Mae pwyslais cynyddol ar allu’r Gwasanaeth Iechyd i ddarparu gwasanaeth priodol i gleifion yn Gymraeg a galw sylweddol a chynyddol yn y maes am Nyrsys a Bydwreigiaid sy’n medru’r Gymraeg, ac sy’n hyderus i ddelio â chleifion yn Gymraeg.

Mae’r Fframwaith Strategol Olynol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru yn ceisio annog mwy o ddarparwyr gwasanaethau i gydnabod bod y defnydd o’r Gymraeg yn fwy na mater o ddewis yn unig, ei fod hefyd yn fater o angen. Mae’n arbennig o bwysig i nifer o bobl agored i niwed a’u teuluoedd gael mynediad at wasanaethau yn eu mamiaith, megis pobl hŷn sy’n dioddef o ddementia neu sydd wedi cael strôc ac sydd o bosib wedi colli eu hail iaith, neu blant ifanc iawn sydd efallai ond yn siarad Cymraeg.

Yr hyn sy’n ganolog i’r holl ddadleuon dros gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yw diogelwch, urddas a pharch i gleifion. Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw a gellir peryglu ansawdd y gofal drwy fethu â chyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf. Er mwyn i chi deimlo’n hyderus i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth weithio, mae’n syniad da i chi astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fel eich bod chi’n parhau i ymarfer ac yn gyfarwydd gyda geirfa ac ymadroddion y maes er mwyn gallu defnyddio’r Gymraeg gyda chleifion. 

Caiff pob myfyriwr sy'n astudio Nyrsio;

  • Dewis gweithio gyda mentor sy'n siarad Cymraeg
  • Cael Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg (lle’n bosib)
  • Dewis dilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg
  • Cyflwyno aseiniadau yn y Gymraeg
  • Lifrai yn dangos y logo Cymraeg ar gyfer cyfnodau ymarfer
  • Lawrlwytho ein ap am ddim : Gofalu Trwy'r Gymraeg
  • Yn ogystal â hynny, mae gan bob myfyriwr israddedig cyn-gofrestru fynediad at ddogfennau portffolio dwyieithog.

 

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau

  • Cynigir Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500, i fyfyrwyr sy'n astudio Nyrsio.
  • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi ar gael i fyfyrwyr Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a Seicoleg (Mae Amodau ar y cynllun hwn)

 

Modiwlau Nyrsio sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg

Blwyddyn 1

Gweithio trwy'r Gymraeg yn yr Adran Iechyd - SHG113W 

10 Credits, Semester 2

Bydd y modiwlau hyn yn magu hyder myfyrwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol ym maes gofal iechyd. Bydd y modiwlau yn gwella cyfathrebu a dealltwriaeth yn yr adran glinigol a rheolaeth gofal y cleifion er mwyn cynnig gofal gwell i gleifion neu gleientiaid sy’n siarad Cymraeg. Mae’r modiwlau hyn ar gyfer myfyrwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Gweithio trwy'r Gymraeg yn yr Adran Iechyd - SHG016W 

10 Credyd, Semestr 2

Bydd y modiwlau hyn yn helpu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr iaith i fagu hyder, ac i fod yn fwy parod i ddefnyddio’r Gymraeg ym maes gofal iechyd. Bydd y modiwlau yn gwella cyfathrebu ac felly yn cynnig gofal gwell i gleifion neu gleientiaid sy’n siarad Cymraeg.

Cyflwyniad i Hanfodion Ymarfer Nyrsio (Maes Oedolion) -  SHN125 

10 Credyd, Semestr 1

Mae’r modiwl craidd hwn yn mynd i’r afael â meysydd allweddol penodol sy’n ymwneud â hanfodion ymarfer nyrsio a datguddio clinigol. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i’r alwedigaeth nyrsio, gwerthoedd sylfaenol yr alwedigaeth nyrsio a chodau ymarfer proffesiynol yr alwedigaeth. Plethir pwysigrwydd urddas, parch, gofal a thrugaredd i gleifion trwy’r modiwl ac fe’u cysylltir â gofal diogel sy’n canolbwyntio ar unigolion. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i fodloni anghenion corfforol ac emosiynol y cleient/ defnyddiwr gwasanaeth.

Dysgu i Ddysgu mewn Addysg Uwch ac Ymarfer Clinigol (Maes Oedolion, Plant ac Iechyd Meddwl) - SHN126 

10 Credyd, Semestr 2

Bwriad y modiwl craidd hwn yw paratoi myfyrwyr i astudio’n effeithiol mewn addysg uwch ac mewn lleoliad clinigol. Bydd cwblhau’r modiwl yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan effeithiol mewn meithrin gwybodaeth trwy amrywiaeth o strategaethau dysgu gan eu galluogi i wneud cynnydd tuag at ddod yn ddysgwyr annibynnol mewn lleoliadau academaidd a chlinigol.

Cyflwyniad i Ymarfer Proffesiynol - Semester 1 a 2

60 Credyd, Semestr 1 a 2

  • Oedolion - SHN129W
  • Plant - SHN136W
  • Iechyd Meddwl - SHN137W 

Athroniaeth y modiwl yw'r gred fod datblygiad parhaus yn sail i ymarfer proffesiynol. Drwy gydol eu bywydau proffesiynol, mae angen i nyrsys cymwys gymryd cyfrifoldeb am eu haddysg a'u datblygiad personol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen iddynt allu adnabod eu hanghenion dysgu a datblygiadol, gan ddatblygu strategaethau priodol i'w cyflawni. Ni ellir gwahanu agweddau o ddatblygiad personol a phroffesiynol. Mae'r modiwl hwn yn seiliedig ar gynnwys modiwlau eraill o fewn y flwyddyn, ac hefyd profiadau ymarferol, i gyflwyno'r cysyniad o ymarfer proffesiynol. Bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu datblygiad trwy gyfrwng portffolio a thestun clytwaith. 

 

Blwyddyn 2

Datblygu Ymarfer Nyrsio

60 Credyd, Semestr 1

  • Oedolion - SHN274W
  • Plant - SHN285W
  • Iechyd Meddwl - SHN286W  

Athroniaeth y modiwl craidd hwn yw'r gred bod datblygiad parhaus yn sail i ymarfer proffesiynol. Drwy gydol eu bywydau proffesiynol, mae angen i nyrsys cymwys fod yn gyfrifol am eu dysgu a'u datblygiad eu hunain. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen iddynt allu adnabod eu hanghenion dysgu a datblygu, a llunio strategaethau priodol i'w diwallu. Mae datblygu'n cynnwys agweddau personol a phroffesiynol oherwydd nad oes modd gwahanu'r ddwy agwedd. Mae'r modiwl hwn yn seiliedig ar gynnwys modiwlau eraill yn y flwyddyn a phrofiadau ymarfer er mwyn datblygu cysyniad ymarfer proffesiynol. Bydd myfyrwyr yn dangos yr hyn y maent wedi'u dysgu drwy greu portffolio a thestun cyfansawdd.

 

Blwyddyn 3

Ymarfer Nyrsio Arbenigol - SHN3017W 

40 Credyd, Semestr 1

Mae’r modiwl hwn, ymarfer nyrsio arbenigol oedolion, yn bennaf yn canolbwyntio ar y claf sy’n ddifrifol wael mewn lleoliadau gwahanol, ee uned gofal dwys, theatr, y gymuned, damweiniau ac achosion brys. Pynciau a gwmpesir yw cysyniadau nyrsio ac arfer proffesiynol, materion cyfreithiol a moesegol, sgiliau gofalgar a chyfathrebu, ffisioleg cymhwysol, seicogymdeithasol, ymchwil,iechyd a pholisi.

Cyfuno Nyrsio Oedolion - SHN3018W 

40 Credyd, Semestr 1

Mae’r modiwl hwn wedi’i gynllunio i ddarparu i’r myfyriwr dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud ag arfer y tu hwnt i hynny o safbwynt y gangen benodol. Mae’r modiwl hwn yn anelu i ddatblygu dealltwriaeth y myfyriwr o’i rôl reoli fel nyrs gymwysedig yn cynnwys ei ddealltwriaeth o’r rôl hon mewn perthynas ag atebolrwydd, goblygiadau polisi cymdeithasol ar gyfer ymarfer, ac ei rôl fel addysgwr ar gyfer datblygu ei hun ac eraill.

Yr Ymarfer o Nyrsio - Semester 1 a 2

40 Credyd, Semestr 1 a 2

  • Oedolion - SHN3019W
  • Plant - SHN3022W 

Mae hwn yn fodiwl bedair wythnos ar ddeg, 12 wythnos o’r rhain yn cael eu gwario yn ymarfer dan oruchwyliaeth clinigol fel y nodir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Byddwch yn cael eich mentora gan Nyrsys Cofrestredig sydd wedi eu paratoi yn benodol.


Manylion Pellach

Amanda Jones, Uwch-Ddarlithydd Nyrsio ac Arweinydd y Gymraeg i’r Coleg

Nia Williams, Darlithydd Nyrsio y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Abertawe.