Gwella gofal personol a llesiant pobl hyn sydd â dementia

Nodau’r prosiect:

Cynllunnir y model ymyrryd i ddod â thrigolion hŷn sydd â dementia ysgafn i gymedrol ynghyd â phobl iau o'u cymuned, yng nghyd-destun anffurfiol, cyfarwydd y lleoliad byw â chymorth, i ddatblygu a rhannu gweithgareddau sy'n cynnwys traddodiadau coginio a pharatoi bwyd.

Defnyddir techneg Mapio Gofal Dementia i arsylwi ac asesu effaith caiff y gweithgareddau yma ar lesiant preswylwyr hŷn.


Gellir defnyddio canfyddiadau i deilwra cynlluniau gofal unigol.

Effaith posib yr ymchwil:

  • darparu sail tystiolaeth rymus ar gyfer ymestyn model ymyrraeth i osodiadau gofal arall
  • gwella ymarfer personol y preswylydd
  • cyfoethogi llesiant preswylwyr
  • cynnig cyfleoedd i ddylanwadu ymwybyddiaeth gyhoeddus am ddementia.

 

Cyswllt Arweiniol:

Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby, Athro Cyswllt, Polisi Cymdeithasol & Heneiddio, Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio Arloesol a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia.

Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe