Cyfrannu i les iechyd a chymdeithasol cymunedau yng Nghymru
Mae'r Adran Astudiaethau Iechyd Rhyngbroffesiynol yn un o'r adrannau mwyaf amrywiol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: mae ein gweithgareddau'n cwmpasu Athroniaeth, Hanes, y Gyfraith, Bydwreigiaeth, Biowyddoniaeth, Ffisioleg Glinigol, Gwyddoniaeth Parafeddyg, a'n hychwanegiad mwyaf newydd, Osteopathi.
Ein Datganiad Cenhadaeth yw;
'Cynnal ymchwil o ansawdd uchel, hyrwyddo ymarfer clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyflwyno rhaglenni addysgol o ansawdd uchel sy'n cyfrannu at iechyd, lles cymdeithasol a ffyniant cymunedau De Orllewin Cymru a thu hwnt'.
Rydym yn dysgu ar draws bron pob cwrs a gynigir mewn Gwyddoniaeth Iechyd ac yn darparu gwasanaethau ymgynghori a hyfforddiant allanol. Rydym hefyd yn datblygu amrywiaeth o wasanaethau sgrinio a thriniaeth uniongyrchol, gan gynnwys Clinig Osteopathig Prifysgol Abertawe a Chlinig Awdioleg Prifysgol Abertawe.
Chantal Patel
Pennaeth Adran
Adran Astudiaethau Iechyd Rhyngbroffesiynol