Cefndir

Cydnabyddir yn eang bod deall anghenion pobl 65 oed a hŷn yn hollbwysig i wneuthurwyr polisi a darparwyr gofal / gwasanaeth, oherwydd bod gan y DU boblogaeth sy'n heneiddio. (ONS, 2012).

Wrth i boblogaeth y rhai 65+ oed gynyddu, felly hefyd mae’r disgwyl o gael problemau gyda lles emosiynol. Amcangyfrifir y bydd hyn yn cynyddu un rhan o dair dros y 15 mlynedd nesaf (Mental Health Foundation, 2009).

Trosolwg Ymchwil:

Dechreua’r prosiect trwy gynnal arolwg safonedig o iechyd meddwl a lles ar amrywiaeth o breswylwyr cartrefi gofal, ac yna astudiaethau achos a phrofi arolwg yn nodi lles meddyliol y cyfranogwyr yn fwy manwl yn seiliedig ar y canfyddiadau.

Bydd yr adroddiad terfynol yn nodi meysydd arfer gorau a meysydd gwella mewn gofal sy'n ymwneud â lles unigolion.

Nodau’r prosiect:

  • I asesu materion iechyd meddwl pobl hŷn mewn sampl o gartrefi gofal yn y DU
  • I archwilio'n fanwl sut mae lles meddyliol pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn cael ei gynnal
  • I archwilio'n fanwl sut mae anghenion iechyd meddwl pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn cael eu diwallu
  • I greu graddfa iechyd meddwl newydd ar gyfer pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal, gan ystyried eu hanghenion a'u dyheadau
  • I gynnig argymhellion ar gyfer arfer gorau o ran asesu a chynnal lles meddwl a gwella iechyd meddwl pobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Effaith posib:

Mae'r canfyddiadau'n helpu i greu amgylchedd lle mae anghenion iechyd meddwl a lles meddyliol pobl hŷn yn cael eu deall yn well ac yn derbyn gofal gwell.

Cyswllt arweiniol:

Dr Charles Musselwhite, Athro Cyswllt, Polisi Cymdeithasol & Heneiddio, Canolfan am Henieddio Arloesol

Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe