Dr Wafa Ali

Cynghorydd PhD Peirianneg Gemegol. Dosbarth 2020.
Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Texas A&M

Rwy'n cynnal ymchwil i ddatblygiad pilenni polymerig cadarn i'w defnyddio at ddibenion amgylcheddol gwahanol, yn ogystal â gweithio ar gynhyrchu hydrogen o electroleiddio dŵr y môr, gan ddefnyddio catalyddion a geir yn helaeth yn y ddaear ac ectroleiddiwr pilenni.Rwy'n mentora myfyrwyr israddedig ac yn eu cynorthwyo gyda'u portffolios ymchwil, rwy'n helpu myfyrwyr i gynnal arbrofion sy'n berthnasol i'w hymchwil ac yn cynghori ac yn darparu cymorth i'r myfyrwyr yn ystod eu gwaith yn y labordy. 

Ar ben hyn, rwy'n aelod o gyngor y rhaglen datblygu ymchwilwyr yn y brifysgol, yn adolygwr ar gyfer cyfnodolion rhyngwladol nodedig megis The International Journal on the Science and Technology of Desalting and Water Purification Journal (Desalination) a Chemosphere. Rwy'n aelod o fwrdd golygyddol y Computational Intelligence Journal ac yn aelod gyrfa gynnar o fwrdd golygyddol y Journal of Water Process Engineering. Yn ddiweddarach des i'n aelod o'r Applied Energy Academy.

Dywedwch wrthym am eich amser yn Abertawe?

Roedd fy mywyd yn Abertawe'n brofiad gwych ac roeddwn i'n benderfynol o fanteisio i'r eithaf arno. Gwnaeth Abertawe fy annog i fod yn gryf yn academaidd ac i ddod yn berson gwell. Dysgais i roi cyflwyniadau a sgyrsiau a chwrddais i ag arbenigwyr o wahanol gefndiroedd a roddodd hwb i'm gallu i arwain.

 Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Dewisais i Brifysgol Abertawe oherwydd safon ei haddysg, ei statws uchel ym ymhlith prifysgolion y DU a'i henw gwych ym maes peirianneg gemegol. Hefyd, cyflwynodd lawer o gysyniadau newydd a wnaeth wella fy nealltwriaeth o safbwyntiau byd-eang a newid fy ffordd o feddwl am y byd.

Sut gwnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Ym Mhrifysgol Abertawe, roedd cyfle i wneud lleoliad gwaith yn y flwyddyn olaf, a roddodd gyfle i mi weithio gydag arbenigwyr mewn disgyblaethau gwahanol o gwmnïau a phrifysgolion eraill. Gwnaeth hyn fagu fy hyder, gwella fy mhrofiad ymarferol, a ches i brofiad go iawn o fyd diwydiant. Roedd hyn o fudd i fy ngwaith ymchwil yn y brifysgol ac i fy ngyrfa yn y dyfodol.

Pa gyngor byddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn yr un llwybr gyrfa â chi?

Dylai myfyrwyr wella eu gwybodaeth a'u sgiliau ymchwil. Byddwn i hefyd yn awgrymu ymgymryd ag interniaethau mewn sefydliadau ymchwil blaenllaw neu yn y diwydiant i ddysgu egwyddorion newydd, datblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol, a sicrhau bod eu sgiliau'n gyfredol.