Boy looking at Maggots at Swansea Science Festival

Gwella Iechyd a Gofal Cymdeithasol Byd-eang

Mae systemau iechyd a gofal cymdeithasol y DU yn darparu gofal o safon uchel o hyd; fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn archwilio technolegau a ffyrdd newydd o weithio er mwyn sicrhau y gallwn gynnal y safonau gofal rydym wedi dod i'w disgwyl.

Mae'r gwaith rydym yn ei wneud i ategu'r ethos hwn yn seiliedig ar ddiwylliant o gysylltedd, o'r myfyrwyr rydym yn eu haddysgu i'r ymchwil rydym yn ei gwneud a'n heffaith ar y byd ehangach. Elfen hanfodol o’r holl weithgarwch hwn yw cyfranogiad cleifion a darparwyr gofal yn ein gwaith, gan sicrhau ei fod yn parhau'n berthnasol i'r heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.

Seicoleg

Psychology

Ymchwil Nyrsio

Person holding hands up to sky

Public health policy and social science

Crowds

Interprofessional Health Studies

Students at computer

Datblygu Ymchwil o Safon Fyd-eang

Gan dynnu ar ymchwil flaengar, mae ein hethos o ymchwil amlddisgyblaethol a chydweithredol yn allweddol i ddenu arweinwyr ymchwil o bob rhan o'r sectorau gofal iechyd, gofal cymdeithasol, y sectorau academaidd, preifat a gwirfoddol.  Mae ymagwedd mor gadarn yn ein galluogi i ymgymryd ag ymchwil o safon uchel a fydd, yn y pen draw, o fudd i gleifion, defnyddwyr, rheolwyr a llunwyr polisi.

Ymunwch â'n Cymuned Ymchwil

Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud yn cefnogi ethos sy'n seiliedig ar ddiwylliant o gysylltedd, o'r ymchwil rydym yn ei gwneud i'r cyfleoedd rydym yn eu creu ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Mae ein hymchwil yn cael effaith fyd-eang ac mae'n sylfaen ddelfrydol i lansio gyrfa ymchwil. Elfen hanfodol o’r holl weithgarwch hwn yw cyfranogiad cleifion a darparwyr gofal yn ein gwaith, gan sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd i'r heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.

Bydd ein rhaglenni gradd ymchwil yn eich helpu i: ddatblygu gyrfa yn y byd academaidd, gwella eich rhagolygon cyflogaeth, datblygu eich sgiliau mewn gyrfa broffesiynol benodol neu gallech ddewis dilyn rhaglen ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau personol chi.

Archwilio Problemau Byd-eang

Archwilio Problemau Byd-eang yw ein cyfres o bodlediadau lle mae academyddion o bob rhan o'r Brifysgol yn trafod sut mae eu hymchwil flaengar yn helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o heriau byd-eang.

Mae themâu’r gyfres gyntaf yn cynnwys Arloesi Iechyd, Newid yn yr Hinsawdd, Ynni Gwyrdd a Thechnolegau Digidol sy'n Canolbwyntio ar Bobl. Un o'r cyfranwyr oedd yr Athro Yamni Nigam sydd wedi ymchwilio i ddefnyddio cynrhon i fynd i'r afael â'r argyfwng ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd. Cyflwynwyd yr ail bennod gan yr Athro Tom Potokar a siaradodd am ei waith ym maes anafiadau llosgi a'r gwaith i wella gofal llosgiadau a mesurau i'w hatal.

Ewch i'n tudalen podlediadau i wrando a thanysgrifio i'r gyfres. Gobeithiwn y byddwch yn ei mwynhau!