Mynegiant o Ddiddordeb Hyfforddiant Hunaniaeth Rywedd, a ddarperir gan Stonewall

Mae Pwyllgor EDI y Gyfadran, FEDIC, yn gweithio mewn partneriaeth â'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr, a arweinir gan Mia Webber, Cydlynydd Profiad Myfyrwyr, i greu Rhaglen Cyfeillion LGBT+.
Trefnwyd digwyddiad 'Dweud Eich Dweud' llwyddiannus iawn a gynhaliwyd ym mis Chwefror. Gan weithio'n agos gyda myfyrwyr a chyda'u cymeradwyaeth, bydd cyfnod cyntaf y rhaglen yn cynnwys hyfforddiant Hunaniaeth Rywedd ar gyfer aelodau staff, a ddarperir gan ein partneriaid allanol, Stonewall.
I ddathlu BALCHDER, cynhelir yr hyfforddiant Hunaniaeth Rywedd, a ddarperir gan Stonewall, ddydd Mercher 29 Mehefin o 12:00-13:30.
Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael, felly, ar ran FEDIC a'r Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr, hoffwn wahodd mynegiannau o ddiddordeb gan aelodau staff a hoffai fod yn bresennol yn y sesiwn hyfforddiant.Byddem yn croesawu cyfranogiad staff academaidd a staff y Gwasanaethau Proffesiynol.

Beth mae'n ei olygu i fod yn gynghreiriad? Am fwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni hyn:
https://hbr.org/2020/11/be-a-better-ally
https://ideas.ted.com/how-to-be-an-ally-in-the-workplace-13-ways-to-do-it/

Llenwch y ffurflen isod:
https://forms.office.com/r/Dw8iAZLAxN


Dyddiad cau: 27 Mehefin 2022