Mae llawer o fathau gwahanol o ymchwil a allai fod ar gael ar gyfer eich Cartref Gofal penodol. Gall cymryd rhan mewn ymchwil amrywio o ddosbarthu taflenni am ymchwil i breswylwyr yn helpu i gynnal astudiaethau. Nod cefnogi ymchwil yw helpu i wella ansawdd bywyd ar gyfer preswylwyr a phobl eraill sy'n byw gyda dementia neu glefydau eraill mewn cartrefi gofal.

Bydd y rhan fwyaf o'r manteision sy'n deillio o gymryd rhan mewn ymchwil yn dibynnu ar yr astudiaeth benodol rydych yn penderfynu cymryd rhan ynddi.

  • Gall ymchwil wella cysylltiadau â gwasanaethau cymunedol a rhwydweithiau cartrefi gofal lleol eraill
  • Gall eich cartref gofal fanteisio ar ddatblygiadau newydd ym maes darparu gofal sy'n ddefnyddiol yn eich ymarfer pob dydd.
  • Gall ymchwil gynorthwyo i hyrwyddo'ch cartref gofal a rhoi gwybod i breswylwyr a'u teuluoedd bod eich cartref gofal yn ymdrechu i ddarparu ymarfer ar sail tystiolaeth.
  • Gall ymchwil gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol parhaus staff ac ail-ddilysu nyrsys.

Mae manteision ymuno ag ENRICH Cymru yn cynnwys:

  • Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd ymchwil sydd ar y gweill yng Nghymru 
  • Cymeradwyaeth ar wefan Cartrefi Gofal i hyrwyddo eich Cartref Gofal i ddarpar breswylwyr a'u teuluoedd.
  • Mynediad i hyfforddiant ar-lein am ddim 
  • Cyfleoedd i fynd i ddigwyddiadau ymchwil a hyfforddiant

Ymuno â rhwydwaith ENRICH Cymru:

Os yw cartref yn dymuno ymuno â'r rhwydwaith ENRICH, bydd aelod o dîm ENRICH yn cysylltu â'r rheolwr cartref i ddarparu rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, ateb cwestiynau a sicrhau bod y cartref yn bodloni gofynion y rhwydwaith.Gofynnwch i'ch Cydlynydd Ymchwil Cenedlaethol am ffyrdd o gymryd rhan: Stephanie Green 01792 603024 neu e-bostiwch.