Participants at the Creative Writing Symposium

Rhoddwyd cyfle i ryw 30 o weithwyr proffesiynol gofal iechyd clinigol cofrestredig o bob cwr o Gymru a thu hwnt rannu rhai o’u profiadau o fyw yn ystod pandemig COVID-19 trwy gymryd rhan yn Symposiwm Prifysgol Abertawe, Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Nyrsys.

Trwy ymuno ag awduron, darlunwyr ac academyddion proffesiynol, bu cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn ystod o brosesau creadigol i’w helpu i archwilio, cofnodi a myfyrio ar eu storïau bywyd go iawn unigryw.

Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Yr Athro Owen Sheers, awdur, bardd a dramodydd sydd wedi cael enwebiad BAFTA ac Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe, ynghyd â’r arlunydd, awdur gair llafar a nyrs, Molly Case.

Dywedodd yr Athro Sheers: “Roedd yn fewnweledol gwrando ar gyfranogwyr a dysgu o’u profiad fel nyrsys. Trwy ddefnyddio enghreifftiau o’m gwaith fy hun, arweiniais y cyfranogwyr trwy rai o’r prosesau cyd-greu a oedd wedyn yn bwydo i mewn i’w hysgrifennu.”
“Gwelon ni’n gynnar fod pandemig COVID nid yn unig yn fygythiad i fodau dynol, ond yn fygythiad i bopeth mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Mae ysgrifennu sydd wedi’i lywio gan ddyfnder ac emosiwn profiad uniongyrchol yn bwysig i’n helpu ni gyd i ddeall beth rydyn ni wedi bod trwyddo y tu hwnt i ystadegau a pholisïau, a’n helpu i ddeall canlyniadau parhaus.”

Yr academydd a threfnydd gweithdai Abertawe, Dr Laura Kalas, yw Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Dyniaethau Meddygol yn Abertawe. Dywedodd:
“Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle cyffrous i roi lleisiau creadigol i nyrsys yr oedd eu rolau wedi bod mor allweddol yn ystod pandemig Covid. Yn ogystal â gweithiau’r nyrsys, cofnododd arlunydd preswyl y digwyddiad trwy ddarluniau byw hefyd. Roedd hyn yn ffordd ddynamig o fyfyrio ar sut gallem ni gyflwyno’r pandemig ar ffurf naratif trwy wahanol leisiau a phrofiadau, gan roi cyfle i ni ailfeddwl yn radical am y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chelf.”


Mae’r symposiwm yn rhan o brosiect ehangach a ariennir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI) o’r enw ‘Gwydnwch, her a newid: Dysgu oddi wrth brofiad nyrsys o fyw trwy bandemig Covid-19 yng Nghymru a thu hwnt’ (‘Resilience, challenge and change: Learning from nurses' lived experience of the Covid-19 pandemic in Wales and beyond’). Bydd canfyddiadau o’r symposiwm ysgrifennu creadigol yn cael eu defnyddio ochr yn ochr ag ymchwil a dadansoddi academaidd ehangach sy’n ymchwilio i brofiadau presennol a hanesyddol nyrsys yn ystod pandemig.


Bydd y darnau ysgrifennu creadigol a grëwyd gan y nyrsys yn cael eu harddangos mewn arddangosfa ar-lein y flwyddyn nesaf.
Cynhaliwyd ‘Ysgrifennu am y pandemig: Symposiwm Ysgrifennu Creadigol ar gyfer Nyrsys’ (‘Writing the pandemic: A Creative Writing Symposium for Nurses’) yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe ar 10-11 Mai 2022.

Mynnwch ddarganfod mwy am gyrsiau ac ymchwil Llenyddiaeth Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori