BSc A PhD Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1963. Arloeswr Mewn Ffiseg. Maliwr Gronynnau. Heliwr yr Higgs Boson.

Mae Lyn ‘yr Atom’ Evans yn ffisegydd uchel ei fri o Gymru. Ers graddio, mae Lyn wedi cadw ei gysylltiadau â’r Brifysgol, gan gydweithredu â staff a chroesawu grwpiau o’r Brifysgol sy’n ymweld â CERN.

Lyn oedd arweinydd y prosiect a oedd yn gyfrifol am adeiladu arbrawf gwyddonol mwyaf a drutaf y byd, Y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr. Cawsom sgwrs â Lyn a gofynnon ni ychydig gwestiynau iddo.

Lyn Evans

Lyn, daethoch i Brifysgol Abertawe ym 1963 i astudio Mathemateg Bur, Cemeg a Ffiseg. Beth yw eich atgofion am Brifysgol Abertawe yn y cyfnod hwnnw?

Rwy’n cofio’r Adran Ffiseg mewn sied bren oddeutu lle mae Canolfan Taliesin nawr. Roedd yr Adran Gemeg yn newydd ac roedd ganddi’r enw gorau yng Nghymru. Felly, pan benderfynais ar Abertawe, dewisais i ganolbwyntio ar Gemeg a Ffiseg i ddechrau.

Gwnaethoch chi newid eich ffocws i Ffiseg yn y pen draw a graddioch chi o Abertawe â PhD mewn Ffiseg ym 1970. Sut dechreuodd eich cysylltiad â CERN?

Roedd cysylltiadau eithaf cryf eisoes rhwng Abertawe a CERN, gan ddechrau gydag Eifion Jones a ymunodd ym 1959. Roedd goruchwyliwr fy PhD, yr Athro Colyn Grey Morgan, ar gyfnod sabothol yn CERN, felly ymunais i fel Cymrawd, ar gontract blwyddyn.

"Roedd y broses yn fwy anodd nag roeddwn i’n disgwyl."

Dechreuoch chi weithio ar brosiect y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (LHC) ym 1994. Allwch chi ddweud rhywbeth wrthym am ddatblygu’r LHC?

Ysgrifennais i fy mhapur technegol cyntaf am ddyluniad bras yr LHC ym 1983, ond doedd e ddim yn barod i’w gymeradwyo o bell ffordd.  Yna, ym 1993, newidiodd yr ewyllys gwleidyddol a thyfodd awydd cryf iawn yn y gymuned wyddonol i archwilio’r math hwn o ffiseg gronynnau. Diben yr LHC yw helpu i ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf sylfaenol ym maes ffiseg nad ydynt wedi cael eu hateb eto, yn enwedig y rhyngweithio rhwng mecaneg gwantwm a pherthynoledd cyffredinol. Cydweithrediad yw’r LHC sy’n cynnwys dros 10,000 o wyddonwyr, cannoedd o brifysgolion a labordai a mwy na 100 o wledydd. Ces i fy mhenodi gan Gyngor CERN yn Gyfarwyddwr Prosiect â chyfrifoldeb am ei ddylunio a’i adeiladu. Cymerodd y broses adeiladu 14 o flynyddoedd, o 1994 pan gafodd y prosiect ei gymeradwyo’n ffurfiol, tan 2008 pan gafodd ei weithredu am y tro cyntaf. Roedd y broses yn fwy anodd nag roeddwn i’n disgwyl.

Beth mae’r LHC yn ei wneud?

Peiriant gwrthdaro hadronnau yw’r LHC sydd a chraidd o ynni màs o 14 TeV. Mae’n gwneud defnydd anferth o uwchddargludedd gan ddefnyddio magnetau wedi’u hoeri i 1.9 gradd Celfin *oerach na dyfnder y gofod*. Mae’r protonau’n gwrthdaro gan gynhyrchu digon o ynni i ail-greu amodau biliynfed ran o eiliad wedi’r glec fawr. Pan fydd ar waith, mae’r ynni sy’n cael ei gludo gan y ddau belydr yn cyrraedd 724MJ, sy’n gyfwerth â 173 cilogram o TNT. Mae saith synhwyrydd wedi’u gosod ar y pwyntiau croestori a dyna le rydyn ni’n cynnal yr arbrofion i ymchwilio i’r gwrthdrawiadau.

Mae’r Higgs Boson wedi ei ganfod nawr, felly beth sydd nesaf ar gyfer ffiseg gronynnau?

Chwilio am ronyn yr Higgs Boson oedd y flaenoriaeth gyntaf ar ein rhestr a chafodd y peiriant ei ddylunio i’w ddarganfod, beth bynnag oedd ei fàs. Nawr mae’n rhaid i ni astudio ei briodweddau’n fanwl yn ogystal â chwilio am ffiseg newydd a allai esbonio rhai o’r cwestiynau dwfn sydd heb eu hateb o hyd. Mae’r rhain yn cynnwys yr anghymesuredd rhwng mater a gwrthfater sy’n gyfrifol am ein bodolaeth ei hun. A natur mater tywyll ac ynni tywyll hefyd.