Dr Kate Evans.

BSc Swoleg. Blwyddyn Graddio 1996. Ecolegydd Ymddygiad a Biolegydd Cadwraeth Arobryn. Sefydlydd a Chyfarwyddwr Elephants for Africa.

Mae Elephants for Africa yn elusen sy’n ymrwymedig i gadwraeth eliffantod a bywyd gwyllt arall. Trwy ymchwil ac addysg mae’r elusen yn grymuso pentrefwyr lleol i fyw ochr yn ochr â bywyd gwyllt; gan eu hannog i ddeall eliffantod wrth geisio lleihau’r difrod y gallant ei achosi weithiau. Felly sut dechreuodd yr elusen anhygoel hon? Wel, dechreuodd popeth trwy ecolegydd ymddygiadol, biolegydd cadwraeth a chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe arobryn, Dr Kate Evans.

Fel plentyn, roedd Kate eisoes yn eirioli dros fyd natur gan bob amser edrych o dan greigiau yn chwilio am wrachod y lludw ac yn ceisio arbed cwˆn crwydr. Er ei bod yn dwlu ar bob math o anifeiliaid eliffantod oedd yn mynd â’i bryd a’i dychymyg a phan oedd yn saith oed gwnaeth addewid i’w hun y byddai’n helpu gyda’u cadwraeth a’u lles.

"Nid oeddwn yn sicr ai addysg bellach oedd y llwybr cywir i mi. Yn ffodus cefais fy hun yn amgylchedd diogel Prifysgol Abertawe..."

Cafodd Kate drafferth yn academaidd yn yr ysgol ac yn y pen draw derbyniodd ddiagnosis o ddyslecsia. Er nad oedd academia’n dod yn naturiol iddi llwyddodd i ddyfalbarhau gan ddweud “Nid oeddwn yn sicr ai addysg bellach oedd y llwybr cywir i mi. Yn ffodus cefais fy hun yn amgylchedd diogel Prifysgol Abertawe ar gwrs yr oeddwn yn dwlu arno ac yn rhagori ynddo, Swôleg.”

Ar ôl graddio enillodd Kate brofiad yn gwirfoddoli ar amrywiaeth o brosiectau ar draws de Affrica. Gan feddu ar ragor o brofiad maes dychwelodd i Abertawe lle y llwyddodd i astudio ar gwrs Meistr mewn Swôleg gan ganolbwyntio ar Barasitoleg Llewod. Dyna bryd sylweddolodd Kate beth yr oedd hi yn wirioneddol yn dymuno ei wneud.

“Cefais gyfle i barhau â Pharasitoleg Llewod trwy ddilyn cwrs PhD ond i mi eliffantod a’u lles oedd yn bwysig iawn i mi nid y byd academaidd. Y ffordd orau i mi gyflawni’r nod hwn oedd trwy ddilyn cwrs PhD ar ymddygiad eliffantod gwrywaidd llencynnol a fu’n sylfaen ar gyfer yr elusen Elephants for Africa.”

Sefydlodd Kate Elephants for Africa ar ôl cwblhau ei PhD ac erbyn hyn mae’n arweinydd ar yr elusen sy’n defnyddio dull cyfannol at gadwraeth eliffantod, gan ganolbwyntio llawer o’i gwaith yn Botswana, sy’n gartref i’r boblogaeth fwyaf o eliffantod.

"Pan fynychais y cyfweliad yn Abertawe flynyddoedd yn ôl rwy’n falch iawn bod yr Athro wedi gweld fy mhotensial a’m hangerdd y tu hwnt i’m cyflawniadau academaidd hyd hynny."

Mae Kate yn parhau i gael ei hysbrydoli gan ddiffeithwch Botswana ac mae’n angerddol am bwysigrwydd gwaith cadwraeth eliffantod Affricanaidd. Gan wybod bod Prifysgol Abertawe wedi chwarae rhan fawr o ran ei helpu trwy’r daith fawr hon meddai Kate, “Rwyf bob amser wedi teithio ar hyd y llwybr llai poblogaidd. Pan fynychais y cyfweliad yn Abertawe flynyddoedd yn ôl rwy’n falch iawn bod yr Athro wedi gweld fy mhotensial a’m hangerdd y tu hwnt i’m cyflawniadau academaidd hyd hynny.”