Partneriaethau Busnes

Partneriaethau â chyflogwyr mawr, yn cael effaith go iawn

Mae SEA wedi bod yn weithredol wrth ddatblygu cytundebau a phartneriaethau allweddol â chyflogwyr mawr, sy'n ychwanegu at y cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr, yn cynorthwyo i gau'r bwlch sgiliau yn y rhanbarth ac yn aml yn arwain at swyddi ar lefel raddedig i'n myfyrwyr. Dyma rai enghreifftiau:

Fujitsu

Mae Fujitsu wedi sefydlu swyddfa ddatblygu â 15 aelod staff yn gweithio ar Gampws y Bae, gan gydweithio ar brosiectau â'r Brifysgol a diwydiant ehangach yn y rhanbarth a'r tu hwnt. Mewn partneriaeth â Fujitsu, cynhaliodd staff Parth Cyflogaeth SEA brosiect cyflogadwyedd peilot. Yn seiliedig ar gwestiwn am dechnoleg wisgadwy a ofynnwyd iddynt gan un o'u cleientiaid, gwahoddodd Fujitsu fyfyrwyr i gymryd rhan mewn hacathon 24 awr mewn timau, i ddod o hyd i ateb ymarferol. Yn ogystal ag ennill darn o dechnoleg wisgadwy, cafodd pob aelod o'r tîm buddugol gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad gwaith â thâl dros yr haf gyda Fujitsu, wedi'i ariannu'n rhannol gan SEA. Ar ben hynny, aeth rhai o'r myfyrwyr hyn ymlaen i ennill hacathon Ewropeaidd, ochr yn ochr â staff Fujitsu ac, o ganlyniad, cafodd dau o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe eu cyflogi gan Fujitsu mewn rolau technolegol graddedig.

Gyda chymorth SEA, mae'r Brifysgol wedi sefydlu Memorandwm Dealltwriaeth yn 2016 gydag Admiral, yr unig gwmni yng Nghymru sy'n aelod o'r FTSE 100.  Mae hyn yn atgyfnerthu'r berthynas ag Admiral, sy'n aelod o Fwrdd Strategaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Bydd y cydweithrediad yn helpu i sicrhau bod graddedigion dawnus yn gallu aros yn y rhanbarth a chefnogi twf economi Cymru mewn marchnad fyd-eang. Yn 2018, cyflogodd Admiral chwe myfyriwr graddedig o Abertawe, gan gynrychioli 25% o'u gweithwyr graddedig newydd ar gyfer 2018.

 

Mae'r berthynas â Tata yn enghraifft o ganolfan rhagoriaeth ranbarthol a chlwstwr technoleg uchel yn cysylltu'r gadwyn gyflenwi leol drwy brosiectau ymchwil newydd, cyfleoedd masnachol, cyllid, hyfforddiant a chydweithrediadau pellach.  Drwy Femorandwm Dealltwriaeth pwrpasol, datblygwyd cyfleoedd yn y cwricwlwm, gwelliannau i asesiadau, darlithoedd gwadd, hyfforddiant ar y cyd, ysgoloriaethau, lleoliadau gwaith haf, lleoliadau gwaith am flwyddyn, swyddi graddedig a phrosiectau ymchwil blwyddyn olaf. O ganlyniad i'r cytundeb pwysig hwn, mae'r Brifysgol wedi dod yn brif ffynhonnell gweithwyr graddedig Tata yn y rhanbarth.

"Mae'r graddedigion sy'n dod atom drwy ein partneriaeth â rhaglen EngD Abertawe yn aelodau hanfodol o'n hadrannau technegol a rheoli. Mae allbynnau eu hymchwil yn effeithio'n uniongyrchol ar allu ein busnes i gystadlu ac mae'r nifer mawr sy'n gweithio yn ein cadwyn gyflenwi yn parhau i ychwanegu gwerth ar ôl iddyn nhw adael y Brifysgol"