yn eu cartref gofal eu hunain

Newyddion Diweddar

Awgrymiadau Gwych ar gyfer Amserau Lletchwith

Dyma ddolen i rai Awgrymiadau Gwych sydd wedi'u datblygu drwy'r rhwydwaith NIHR yn Lloegr i bobl sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a gyda nhw yn ystod pandemig. Er eu bod yn defnyddio tystiolaeth, mae NIHR yn ymwybodol y gallai'r rhain fod yn ddefnyddiol mewn bywyd go iawn neu beidio, felly maent yn chwilio am adborth ac awgrymiadau gan gartrefi gofal. Os yw'n well gennych, gallwch anfon y rhain at ENRICH Cymru a fydd yn trosglwyddo unrhyw adborth. 

Prosiect Chwerthin mewn Cartrefi Gofal

Mae'r prosiect hwn, sy'n cael ei gynnal gan Feel Good Communities Community Interest Company, yn creu adnoddau i staff cartrefi gofal, preswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio chwerthin i wella lles.  Mae'n canolbwyntio ar fanteision chwerthin i iechyd a sut y gall helpu i godi hapusrwydd, lleihau straen a gwella lles pobl sy'n gysylltiedig â chartrefi gofal. Bydd yr adnoddau ar gael ar-lein i'w lawrlwytho ac fel llyfryn argraffedig. Am ddiweddariadau ac os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch Robin Graham: robin@feelgoodcommunities.org.

Rhaglen Bywydau Cytbwys yng Nghlwstwr Iechyd Bae Abertawe

Mae elusen o'r enw Action for Elders wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Iach ac Egnïol ar gyfer prosiect a gynlluniwyd i wella iechyd a lles preswylwyr cartrefi gofal. Bydd y rhaglen lles cyfannol "Bywydau Cytbwys" yn gweithio mewn pum cymuned cartrefi gofal yng Nghlwstwr Iechyd Bae Abertawe dros y tair blynedd nesaf. Wedi'i gynllunio i wella lles corfforol, cymdeithasol a meddyliol preswylwyr, bydd yn darparu ar gyfer anghenion preswylwyr a phobl hŷn lleol drwy ymgorffori ymarferion Tai Chi ysgafn ag amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol ystyrlon, wedi'u hwyluso gan ymarferwyr profiadol.

Poster ENRICH Cymru yn cael Canmoliaeth Uchel yng nghynhadledd Ymchwil Gofal Iechyd Cymru

Cafodd poster hyrwyddo ENRICH Cymru "Developing ENRICH Cymru in Wales: Research collaboration collaboration" ei gydnabod gan Ymchwil Gofal Iechyd Cymru yn ei Gynhadledd yn 2019, yn ei gategori "arddangos partneriaeth a chydweithio". Nid enillodd y wobr gyffredinol, ond roedd yn un o ddau boster y gwnaeth y beirniaid ei ganmol yn fawr o dros 70 o geisiadau o ansawdd uchel. Gallwch weld y poster yma: https://www.healthandresearch.gov.wales/news/health-and-care-research-wales-conference-2019-showcasing-partnership-and-collaboration/

Cadwch lygad am fwy o wybodaeth:

Mae'r Ganolfan Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru https://www.healthandcareresearch.gov.wales/ yn datblygu pecyn hyfforddi 'Ymwybyddiaeth Ymchwil', yn benodol i gartrefi gofal. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion/gwyliwch y gofod hwn i gael rhagor o fanylion ac i gofrestru ar gwrs yn eich ardal.