Michael Salisbury

BA Daearyddiaeth (2008)
Pennaeth Cynorthwyol Chweched Dosbarth Ysgol y Fonesig Allan

Eich gyrfa

Rwyf yn athro Daearyddiaeth ac yn bennaeth cynorthwyol chweched dosbarth ysgol ddydd annibynnol yn Newcastle upon Tyne. Rwyf hefyd yn arwain teithiau tramor ar gyfer World Challenge

Sut byddech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe?

Treuliais dair blynedd bleserus iawn yn Abertawe'n gan wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i archwilio Penrhyn Gŵyr.

Beth yw eich 2 hoff beth am Abertawe?

Penrhyn Gŵyr - lle arbennig i archwilio gyda llawer o bethau cuddiedig a chwaraeon syrffio rhagorol

Y Brifysgol - lleoliad ardderchog ar y traeth a lle gwych i gwrdd â phobl o'r un meddylfryd

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Y lleoliad  drws nesaf i Benrhyn Gŵyr!

A fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun a oedd yn meddwl mynd i'r Brifysgol?

Lleoliad gwych, pobl gyfeillgar a staff cefnogol

Pa gyngor byddech yn ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

Daliwch ati! Mae llawer o gyfleoedd ac uchafbwyntiau i gael gyrfa mewn addysgu ond rhaid goroesi'r maglau yn gyntaf i'w mwynhau!

Sut cyrhaeddoch chi Dubai?

Symudodd fy rhieni i Dubai ym 1989 i weithio fel athrawon. Roeddent yn bwriadu bod yno am 3 blynedd ond gwnaethant aros tan 2018!

Sut dechreuoch chi gymryd rhan mewn alldeithiau ac i ble rydych wedi bod?

Fel daearyddwr, mae'n llwybr eithaf cyffredin i gymryd rhan mewn teithiau ysgol. Dechreuais i gyda'r Adran Addysg, ac rwy'n dal i'w helpu, a thrwy'r teithiau hynny dechreuais fagu profiad a gweithio tuag at ennill gwobr arweinydd mynydd yr haf. Gwnaeth y wobr hon fy alluogi i arwain teithiau tramor ar gyfer grwpiau ysgolion. Fy hoff gyrchfannau hyd yn hyn yw Kyrgyzstan ac Uzbekistan, oherwydd eu bod mor wahanol i gynifer o leoedd rwyf wedi ymweld â nhw o'r blaen ac mae ganddynt hanes, diwylliant a thirwedd ffisegol diddorol.  Rwyf hefyd wedi bod i Nepal, India, Costa Rica, Nicaragua, Zambia, Botswana a Namibia ar deithiau ysgol. Mae pob un wedi cael uchafbwynt unigol!

Sut dechreuoch chi gymryd rhan mewn para chwaraeon?

Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, dechreuais hyfforddi ar gyfer triathlon. Roedd dau o fy ffrindiau o Abertawe rwyf wedi cadw mewn cysylltiad â nhw ac wedi bod ar sawl taith syrffio gyda nhw, James Mitchell a Tim Walker, wedi dechrau cymryd rhan ynddynt. Gwnaethant ddwyn perswâd arna i i gofrestru ar gyfer triathlon pellter canolig a gwnes i fwynhau'r hyfforddiant strwythuredig y mae ei angen ar gyfer y gamp. Sylwais ar ymgyrch Talent ID ar wefan triathlon Prydain a chyflwynais ganlyniadau rhai treialon amser. Roedd yn gromlin ddysgu sylweddol i ddechrau, ond tyfodd fy hyder yn gyflym ac enillais Bencampwriaethau Prydain ym mis Gorffennaf 2021. Ers hynny, rwyf wedi bod ar lwybr y Genhedlaeth Nesaf ac rwy'n mwynhau'r cyfle i gystadlu mewn digwyddiadau rhyngwladol.

Rydych wedi ennill Triathlon a Deuathlon PTS5 Prydain. Beth sydd ar y gorwel gennych?

Rwy'n teimlo bod y digwyddiadau rhyngwladol yn hynod gystadleuol. Rwyf newydd gwblhau fy nigwyddiad Cyfres y Byd cyntaf ym Montreal ac rwy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i Abertawe i gwblhau fy ail un ym mis Awst. Drwy gystadlu yn y digwyddiadau hyn, rwy'n gobeithio meithrin mwy o brofiad cystadlu ar y lefel hon a gwella fy safle rhyngwladol fel y gallaf gystadlu mewn mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol, a'r nod  eleni yw cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Pencampwriaeth y Byd yn Abu Dhabi ym mis Tachwedd.