Y Brifysgol yn Cefnogi'r Ymgyrch Ailgylchu Genedlaethol

Fel ffordd o ddathlu Wythnos Ailgylchu, a ddechreuodd ddoe, mae'r Brifysgol yn cefnogi ymgyrch Wrap Cymru, sef Bydd Wych, Ailgylcha, ac yn dangos y gefnogaeth honno drwy droi Tŷ Fulton yn wyrdd bob nos yr wythnos hon.

Defnyddir goleuadau gwyrdd i oleuo'r adeilad yng nghanol Campws Singleton a dathlu ymrwymiad Cymru i ailgylchu.

Mae pobl ifanc yng Nghymru'n ailgylchu'n fwy nag erioed o'r blaen – yn ôl yr ystadegau, mae mwy na thri chwarter y bobl rhwng 18 a 24 oed yn ailgylchu'n rheolaidd ac mae 76% yn ailgylchu'n fwy eleni nag yn 2019.

Meddai Pennaeth Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe, Dr Heidi Smith: “Mae Cymru'n wlad fach sy'n rhagori o ran ailgylchu. Dim ond dwy wlad yn y byd sydd o'n blaen ni ac yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym am wneud popeth posib i roi Cymru ar y brig.”

Mae ailgylchu'n chwarae rôl wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac mae'n rhywbeth bach y gall pawb ei wneud er mwyn helpu i gael effaith go iawn. Mae Prifysgol Abertawe wedi cymryd camau sylweddol dros y blynyddoedd er mwyn lleihau gwastraff a chynyddu cyfraddau ailgylchu.

Ychwanegodd Dr Smith: “Mae ailgylchu bellach yn gyffredin yma ac mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn ailgylchu fel rhan o'u trefn feunyddiol. Maent yn ailgylchu croen ffrwythau a llysiau, plisg wyau, bagiau te a bwyd dros ben yn eu blychau bwyd; yn ailgylchu deunydd o bob ystafell, gan gynnwys yr ystafell ymolchi a'r ystafell wely; ac yn ailgylchu eitemau lletchwith megis erosolau gwag. "Ar gampws, maent yn gwneud y mwyaf o'n biniau gwastraff a’n biniau ailgylchu ar wahân.”

Ond er bod cynnydd wedi cael ei wneud, dywedodd y Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Fiona Wheatley y gellid gwella o hyd.

“Rydym yn gwybod bod ein myfyrwyr yn poeni am newid yn yr hinsawdd a'u bod am wneud popeth posib i wneud Cymru'n lanach ac yn wyrddach. Gyda'n gilydd, gallwn helpu Cymru i gyrraedd y brig a diogelu'r blaned drwy ailgylchu mwy o'r pethau cywir, bob tro.”

Yn ôl y Tîm Cynaliadwyedd, mae ailgylchu'n haws nag erioed yn y Brifysgol. Mae'r cwmni Veolia yn casglu deunydd ailgylchu a gwastraff bwyd bob wythnos a cheir biniau ailgylchu yn fewnol ac yn allanol ar y ddau gampws sy'n golygu y gellir gwahanu papur, plastigion, caniau, bwyd a gwydr yn hawdd.

Awgrymiadau Gwych i Gymru Gyrraedd y Brig

  • Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn un o'r ffyrdd hawsaf i roi hwb i'n cyfraddau ailgylchu. Rhowch eich gwastraff bwyd - does dim ots pa mor fach - yn eich cadi gwastraff bwyd er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gasglu bob wythnos;
  • Nid yw ailgylchu'n stopio wrth ddrws y gegin – cofiwch ailgylchu o ystafelloedd eraill hefyd. Byddech yn synnu faint y gallwch ei ailgylchu o wastraff yr ystafell ymolchi fel poteli siampŵ, cyflyrydd, sebon a gel ymolchi;
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwybod y gall poteli dŵr, caniau, a phapur a chardbord gael eu hailgylchu, ond peidiwch ag anghofio y gallwch hefyd ailgylchu eitemau mwy anarferol megis erosolau gwag. Ac os nad ydych yn siwr beth y gallwch ei ailgylchu neu beidio, ewch i Leolydd Ailgylchu Nwyddau Cymru; a,
  • Gwasgwch ganiau, potiau, tybiau a hambyrddau i arbed lle yn eich bagiau, biniau, blychau neu gadi ailgylchu. Rhowch olchiad cyflym iddynt cyn eu hailgylchu - does dim angen defnyddio dŵr rhedeg, bydd golchiad cyflym yn y bowlen golchi llestri'n iawn.

Ewch i i gael mwy o wybodaeth, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau ac yn y cyfryngau cymdeithasol ledled Cymru neu ymunwch yn y sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #CymruYnAilgylchu

 

Rhannu'r stori