Dr Graham Foster, yw cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Technoleg Marine Power Systems (MPS). Mae e’n teimlo’n angerddol dros ynni tonnau sy'n deillio o'i gariad at syrffio.

Yma mae’n dweud wrthym am ei daith o draethau Cernyw i Fae Abertawe, ac yn gobeithio am  ddyfodol lle mae technoleg MPS yn cyflenwi ynni morol glân, adnewyddadwy i'r grid.

"...roedd gan Brifysgol Abertawe enw da yn academaidd ac ni chefais fy siomi gan yr ochr gymdeithasol."

Pam dewis Prifysgol Abertawe ar gyfer eich astudiaethau?

"Roedd y penderfyniad i astudio yn Abertawe yn eithaf syml i mi; Cefais fy magu ger y traeth yng Nghernyw ac roeddwn eisiau aros yn agos at y môr wrth astudio! Yn ffodus, roedd gan Brifysgol Abertawe enw da yn academaidd ac ni chefais fy siomi gan yr ochr gymdeithasol."

A ydych chi'n cofio unrhyw fodelau rôl o'ch cyfnod ym Mhrifysgol Abertawe?

"Roedd gen i ddarlithydd mecaneg hylifau da iawn o'r enw Roger Griffiths: roedd ganddo ffordd o wneud ei bwnc yn ddiddorol, yn gallu rhoi problemau haniaethol yng nghyd-destun y byd go iawn mewn ffordd ddoniol, ac mae fy niddordeb mewn peirianneg hylifau wedi aros gyda mi byth ers hynny."

MPS Wave Sub Tow - 'Owen Howells Photography'

A ydych bob amser wedi bod yn angerddol dros ynni adnewyddadwy?

"Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy, poeni am newid hinsawdd, ac eisiau gweithio ar brosiectau a oedd yn gadarnhaol i'r byd. Mae'n siwr bod fy niddordeb mewn ynni tonnau yn benodol yn tarddu o syrffio – nid oes ffordd well i brofi grym y cefnfor yn uniongyrchol! "

"Fel syrffiwr roedd yn amlwg i mi fod gan ynni'r tonnau botensial enfawr ac rwy'n aml yn pendroni am ffyrdd i gipio'r egni mewn ffordd urddasol. Ar ôl llawer o arbrofi gyda syniadau a brasluniau aflwyddiannus, teimlais i a fy nghyd-sylfaenydd MPS Gareth Stockman, bod gennym rywbeth digon da i weithredu.  Ers hynny roedd yn fater o dyfu'r busnes a datblygu'r dechnoleg gam wrth gam, pob un yn fwy (ac yn ddrutach) na'r diwethaf."

Dywedwch wrthym am eich llwyddiant mwyaf hyd yn hyn

"Fy llwyddiant mwyaf hyd yma fu profi prototeip ar raddfa 1:4 o'n technoleg ynni tonnau – daeth â llawer o flynyddoedd o waith at ei gilydd gan dîm gwych o bobl. I gyrraedd y garreg filltir hon, doedd llawer o lwyddiannau llai ddim yn cael y sylw haeddiannol: codi arian, datrys problemau technegol, a dod â thîm talentog at ei gilydd oedd y prif rai."

Beth yw'r agwedd fwyaf gwobrwyol am eich rôl ac arwain y cwmni?

"Rwy'n arwain ar ddatblygiad technoleg felly mae’n naturiol mai un o'r agweddau mwyaf gwobrwyol o’m gwaith yw gweld y dechnoleg yn dwyn ffrwyth, ond mae arwain a datblygu'r tîm, a llywio'r cwmni'n strategol, yn rhoi’r un boddhad i mi.

"Y cam nesaf yw dangos technoleg MPS ar raddfa lawn a sicrhau gwerthiannau masnachol o beiriannau sy'n cyflenwi ynni morol glân, adnewyddadwy i mewn i'r grid. Pan fyddwn wedi gwneud hyn, gallaf wir edrych yn ôl a bod yn hapus bod y daith wedi dod i ben yn llwyddiannus."

Pwy yw eich ysbrydoliaeth?

"Byddai'n hawdd rhestru entrepreneuriaid technoleg amlwg, proffil uchel fel Steve Jobs neu Elon Musk, ond dydw i ddim yn argyhoeddedig bod y math yma o bobl yn fodelau rôl gwych i'r rhan fwyaf o bobl. Mae'n amlwg eu bod wedi aberthu bywyd yn llwyr yn y cydbwysedd gwaith/bywyd, ac nid yw nifer ohonynt (dim Musk wrth gwrs) yn blaenoriaethu’r amgylchedd yn ddigonol. Rwy'n credu bod Yves Chouinard, sylfaenydd Patagonia, wedi gwneud gwaith da o gyfuno llwyddiant busnes gyda moeseg gref."