Roger Phillips

BSc Biocemeg. Blwyddyn Graddio 1977. Arweinydd Busnes. Ymgynghorwr. Mentor.

Beth wnaeth ichi ddewis Prifysgol Abertawe ar gyfer eich gradd?

Yr ateb gonest i hyn yw y gwnes dipyn o lanast gyda’m Safonau Uwch ac roedd yn rhaid imi benderfynu naill ai i ail-sefyll rhai ohonynt neu i fynd i’r brifysgol. Gwnaeth fy mhrifathro yn yr ysgol yn Abertawe fy annog i fynd i Brifysgol Abertawe a’m helpu i feddwl. Gan feddwl yn ôl, roedd yn gywir yn fwy na thebyg ac roedd arnaf angen rhywun i roi cyngor da imi'r adeg honno. Mae hyn yn dipyn o syndod, gan nad oedd fy mherthynas ag ef yn wych cyn hynny, ond  gwnaeth yn dda drosof pan roedd ei angen arnaf. Rwyf yn gwybod bellach pa mor bwysig y mae cyngor da gan bennaeth, athrawon a darlithwyr yn gallu bod, ac rwyf wedi gweld hyn yn digwydd eto gyda’m plant i.

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser fel myfyriwr yn Abertawe?

Roeddwn yn byw gartref pan roeddwn yn Abertawe, a oedd yn eithaf anarferol ar yr adeg honno mewn sawl ffordd, roedd hi hefyd yn rhyfedd oherwydd fy mod yn chwarae rygbi dros y Mwmbwls ac nid y Brifysgol, efallai heddiw byddwn wedi newid hyn. Yn y dyddiau hynny, roedd llawer o fyfyrwyr yn byw yn y Mwmbwls ac roeddem yn arfer “bodio” pas i’r Brifysgol bob dydd sydd mor wahanol i heddiw. Roedd gennyf atgofion mawr o bron llosgi’r labordy Cemeg i’r ddaear pan adawais losgwr Bunsen wedi’i danio o dan silff bren a llenwi’r labordy gydag ewyn o’r peiriant golchi llestri - ŵps. Roedd y bywyd nos yn wahanol iawn i heddiw, eto roedd bron popeth yn y Mwmbwls, mae meddwl am Nutz, Cinderellas ac Amandas yn dal i wneud imi wenu, chwerthin a chrynu. Roedd ennill fy ngradd yn foment eithaf da hefyd.

Gwnaethoch raddio gyda gradd mewn Biocemeg. Beth wnaethoch ar ôl graddio?

Ar ôl graddio, gwnes radd doethur yn Ysbyty’r Santes Fair yn Llundain, roedd hyn am sawl reswm, roeddwn i wir am barhau ym myd addysg, roeddwn yn uchelgeisiol ac yn dymuno cael her y PhD sy’n fath gwahanol iawn o ddysgu, ac a bod yn onest nid oeddwn yn barod i ddechrau meddwl am waith. Ar ôl hyn, gwnes gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Birmingham cyn penderfynu bod angen imi ddod o hyd i swydd.

"Gweithiais mewn sefydliadau a chanddynt ddibenion eglur iawn, maent yn uchelgeisiol o ran tyfu, ac mae ganddynt strategaethau a ddiffinnir yn eglur ac sy’n rhoi pobl yn y canol, o ganlyniad rwyf wedi mwynhau pob dydd mewn gyrfa 40 mlynedd."

Sut gwnaethoch gyrraedd Danone?

Roedd fy swydd gyntaf mewn cwmni fferyllol arbenigol o’r enw Amersham International, lle gweithiais ym maes ymchwil a datblygu. Yn gyflym, sylweddolais yr oedd fy uchelgeisiau’n cynnwys gweithio’n fwy yn ardal fasnachol y busnes a gweithiais yn galed i’w hargyhoeddi i’m caniatáu i symud i’r Adran Farchnata. Gwnes ddarganfod mentor a’m helpodd i wneud hyn ac ar y pryd roeddwn yn werthfawrogol dros ben am ei gred ynof a’m tywys trwy hyn. Yn fuan, prynwyd adran Ddiagnosteg Feddygol y cwmni, lle roeddwn yn gweithio, yn gyntaf gan Kodak (i strategwyr busnes y byd, mae cwymp y cwmni hwn yn astudiaeth achos ddiddorol dros ben) ac wedyn gan Johnson and Johnson lle gweithiais ym Mharis ac yn New Jersey, UDA. Tua’r flwyddyn 2000, penderfynais ddefnyddio’r hyn roeddwn wedi’i ddysgu, a newid cwmni i ddefnyddio fy ngwybodaeth o’r radd flaenaf er mwyn gweithio i gwmni llai lle gallwn ddylanwadu ar agenda’r busnes yn llawer mwy. Felly des i’n ôl i’r DU i weithio i Nutricia, cwmni a oedd yn arwain y byd ym maes maetheg feddygol. Wedyn, prynwyd Nutricia gan Danone, un peth rwyf wedi dysgu gan hyn yw sut i reoli’ch hunan mewn diwylliannau corfforaethol ac arddulliau rheoli gwahanol iawn. Dechreuais yno fel Cyfarwyddwr Marchnata ar gyfer y busnes yn y DU, Cyfarwyddwr Categori yn y pencadlys, wedyn Rheolwr Cyffredinol ar gyfer y busnes yn y DU, cyn dod yn Is-lywydd Rhanbarthol ar gyfer gogledd Ewrop ac Awstralia/Seland Newydd. Fy swydd ddiwethaf oedd gweithio yn y pencadlys yn Amsterdam fel Prif Swyddog Masnachol, Is-lywydd Gwerthiant a Marchnata yn Is-adran Feddygol Danone. Gweithiais mewn sefydliadau a chanddynt ddibenion eglur iawn, maent yn uchelgeisiol o ran tyfu, ac mae ganddynt strategaethau a ddiffinnir yn eglur ac sy’n rhoi pobl yn y canol, o ganlyniad rwyf wedi mwynhau pob dydd mewn gyrfa 40 mlynedd.

Ydych chi wedi defnyddio’ch gradd yn eich swydd?

Ydw, drwy’r amser, mae fy holl yrfa wedi cynnwys gwyddoniaeth ac iechyd, gan ddechrau ym maes ymchwil a datblygu ond, y rhan fwyaf ohoni mewn swyddi masnachol. Gwnaeth fy nghefndir mewn gwyddoniaeth roi imi fantais fawr, er enghraifft wrth siarad â chwsmeriaid a deall sut i droi arloeseddau newydd yn llwyddiant masnachol trwy ddangos gwerth i bob math o gwsmeriaid o Athrawon mewn Meddygaeth, i gwmnïau yswiriant mawr a chyrff llywodraeth sy’n talu am ein cynnyrch. Roeddwn yn lwcus o’r safbwynt hwn, gan fod gan y rhan fwyaf o’m cydweithwyr gefndiroedd masnachol pur, ond roeddwn innau’n gallu deall yr wyddoniaeth, hyn oedd fy mhwynt gwerthu unigryw mewn ffordd. Ar y llaw arall roedd yn rhaid imi ddysgu Marchnata, Cyllid ac yn y blaen, gwnes i hyn trwy fynd ar gyrsiau, cael cydweithwyr yn fy addysgu, holi llawer o gwestiynau a’m gwaith darllen fy hun - rwyf wedi adeiladu casgliad mawr o lyfrau busnes.

Beth yw eich cyflawniad mwyaf yn eich gyrfa?

Mae cynifer o ffyrdd o ateb hyn, llwyddiant ariannol, llwyddiant gyda phobl a phethau sy’n gwneud ichi deimlo’n dda. Roeddwn yn lwcus iawn i fod yn gyfrifol am frand a wnaethon lwyddo i’w dyfu o refeniw gwerthiant o lai nag €20 miliwn i ymhell dros €200 miliwn. Roeddwn wir yn mwynhau rheoli ein busnes yn y DU lle gwnaethon lwyddo i ennill llawer o bwyntiau yn ein cyfran o’r farchnad ac i wir hybu ein gwaith ymgysylltu â phobl, mae gwneud i bobl deimlo’n gyflawn a mwynhau eu gwaith wrth adeiladu’r busnes yn rhywbeth roeddwn bob amser yn falch ohono. Tra byddaf bob amser yn gystadleuol ac wedi fy ysgogi gan rifau, rwyf yn meddwl yn aml am y llythyron y byddai cwsmeriaid yn eu danfon i ddiolch inni am y ffordd roeddem yn darparu cynnyrch a gwasanaethau iddynt, darparu profiad rhagorol i gwsmeriaid yw’r peth sy’n gwneud y gwahaniaeth yn y pen draw. Ac mae’n rhaid imi sôn am sut mae fy nheulu wedi fy helpu trwy hyn i gyd, mae cadw’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn gyflawniad cydradd pwysig.

"Mae Abertawe’n lle arbennig ac yn brifysgol wych..."

Pa gyngor fyddech yn ei roi i unrhyw un sy’n ystyried astudio yn Abertawe?

Mae Abertawe’n lle arbennig ac yn brifysgol wych, ymgollwch yn y profiad, amsugnwch yr wybodaeth i gyd, dysgwch gan bawb, meddyliwch am baratoi ar gyfer eich cam nesaf a mwynhewch eich hun, joiwch, ni fyddwch byth yn cael yr amser hwn eto.