Kirtkumar Turia

BSc Peirianneg Drydanol. Blwyddyn Graddio 1970. Yn Pennu Safonau ar Gyfer Cyfathrebu Byd-Eang.

Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae eich ffôn Samsung yn y DU yn gallu cysylltu ag iPhone eich ffrindiau ym Malaysia? Yr ateb yw safonau! Mae Kirit, fel Is-lywydd Strategaeth Cynnyrch, Safonau a Rheoliadau i Siemens yn yr Eidal, wedi cael mwy na 25 mlynedd o brofiad fel uwch-reolwr yn y diwydiant telathrebu.

Fel ymgynghorydd i Lywodraeth yr Eidal roedd yn cynrychioli'r Eidal yn ITU. Ar lefel Ewropeaidd, cymerodd ran yn ETSI (sefydliad safonau Ewropeaidd ar gyfer yr ICT).

Mae sgiliau Kirit wedi cynnwys arwain safle Llywodraeth yr Eidal o fewn ETSI ac yn benodol polisi IPR ETSI. Ym 1996, darparodd ei Bwyllgor Cynghori Rhaglenni weledigaeth dechnegol i ETSI ar gyfer cydgyfeirio drwy IP rwydweithiau craidd sefydlog/symudol/rhyngrwyd drwy gyhoeddi "GMM – Global Multimedia Mobility". Yn ystod 1998 roedd Kirit yn aelod o'r ddirprwyaeth a greodd 3GPP a ddaeth yn gorff safonau byd-eang de-ffacto ar gyfer cyfathrebu byd-eang. Cynrychiolodd Kirit ETSI fel Cadeirydd y Bwrdd Safonau TGCh a chynorthwyodd y Comisiwn Ewropeaidd i lunio ei safle swyddogol ar gyfer RFID, Egwyddorion Preifatrwydd a Diogelu Data. Mae Kirit yn Gymrawd IET a Chymrawd ETSI.

Fe gysylltom ni â Kirit i’w holi am ei yrfa a'i amser yn Abertawe.

"Mae gan Brifysgol Abertawe gyfuniad unigryw o leoliad, cyfleusterau myfyrwyr, staff cyfeillgar a safonau addysgol uchel."

Pam y daethoch i astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Yn dod o Bournemouth, Abertawe oedd fy newis (yswiriant) olaf gydag UCAS. Coleg Imperial oedd fy newis cyntaf. Fodd bynnag, ar ôl ymweld ag Abertawe a'r cyffiniau ym Mae'r Mwmbwls, roedd natur agored a chyfeillgar y staff, yn ogystal â lleoliad Campws Parc Singleton gyferbyn â thraeth braf, wedi ei wneud yn ddewis cyntaf imi ac fe wnes i wrthod Coleg Imperial! Mae gan Brifysgol Abertawe gyfuniad unigryw o leoliad, cyfleusterau myfyrwyr, staff cyfeillgar a safonau addysgol uchel.

Beth yw eich hoff atgof o’ch amser yn y Brifysgol?

Roedd lleoliad Prifysgol Abertawe yn caniatáu i mi fynd i gerdded, darganfod Cymoedd De Cymru a gwneud ffrind gydol oes sydd bellach yn byw yn Siapan, yn ogystal â fy nhiwtor rhagorol Dr Vivian Phillips ac rydym yn dal i fod mewn cysylltiad â’n gilydd ar ôl 50 o flynyddoedd. Dysgodd y Gymdeithas Ddadlau i fi  feddwl yn gyflym a dod yn siaradwr cyhoeddus.  Cafodd y darlithoedd uwch ar dechnolegau digidol eginol ddylanwad ar fy newisiadau gyrfaol.

Beth wnaethoch chi ar ôl graddio?

Ar ôl graddio mewn Peirianneg Drydanol, ymunais â chwmni telathrebu a chymryd rhan mewn treial maes o'r system signalau telathrebu ddigidol fyd-eang gyntaf o'r enw CCITT # 6. Roedd hyn yn dangos bod safonau byd-eang yn allweddol i sicrhau cynnyrch isadeiledd llwyddiannus a bod llwyddiant yn dibynnu ar gydweithio byd-eang.

"Adeiladodd Prifysgol Abertawe fy nghymeriad a gwnaeth i mi sylweddoli bod pobl yn dod yn gyntaf..."

I ba raddau y gwnaeth eich profiad yn Abertawe ddylanwadu ar eich gyrfa?

Adeiladodd Prifysgol Abertawe fy nghymeriad a gwnaeth i mi sylweddoli bod pobl yn dod yn gyntaf a chydweithio (rhyngwladol), adeiladu tîm yw'r allwedd i lwyddiant, heb anghofio  "meddwl y tu allan i'r bocs", sef rhywbeth y mae’n rhaid i ddyn ei wneud wrth ymchwilio a datblygu cynnyrch.

 Beth am eich rôl yn ETSI?

Dydyn ni byth yn meddwl sut mae deialu rhif ffôn neu ddefnyddio cyfeiriad gwe yn ein caniatáu i gysylltu unrhyw le yn y byd gyda gwahanol gynnyrch gan wneuthurwyr. Mae safonau byd-eang yn caniatáu'r gallu hwn inni. Mae safonau byd-eang yn bwysig iawn i chwalu rhwystrau masnach nad ydynt yn seiliedig ar dariff. Ar lefel fyd-eang, ceir asiantaeth Cenhedloedd Unedig o'r enw ITU ac ar lefel Ewropeaidd bu gweithgynhyrchwyr, gweithredwyr a Llywodraethau Ewropeaidd yn cydweithio i greu ETSI a sicrhau bod ei safonau telathrebu Ewropeaidd yn dod yn safonau byd-eang a Rheoliadau Ewropeaidd. Felly, fel Is-lywydd yn gyfrifol am strategaeth cynnyrch byd-eang, roedd yn bwysig fy mod yn cymryd rhan yn ITU ac ETSI i sicrhau bod y safonau sy'n cael eu diffinio yn bodloni gofynion fy nghwmni i sicrhau'r fantais o fod yn ysgogydd cyntaf.