Os ydych chi erioed wedi pori drwy lyfr am adar, mae’n debygol iawn mai Jonathan Elphick oedd yr awdur neu ei fod yn un o’r prif gyfranwyr. Ac yntau’n naturiaethwr angerddol ers yn ifanc, cwblhaodd Jonathan ei astudiaethau israddedig yn Abertawe ac, yn fuan wedi hynny, dechreuodd adeiladu gyrfa 51 o flynyddoedd fel ysgrifennwr, golygydd, ymgynghorydd, darlithydd a darlledwr am fywyd gwyllt, gan arbenigo mewn adareg.

Mae Jonathan wedi teithio’n helaeth yn y DU a thramor i astudio adar a mathau eraill o fywyd gwyllt ac i hyrwyddo cadwraeth. Cafodd ei ethol yn Gymrawd Gwyddonol o Gymdeithas Swoleg Llundain i gydnabod ei waith wrth boblogeiddio swoleg ac, yn 2006, cafodd ei ethol yn Gymrawd o Gymdeithas Linnean Llundain, sef cymdeithas fiolegol hynaf y byd sydd wedi bod yn gweithredu’n barhaus ers ei sefydlu ym 1788.

Jonathan Elphick

Mae’n awdur nifer mawr o lyfrau, gan gynnwys canllaw maes arobryn i adar Prydain ac Iwerddon, The Birdwatchers’ Handbook (BBC Worldwide, 2001); The National Parks and other wild places of Britain & Ireland (New Holland, 2002), sy’n cynnwys ffotograffau gan y ffotograffydd bywyd gwyllt adnabyddus, David Tipling; llyfr ar y cyd â John Woodward, RSPB Pocket Birds (Dorling Kindersley, 2003 ac argraffiadau dilynol); y gyfrol fawr ei chlod, Birds: The Art of Ornithology, astudiaeth o adar mewn celf drwy’r oesoedd (Scriptum Editions, mewn cydweithrediad â’r Amgueddfa Hanes Naturiol, 2004, bellach yn ei phedwerydd argraffiad, NHRM 2018); Great Birds of Europe (Duncan Baird, 2008) -  mae ei eiriau’n dathlu 200 o adar arbennig y rhanbarth a cheir llun gan David Tipling a ffotograffwyr adar byd-enwog eraill i gyd-fynd â phob disgrifiad; y llyfr poblogaidd iawn, Birdsong (Quadrille, 2012) canllaw i ganeuon a galwadau adar cyffredin Prydain â modiwl sain wedi’i ymgorffori ynddo.

Wedyn, ysgrifennodd nifer o deitlau pwysig ar gyfer yr Amgueddfa Astudiaethau Natur: cyfrol â 608 o dudalennau, The World of Birds, yr hanner cyntaf yn astudiaeth fanwl o fioleg adar a’r ail yn arolwg o bob un o deuluoedd adar y byd (2014); cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig o hanner cyntaf y llyfr hwnnw yn 2016: Birds: A complete guide to their biology and behaviour, a chyhoeddwyd diwygiad cyflawn o’r ail hanner ym mis Ebrill 2019: Bird Families of the World. Ar hyn o bryd mae Jonathan yn gweithio ar lyfr arall am adar mewn celf a hunangofiant o’i ddyddiau cynnar yn naturiaethwr ifanc yng ngogledd Cymru, llyfr sy’n cydblethu gwyddoniaeth, disgrifiad telynegol o dirwedd, hanes a llenyddiaeth mewn stori am gof, colled a thirwedd. Yn 2016, traddododd ddarlith goffa flynyddol Condry, er cof am un o naturiaethwyr uchaf ei barch yng Nghymru yn yr 20fed ganrif, Bill Condry. Thema’r ddarlith oedd ei astudiaeth o adar gogledd Cymru ers oedran ifanc.

Treuliodd Jonathan 15 mlynedd fel Ymchwilydd Arbenigol yn gweithio ar Birds Britannica gan Mark Cocker (Chatto & Windus, 2005) a Birds & People, gan Mark Cocker a David Tipling (Random House, 2013), sef yr arolygon mwyaf o agweddau diwylliannol at adar ym Mhrydain ac Iwerddon ac yn fyd-eang.

Bu’n aelod o grŵp llywio’r New Networks for Nature am chwe blynedd ac mae’n dal i ymwneud yn helaeth â’r elusen bwysig hon. Dyma gynghrair unigryw ac eang o unigolion, o wyddonwyr ac ysgrifenwyr i artistiaid gweledol a cherddorion, sy’n cydweithio i ddathlu ac amddiffyn natur fel rhan hollbwysig o’n hunaniaeth a’n treftadaeth ddiwylliannol.

Jonathan Elphick yn dal binocwlars.

"Ym 1964, cafodd fy nghais i astudio Swoleg ym Mhrifysgol Abertawe (neu Goleg Prifysgol Abertawe fel yr oedd ar y pryd) ei dderbyn. Roedd ffocws ar fioleg y môr ac roedd hynny’n ddiddorol iawn i mi, ond llwyddais i hefyd i dreulio amser yn arsylwi ar adar, ar deithiau maes y Brifysgol ac ar benwythnosau, o’r cytrefi bach ar y pryd o Wylogod, Gwylanod Coesddu ac adar y môr mwy niferus ar arfordir Gŵyr, Teloriaid y Gors yng nghorsydd Oxwich a heidiau mawr o Bïod y Môr ac adar hirgoes eraill, i’r boblogaeth fechan o Hwyaid Mwythblu a oedd yn preswylio ond heb fridio yng Nghilfach Tywyn – dyma’r lleoliad deheuol pellaf lle roeddech chi’n gallu gweld nifer mawr o’r hwyaid môr deniadol hyn yn eu cynefin naturiol yn rheolaidd.  Un diwrnod o haf, a minnau’n cerdded ar hyd rhostir ar benrhyn Gŵyr adeg y cyfnos, ges i wefr wrth glywed troellwr yn canu ei gân ryfedd, â’i sain fecanyddol sy’n cael ei chymharu’n aml â beic modur pell yn codi ac yn gostwng; roedd hi’n gyffrous am fod y rhywogaeth eisoes yn brin yn yr ardal."

"Yn anad dim, rwy’n ddiolchgar iawn i holl staff yr Adran Swoleg..."

"Yn anad dim, rwy’n ddiolchgar iawn i holl staff yr Adran Swoleg – mae’n debygol nad oeddwn i’n fyfyriwr delfrydol ar adegau! Rwy’n ddiolchgar yn arbennig i Elis Wyn Knight-Jones, ein Hathro Swoleg anhygoel (deiliad cyntaf y swydd hon pan drefnodd yr Adran Swoleg newydd ym mis Rhagfyr 1956). Yn ogystal â bod yn blymiwr arloesol ac yn fiolegydd y môr neilltuol, roedd yn addysgwr ysbrydoledig a charismataidd, fel mae llawer o’i gyn-fyfyrwyr wedi tystio. Roedd bob amser yn awyddus i rannu ei angerdd ond roedd hefyd yn un o’r tiwtoriaid mwyaf cefnogol a charedig rwyf wedi cwrdd â nhw erioed. Roedd yn barod iawn ei amynedd a’i empathi yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, pan es i drwy gyfnod anodd o iselder ysbryd a bu’n rhaid i mi ohirio fy astudiaethau am flwyddyn. Roedd wedi sylwi ar fy niddordeb naturiol mewn swoleg a gyda’i gymorth ef, roedd hi gymaint yn haws i mi wneud hyn a dychwelyd ag egni newydd y flwyddyn ganlynol. Mae pob un o’i gyn-fyfyrwyr dwi wedi cwrdd â nhw yn adrodd straeon am ei allu i ysbrydoli, ei synnwyr hiwmor hyfryd a’r ffaith ei fod weithiau’n ymddangos yn anymwybodol o amser; dyma ddau yn unig o’r atgofion sydd gen i amdano – unwaith, roedd wedi dechrau darlith ac yna dywedodd nad oedd i fod yno a dylai fod wedi mynd i gyfarfod ddeng munud cyn hynny; ar adeg arall, wrth ateb cwestiwn, dywedodd â gonestrwydd syfrdanol: 'does dim clem da fi, gwboi.' "

"Treuliais i fy mlwyddyn gyntaf nid yn byw yn un o'r neuaddau newydd ar y campws ond yn lleoliad trawiadol Neuadd Gilbertson, yn adeilad rhestredig Gradd II Castell Clun, wedi'i amgylchynu gan erddi hyfryd â golygfa dros ehangder Bae Abertawe. Rhai o'r rhesymau roeddwn i wrth fy modd gyda fy newis prifysgol oedd campws helaeth a hardd Parc Singleton, yr arfordir hyfryd ac agosrwydd Penrhyn Gŵyr godidog a oedd wedi cael ei ddynodi'n ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU wyth mlynedd cyn i mi gyrraedd."

"Y flwyddyn nesaf, bues i'n byw mewn carafán ar benrhyn Gŵyr am sawl mis, yn Parkmill ddim yn bell o Fae'r Tri Chlogwyn, un o draethau mwyaf hyfryd Cymru (ynghyd ag ehangder enfawr Rhosili, lle'r oeddwn i'n mynd yn aml hefyd). Un atgof cryf sy'n dal yn glir yn fy meddwl yw cerdded yn ôl yno ar ôl noson ym mar y Brifysgol a gweld cawod godidog o feteorau yn gwibio ar draws awyr y nos.

"Ym 1965, symudais i dŷ bach yn Stryd Pleasant ger yr orsaf drenau, yr oeddwn i'n ei rannu ag eraill, gan gynnwys myfyriwr arall yn y Brifysgol, John Makin, a John Hughes a'i bartner, Adrienne, a oedd yn astudio yng Ngholeg Celf Abertawe; maen nhw i gyd yn parhau'n ffrindiau da i mi heddiw. Gyda myfyriwr arall yn y brifysgol, Dave Yoxall, a oedd yn un o gyn-denantiaid y tŷ yn Stryd Pleasant, roeddem yn helpu i redeg Clwb Gwerin yr Adelphi. Yn fy mlwyddyn olaf, roeddwn i'n byw mewn tŷ llawer mwy yng Nghilgant Brynmill gyda nifer o ffrindiau o'r brifysgol, gan gynnwys Dimitri Kontou, a oedd yn astudio athroniaeth ac sydd hefyd yn un o fy ffrindiau pwysig o hyd, er iddo symud i Ganada ar ôl i ni raddio ym 1968.”

"Mae gen i lawer o atgofion melys o'r dref yn ogystal â'r Brifysgol ..."

"Mae gen i lawer o atgofion melys o'r dref yn ogystal â'r brifysgol: cyfeillgarwch y bobl yn gyffredinol, yr hen farchnad wych lle roeddwn i'n gallu prynu danteithion lleol fel cocos, bara lawr a phicau ar y maen, y tafarnau niferus ac amrywiol lle gwariais i ormod o fy arian grant, siŵr o fod, a'r prydau bwyd yn y bwytai cyri ar ôl ymweliadau â'r dafarn neu'r clwb gwerin – a oedd yn newid o fy mhrif ddeiet yn ystod yr wythnos, sef plât mawr o bastai caws neu gig, ffa a sglodion, wedi'i olchi lawr gan alwyni o de yn ffreutur Parc Singleton. Roeddwn i'n tueddu i garu gyda merched o'r dref yn amlach na merched o'r  brifysgol hefyd. Un o brofiadau cofiadwy'r flwyddyn gyntaf oedd reidio ar gefn lori yng ngorymdaith wythnos RAG drwy’r dref am fod yr achlysur hwn hefyd wedi cynnwys antur feiddgar, a byrbwyll efallai, gyda’r nos, yn dringo un o waliau Castell Caerdydd ac ar y brig chwifio baner yn cyhoeddi ein presenoldeb i'r gwylwyr."

"Drwy gydol fy amser ym Mhrifysgol Abertawe, ac am flynyddoedd maith wedi hynny, roeddwn i'n berfformiwr rheolaidd, yn canu caneuon traddodiadol yng Nghlwb Gwerin y Brifysgol i ddechrau, ac wedyn roeddwn i’n un o reolwyr Clwb Gwerin tafarn yr Adelphi yn Stryd y Gwynt - a oedd yn ymdroelli i lawr hyd at y dociau - roedd ganddi enw fel ardal eithaf anwaraidd o Abertawe ar y pryd. Gan ddechrau yn hydref 1965, daeth ein clwb gwerin yn adnabyddus ledled Prydain ac Iwerddon fel lle gwych i glywed cerddoriaeth (a gwnaeth safon y cydganu gan y gynulleidfa gyfraniad sylweddol at hynny), am berfformwyr gwadd, gan gynnwys The Young Tradition, Sandy Denny, Shirley Collins, John Renbourne, yn ogystal â pherfformwyr y blws, gan gynnwys artistiaid enwog o gartref y genre, yr Unol Daleithiau, megis Reverend Gary Davis a Mississippi Fred MacDowell, a pherfformwyr y blws agosach at gartref, yn enwedig Jo Ann Kelly a'i brawd Dave o Lundain".

"Dwi'n dwlu ar gerddoriaeth roc hefyd ac, wrth gwrs, roedd canol y 60au tan ddiwedd y degawd, pan oeddwn i yn Abertawe, yn gyfnod gwych i weld cynifer o fy hoff fandiau wrth iddynt ddod yn enwog, gan gynnwys The Who, Manfred Mann, the Pretty Things (gyda fy ngwallt hir, ces i fy nghamgymryd am un o'r aelodau a ches i fynediad am ddim i gig yn y Patti) a llawer eraill, gan gynnwys bandiau lleol fel The Jets, Martin Ace and The Aces. Gwelais i'r Beatles yng Nghaerdydd hefyd ond doeddwn i ddim yn gallu eu clywed oherwydd sgrechian byddarol y dyrfa o ferched yn eu harddegau. Gwariais i gryn dipyn o fy arian prin yn Siop Recordiau Snell hefyd.”

Gallwch ddarllen mwy am fywyd Jonathan a sut daeth yn naturiaethwr yma.