ann john

Mae’n teimlo fel gallwn ni wneud gwahaniaeth, a phob darn mor bwysig mewn ffordd wahanol iawn â fy nyddiau ym maes gofal clinigol uniongyrchol...

"Rwyf yn aml wedi ystyried sut arweiniodd fy llwybr gyrfa o gymhwyso fel meddyg trwy fod yn Feddyg Teulu ac ymwneud â maes iechyd cyhoeddus at faes ymchwil atal hunanladdiad. Ni chafodd hyn ei gynllunio. Nid oes amheuaeth bod cleifion penodol mewn trallod, os oedd hynny’n amlwg yn syth neu gafodd ei ddatgelu, a welais ar hyd y blynyddoedd, wedi’u hargraffu yn fy nghof, wedi chwarae rhan enfawr. Mae’r awydd i
wneud gwahaniaeth. Fodd bynnag, ym maes Meddygaeth ceir cyfleoedd enfawr i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ar draws nifer o bynciau arbenigedd.

Ceir damcaniaeth ym maes ymchwil atal hunanladdiad sy’n esbonio pam bod pobl yn ymgysylltu ag ymddygiad sy’n gysylltiedig â hunanladdiad sy’n cynnwys y cysyniad o ymdeimlad rhwystredig o berthyn – teimlo ei fod heb ei dderbyn. Tybed a roddodd y profiad o dyfu i fyny yng ngogledd Llundain fel plentyn i fewnfudwyr, arallrwydd eistedd rhwng dau fyd a heb berthyn yn iawn yn y naill neu’r llall, gipolwg bach a chyfle i dderbyn yn go iawn y teimladau hynny mewn pobl eraill ac awydd i amddiffyn ac eirioli dros bobl fregus.

Yn yr ymchwil yr ydym yn ei chynnal mae fy nhîm yn defnyddio gwyddor ddata, cyfosod tystiolaeth a chyfweliadau ansoddol er mwyn deall ymddygiad sy’n gysylltiedig â hunanladdiad. Ond y gwaith o drosi’r ymchwil honno yn bolisi ac ymarfer sy’n gymhelliant i ni - os yw hynny’n datblygu canllawiau ar gyfer holl ysgolion Cymru ar gyfer hunan-niweidio, cynghori ar straeon ar gyfer rhaglenni teledu megis Coronation Street, neu lunio dogfennau strategol. Mae bod yn academydd yn caniatáu rhyddid ar gyfer rhoi cyngor gwyddonol annibynnol a datblygu gwybodaeth ddwys am faes pwnc. Mae’n rhodd o yrfa.

Ceir pryderon gall pandemig COVID-19 a’r mesurau a gymerwyd er mwyn atal yr ymledu effeithio ar gyfraddau hunanladdiad. Ond nid yw hunanladdiad yn anochel ac nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd a fydd cyfraddau hunanladdiad yn cynyddu. Mae angen i ni weithredu’n gynhwysfawr er mwyn lleddfu’r risgiau hynny’n gynnar. Gellir gwneud hyn trwy, er enghraifft, rwydi diogelwch ariannol a gwasanaethau rheng flaen gan fynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol, tarfu ar ofal iechyd meddwl, cynnydd arfaethedig mewn achosion o gam-drin domestig a siociau economaidd-gymdeithasol. Mewn ymateb cyflym, ffurfiodd grŵp o ymchwilwyr atal hunanladdiad o ledled y byd Gydweithfa Ymchwil Atal Hunanladdiad Rhyngwladol COVID-19 er mwyn hysbysu hyn ac rwyf yn aelod o’r grŵp llywio. Yn Abertawe dechreuodd Banc Data SAIL fodelu data iechyd a marwoldeb bron â bod mewn amser go iawn er mwyn cefnogi ymatebion iechyd cyhoeddus gan weithio’n agos â Llywodraeth Cymru. Mae fy nhîm yn edrych ar ddata iechyd meddwl. Mae’n teimlo fel gallwn ni wneud gwahaniaeth, a phob darn mor bwysig mewn ffordd wahanol iawn â fy nyddiau ym maes gofal clinigol uniongyrchol. Felly, er ei bod hi’n ymddangos fel fy mod wedi symud yn bell o fy nyddiau mewn ysbytai ac ymarfer meddygol i faes ymchwil nid yw’r symud mor sylweddol â hynny yn ei hanfod."

Mwy gan Ann