O draeth a thwyni'r Bae i goetir, dolydd a gerddi Parc Singleton, rydym yn rhannu ein campysau ag amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan roi cyfleoedd i ymchwilio, addysgu sgiliau hanfodol i'r genhedlaeth nesaf o ecolegwyr, a darparu amgylchedd iach a hamddenol i staff, myfyrwyr a phreswylwyr lleol i gael eu cefn atynt.

Wedi ein harwain gan ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth 2022-2025, rydym wedi ymgorffori technegau garddio sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt yn y ffordd yr ydym yn gofalu am ein tiroedd, gan ddiogelu'r hyn sy'n bwysig a nodi ardaloedd addas i greu cynefinoedd newydd. Wrth ddatblygu'r Brifysgol, rhaid ystyried bywyd gwyllt, er mwyn cynyddu bioamrywiaeth yn gyffredinol. Ni oedd y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i ennill statws Caru Gwenyn. Dyfarnwyd Baneri Gwyrdd i’r ddau gampws ac mae ein prosiect 'Buzz across the Bay' wedi ennill Gwobr y Canghellor 2023 gan gyrraedd rownd derfynol gwobrau Green Gown.

Gerllaw Campws y Bae y mae ein gwarchodfa natur, Twyni Crymlyn. Mae'r twyni, y morfa heli a'r traeth wedi'u gwarchod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn ogystal â darparu cartref i fywyd gwyllt, mae Twyni Crymlyn a'n campysau'n gerrig camu pwysig i fywyd gwyllt sy’n symud drwy Abertawe a'r tu hwnt, ac rydym yn cydlynu ymdrechion gyda'n partneriaethau natur lleol i gryfhau gwytnwch ecosystemau lleol yn ystod y cyfnod hwn o newid amgylcheddol digynsail.

An icon depicting our natural environment - hands holding a white flower against a light green background.

Twyni Crymlyn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Cyfarfod â Bywyd Gwyllt ar y Campws

Cymryd Rhan