Yn rhan o ARCH, mae iechyd a gwyddoniaeth yn gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl de-orllewin Cymru.  Bydd yn creu dyfodol i bobl de-orllewin Cymru sy’n darparu gwell canlyniadau iechyd, sgiliau ac economaidd. Mae’r prosiect blaengar hwn o’r radd flaenaf yn gydweithrediad rhwng dau fwrdd iechyd prifysgol, sef Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) a Hywel Dda; a Phrifysgol Abertawe. Mae ARCH hefyd yn gweithio gyda chyrff gofal cymdeithasol a gwirfoddol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnig ymagwedd systemau cyfan go iawn.

Mae ARCH yn torri’n rhydd o system gofal iechyd hynafol a gynlluniwyd dros 50 mlynedd yn ôl ac yn ei disodli ag un hygyrch a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer anghenion y presennol a’r dyfodol, mewn lleoliadau wedi’u hadnewyddu a adeiladwyd i’r diben. Mae’n canolbwyntio ar gadw pobl yn iach a rheoli clefydau’n well pan fyddant yn sâl. Bydd ARCH yn datblygu a gweithredu modelau gwasanaeth newydd yn seiliedig ar egwyddor darparu gofal yn agosach i gartref.  Bydd ehangu mynediad trwy ddatblygu seilwaith newydd ac ailddatblygu ac ailddiffinio’r defnydd o’r seilwaith presennol yn trawsffurfio llwybrau cleifion mewn ffordd radical ar draws y rhanbarth.  

Mae ARCH yn hyrwyddo ymchwil, hyfforddiant a sgiliau er mwyn helpu i gyflawni economi fywiog trwy fuddsoddiad, arloesedd a chyflogaeth gynaliadwy. Bydd economi iach, gyda llai o bobl dan anfantais neu’n byw mewn tlodi, yn ei thro yn cryfhau iechyd a lles ehangach y boblogaeth.