Cyngor personol gan rywun a gafodd ei le drwy Glirio

Grace Simpson
Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, BA

“Gall y broses o ddewis eich prifysgol achosi straen. Cofiwch anadlu a sylweddoli bod llawer o ddewisiadau ar gael i chi. Gan siarad o brofiad, os dewch chi i Brifysgol Abertawe trwy Glirio, fe gewch chi eich croesawu â breichiau agored.”

 

Myfyriwr, Grace Simpson

Grace Simpson

Fy Mhrofiad o Abertawe

Fe benderfynes i fynd trwy’r broses Glirio cyn y diwrnod canlyniadau arholiadau. Dros yr haf, fe ges i amser i fyfyrio ac roeddwn i’n gwybod ’mod i eisiau gallu newid fy newisiadau prifysgol. Fe ddewises i Brifysgol Abertawe ar sail profiad cadarnhaol ges i wrth ymweld ar gyfer diwrnod agored.

Fy Astudiaethau

Roedd y radd gydanrhydedd mewn Llenyddiaeth Saesneg a Hanes wedi fy ngalluogi i gyfuno fy nau hoff bwnc, ar yr un pryd â gallu astudio ystod eang o fodiwlau a thestunau diddorol. Rydw i wedi gallu teilwra fy newisiadau modiwlau a’m haseiniadau i’m diddordebau yn ogystal ag archwilio testunau a phynciau newydd.

Mae’r modiwlau rydw i wedi’u mwynhau eleni yn cynnwys: Gwneud Hanes, Ewrop Ganoloesol, y Gorffennol yn ei Le (modiwl taith faes), Hanfodion Saesneg, Byd y Ddrama Lwyfan a Llenyddiaeth a Chymdeithas yn Ewrop Ganoloesol.

Mae’r staff yn gymwynasgar, o’m tiwtor personol i staff y llyfrgell. Mae pawb yn y brifysgol eisiau i chi lwyddo.

Gweithgareddau Allgyrsiol

Fe ymunes i â’r Gymdeithas Hanes, sydd wedi fy ngalluogi i gyfarfod â chymaint yn fwy o bobl y tu hwnt i’m cydfyfyrwyr.

Rydw i hefyd wedi dechrau gwneud saethyddiaeth. Rydw i’n dwlu arni a bellach yn rhan o dîm cefnogol i saethu ag ef.

Pam Dewis Abertawe

Mae’r brifysgol yn rhyfeddol. Heblaw am fy narlithiau, rydw i’n dwlu ar Archifau Richard Burton y brifysgol a’r ffaith y galla’ i astudio yn union nesaf at y Gerddi Botanegol hardd.

Roedd fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe yn wych. Rydw i wedi cael rhai profiadau rhyfeddol; mae’r lleoliad yn wych, ac rydw i wedi gwneud cymaint o ffrindiau. Rydw i’n edrych ymlaen at barhau â’m taith ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn gyntaf, Paid â Phanicio, Rydym Yma i Helpu

Efallai nad wyt ti wedi cael y canlyniadau yr oeddet ti'n gobeithio amdanynt, neu efallai dy fod wedi cael newid calon munud olaf am dy ddyfodol, ond nid yw hyn yn golygu na elli di barhau i astudio marchnata yr hydref hwn. Rydym yma i helpu, a byddwn ni'n rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen arnat i sicrhau dy le yn y Brifysgol drwy Glirio. Efallai ei fod yn ymddangos fel pe bai'n amser llawn straen ar hyn o bryd, ond yn bendant nid yw dod drwy Glirio yn golygu diwedd dy yrfa farchnata.

Beth sydd ei angen arnat ar gyfer Clirio?

Hoffwn dy helpu i dynnu rhywfaint o'r straen  o'r broses Glirio, felly rydw i wedi ateb ymholiadau cyffredin ac wedi darparu gwybodaeth ychwanegol, i dy helpu i baratoi ar gyfer Clirio a gwneud y gorau o'r broses gobeithio.

Cofrestrwch am ddiweddariadau clirio

Cofrestrwch am ddiweddariadau Clirio

Lleoedd sydd ar Gael drwy Glirio

Mae gan ein rhaglenni leoedd Clirio ar gael i ti ymuno â ni ym mis Medi. Dysga ragor drwy edrych ar ein tudalennau cwrs:

Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu.