Rydym yn helpu i ddiogelu adnoddau dŵr rhag effeithiau tân gwyllt

Rydym yn helpu i ddiogelu adnoddau dŵr rhag effeithiau tân gwyllt

Yr Her

Mae tanau gwyllt sy'n fwyfwy helaeth a difrifol ac wedi'u hachosi gan newidiadau yn yr hinsawdd ac o ran defnydd o dir, yn creu heriau mawr ledled y byd. Mae eu heffeithiau'n cynnwys lludw tanau gwyllt llawn maetholion a difwynwyr yn erydu o lechweddau i afonydd a chronfeydd dŵr. Gall hyn arwain at ddifwyno dŵr sy'n effeithio ar ecosystemau dyfrol a chyflenwad dŵr i ddinasoedd mawr hefyd. Un o'r prif heriau wrth fynd i'r afael â'r broblem hon oedd diffyg cyfarpar sy'n ein galluogi i ragweld a lliniaru digwyddiadau difwyno ar ôl tanau. 

Rocky gully

Y Dull

Mewn cydweithrediad â'r cyflenwyr dŵr mawr Water New South Wales, (Awstralia) ac United Utilities (y Deyrnas Unedig), Chyngor Ynys Tenerife (Sbaen), ac mae gan gydweithwyr yng Wasanaeth Coedwigoedd yr Unol Daleithiau a Phrifysgol Melbourne, mae tîm yr Athro Stefan Doerr wedi datblygu cyfres o gyfarpar a model i ddefnyddwyr sy'n ein galluogi i ragweld symudiadau gwaddod, lludw a difwynwyr ar ôl tanau gwyllt go-iawn neu rai disgwyliedig yn y dyfodol. Mae allbynnau'r model yn cynnwys nodi mannau o bwys o ran erydu yn y dalgylchoedd y gellir eu trin er mwyn atal erydu difrifol ac atal digwyddiadau difwyno cysylltiedig yn llwyr.  

Forest and river

Yr Effaith

• Yn 2019/20 yn Awstralia, llosgodd tanau gwyllt ardal fawr o goedwig heb ei thebyg o'r blaen, gan gynnwys llawer o brif ddalgylchoedd cyflenwi dŵr domestig dinas Sydney a'r cyffiniau. Gwnaeth cymhwyso ein cyfarpar gefnogi gwaith cyflenwi dŵr yn barhaus i Sydney ar ôl glaw trwm a arweiniodd at erydu lludw helaeth yn y brif gronfa cyflenwi dŵr.
• Hefyd, mae ein model wedi cael ei gymhwyso i ragfynegi effaith tanau yn y dyfodol ar ddalgylchoedd y mae United Utilities (yn y Deyrnas Unedig) yn ystyried bod ganddynt risg uchel o ran effaith tân yn y dyfodol, gan gefnogi eu mesurau i leihau risg ac effaith tanau gwyllt.
• Hefyd, gwnaethom ddatblygu triniaeth lliniaru erydu newydd ar gyfer lleihau symudiad pridd a lludw, sydd eisoes wedi'i mabwysiadu fel arfer safonol yn Ynysoedd Canarïa oherwydd ei heffeithiolrwydd uwch a'i heffeithiolrwydd o ran cost o'i chymharu â thriniaethau brys confensiynol ar gyfer llechweddau.

May 28 2021

Swyddog Ymchwil

Dr Jonay Neris

Dr Jonay Neris
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Climate Action
UNSDG 14 Life Below Water
UNSDG Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe