Cefndir

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ceisio darparu cynifer o gyfleoedd i’n myfyrwyr gael cymaint o brofiad diwydiannol yn ystod eu hamser yn astudio gyda ni â phosib.Yn yr haf 2020, daethom at ein gilydd o’r Coleg Peirianneg, y Coleg Gwyddoniaeth, yr Ysgol Reolaeth, Academi Cyflogadwyedd Abertawe a’r Tîm Menter er mwyn cyflwyno Her Sgiliau Diwydiannol.

Y cwmni a oedd yn cymryd rhan yn y prosiect hwn oedd Aspire2Be.Cwmni Technoleg Dysgu yw Aspire2Be (A2B), a leolir yng Nghymru, sy’n defnyddio methodoleg Deallusrwydd Artiffisial er mwyn creu ar y cyd atebion digidol ar gyfer cwsmeriaid ym myd Addysg, Chwaraeon a Busnes.

Yr Her  

Oherwydd y cyfnod digynsail sydd heb ei debyg o’r blaen a’r cyfyngiadau sy’n cael eu gweithredu yn ystod Covid-19, roedd prinder cyfleoedd gan rai o’n myfyrwyr yn ystod yr haf a gwnaethant golli profiad gwaith gwerthfawr oherwydd y pandemig.

Roedd yr Her Sgiliau Diwydiannol yn cynnwys myfyrwyr yn gweithio’n rhithwir am dair wythnos mewn tîm amlddisgyblaethol ar her a ddarparwyd gan fyd diwydiant, gan gyflwyno eu hatebion i’w datrys.

Cafodd myfyrwyr o ddisgyblaethau gan gynnwys Peirianneg, Cyfrifiadureg a Busnes gynnig interniaethau ym maes Marchnata Cynnyrch dros gyfnod o dair wythnos yn yr haf 2020, er mwyn helpu i farchnata cynnyrch, creu cronfeydd data neilltuol ac archwilio i gyfleoedd marchnata posibl.

Canlyniadau llwyddiannus

Darparodd yr Her Sgiliau Diwydiannol gyfle i’n myfyrwyr ymgymryd ag interniaethau rhithwir a chael profiad gwerthfawr go-iawn o ryngweithio â byd busnes, a pharhau i ddatblygu eu sgiliau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

Roedd gweithio’n ddigidol gyda byd diwydiant a chyda’i gilydd yn gwella’r cyfle i’n myfyrwyr weithio ar y cyd ac ar draws adrannau a disgyblaethau.

Barn y cyfranogwyr?

Samuel Fuller, Blwyddyn 1 Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant:

“Roeddwn i eisiau gwella fy CV drwy wneud rhywfaint o waith ffurfiol a sicrhau geirda i wneud ymgeisio am swydd ar gyfer fy mlwyddyn ar leoliad yn haws. Mae’n ffordd wych o ddysgu a dangos sgiliau meddal fel gweithio gyda thîm a chyfathrebu, a chyflwyno syniadau i grŵp.

“Ar y cyfan, roedd yn brofiad llawn hwyl a phleserus.Roedd gweithio gyda myfyrwyr o feysydd eraill yn ddiddorol oherwydd imi gael cipolwg ar y ffordd maen nhw’n mynd i’r afael â phroblemau.

“Roedd Aspire2be yn gyfeillgar iawn ac yn helpu llawer, a chawson ni lawer o sgyrsiau cadarnhaol.Roedd y tasgau a osodwyd yn anghyffredin i mi fel myfyriwr cyfrifiadureg, a oedd yn her i mi ond llwyddais i’w cwblhau nhw.”

Alex Dobbins, Blwyddyn 2 Peirianneg Awyrofod:

“I fi, roedd gweithio mewn tîm gyda phobl eraill o ddisgyblaethau eraill yn dda gan fod cryfderau gwahanol pobl yn dod i’r amlwg yn sgîl eu profiadau gwahanol.Fel myfyriwr Peirianneg, roedd yr interniaeth/her hon ychydig yn wahanol ac roedd hi’n seiliedig ar farchnata.Fodd bynnag, mae’n agor cyfleoedd a phrofiadau gwahanol ac roeddwn i’n gallu defnyddio’r sgiliau a ddysgais drwy fy ngradd mewn Peirianneg er mwyn mynd i’r afael â’r tasgau marchnata.

"Roedd Aspire2Be yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar iawn ac roedden nhw'n drefnus iawn ac yn angerddol am eu cwmni. I fi, roedd gweithio gyda phobl a oedd yn frwdfrydig am eu swyddi yn gwneud yr her yn llawer mwy diddorol."

Weethy Kumar, Blwyddyn Olaf MSc mewn Rheolaeth:

“Roedden ni’n gweithio mewn grŵp o bedwar ac roedd y tasgau’n cynnwys marchnata a dadansoddeg data i weithio ar y cyd, a gwnaethon ni gydlynu ein gwaith drwy e-bost gan ein bod ni bob amser yn cwrdd yn rhithwir!

“Gwnaeth y dasg ddysgu imi sut i amldasgio (gan fy mod i’n ysgrifennu fy nhraethawd hir) a fy helpu gyda sgiliau cyflwyno.Ces i gyfle i ddefnyddio fy ngwybodaeth o'm modiwl marchnata a strategaeth ar brosiect yn y byd go iawn. Gwnaeth wir wella fy sgiliau dadansoddi a dysgu imi gael mwy o ffocws a chanolbwyntio ar fanylion.

 “Roedd tîm Aspire2Be yn anhygoel, a gwnaethon nhw roi inni lawer o wybodaeth, cymorth a chysylltiadau angenrheidiol i gronfeydd data/meddalwedd.Roedd hi’n hawdd iawn mynd atyn nhw, roedden nhw’n frwdfrydig ac yn ein hannog ni fel tîm i wireddu’r canlyniadau."

Simon Pridham, Partner Addysg yn Aspire2Be:

“Mae gweithio rhithwir yn cynnig manteision yn bendant ond mae'n gallu bod yn her hefyd. Fodd bynnag, cafodd heriau'r prosiect pedair wythnos hwn eu goresgyn drwy graffter y pedwar ymgeisydd llwyddiannus, drwy eu hymagwedd ragweithiol iawn ac wrth i bob un ohonynt ddangos ystod ardderchog o sgiliau i gefnogi Aspire2Be, yn enwedig y tîm marchnata, i hyrwyddo'r platfform dysgu ar-lein, AspirEd, i gynulleidfa lawer ehangach." 

Kelly Jordan, Swyddog Entrepreneuriaeth yn Prifysgol Abertawe:

"Rydym yn clywed yn aml bod cwmnïau'n chwilio am syniadau newydd ac arloesol i ddatblygu eu model busnes a datrys problemau, yn enwedig mewn amserau mor ansicr.Rydym yn annog ein myfyrwyr i feithrin meddylfryd entrepreneuraidd drwy gynnig cyfleoedd fel hyn iddynt, lle maen nhw'n gweithio mewn grwpiau amlddisgyblaethol i ddatrys problemau mae cwmnïau yn eu hwynebu." 

Os ydych chi'n credu y gallai'ch sefydliad elwa o ymgymryd â lleoliad myfyriwr, cysylltwch â ni. Os ydych am ddatblygu dyfodol eich sefydliad, neu os oes gennych brosiect mae angen ei gwblhau, mae gennym raglen profiad gwaith i ddiwallu'ch anghenion.