Os ydych chi'n chwilio am ofod seminar, ystafelloedd cyfarfod modern a chyfarfodydd busnes neu ddigwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin, dewch i Barc Dewi Sant.

Gyda lleoliad hawdd ei ddarganfod a chyfleusterau parcio digonol am ddim, Parc Dewi Sant yw'r lleoliad delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, seminarau a digwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin. Mae gennym nifer o wahanol fathau o ystafelloedd ar gael - yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys theatrau darlithio, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar, fideo-gynadledda, ystafell gyfrifiaduron personol, a chyfleusterau ymarfer clinigol.

Gallwn ddarparu'r awyrgylch perffaith ar gyfer eich cyfarfodydd a'ch digwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin, am brisiau cystadleuol.

Darganfod mwy drwy weld ein cyfleusterau ac ystafelloedd sydd ar gael i’w hurio yma.

  • Ystafelloedd cyfarfod yn ddelfrydol ar gyfer cyfarfodydd busnes neu gyfarfodydd anffurfiol (seddau fyny hyd at 26)
  • Ystafelloedd cynadledda ar ffurf theatr haenog gyda system aerdymheru / llif aer (seddau fyny hyd at 70)
  • Fideo-gynadledda
  • Ystafell gyfrifiaduron ar gyfer hyfforddiant cyfrifiadurol (sy'n gartref i 50 o gyfrifiaduron wedi'u rhwydweithio)
  • Ystafell ymarfer clinigol ac ystafelloedd osteopathig / therapïau / harddwch
  • Cysylltiad Rhyngrwyd Di-wifr am Ddim
  • Cyfleusterau PowerPoint a bwrdd SMART
  • Cyfleusterau arlwyo
  • Digonedd o barcio am ddim
  • Mynediad llawn i'r anabl
St Davids park

Cysylltwch Gyda Ni

Teleffon – 01792 513830

E-bostiwch ni

Lleoliad

Mae Parc Dewi Sant wedi'i leoli ychydig oddi ar Heol Ffynnon Job yng Nghaerfyrddin - ychydig funudau i ffwrdd o ganol y dref a'r M4.

Gweld y lleoliad ar Google maps