Llongyfarchiadau Dosbarth 2021!
Am ein bod ni, o’n hanfodd, wedi gorfod gohirio seremonïau graddio’r Haf 2021, hoffen ni achub ar y cyfle hwn i’ch llongyfarch chi ar eich cyflawniadau a’ch gwaith caled yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar y dudalen hon, wrth ochr y ddolen i’ch negeseuon dathlu pwnc-benodol, mae negeseuon gan yr is-ganghellor a Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â gwybodaeth arall yr oedden ni’n meddwl y gallai fod o ddiddordeb i chi.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ôl yn bersonol pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny ar gyfer eich seremoni raddio. Sicrhewch eich bod chi’n cofrestru â Rhwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe oherwydd dyma sut y byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad gyda chi.