Gemma Cox

MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd. Blwyddyn Graddio 2011. Gwarchodwr Iechyd Cyhoeddus. Ymgyrchydd Craniosynostosis.

Gemma Cox yn sgwrsio ag Rachel Thomas – Cyfweliad y Canmlwyddiant

Beth oedd eich hoff beth am astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Pan benderfynais yr oeddwn am wneud gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus roeddwn yn awyddus i astudio’n agos i gartref er mwyn imi allu parhau i weithio a bod yn agos i’m teulu. Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn byw ar lan y môr ac felly roedd gallu cerdded lawr i’r traeth yn ystod fy amser cinio yn un o uchafbwyntiau astudio ym Mhrifysgol Abertawe.

Rwy’n gwybod eich bod wedi dweud wrthyf am siaradwr gwadd yn dod i’ch darlithoedd er mwyn dweud wrthych am eu swydd ym maes Iechyd Cyhoeddus, a gwnaeth hi’ch ysbrydoli. Allech chi ddweud wrthyf am hynny yn eich geiriau eich hun? (e.e. Pwy oedd hi, beth wnaeth hi, pam gwnaeth hi’ch ysbrydoli, beth oedd hyn yn golygu i’ch gyrfa, pryd gwrddoch chi eto, ayb)

Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe daeth siaradwr gwadd o Lywodraeth Cymru i roi darlith am hybu iechyd mewn ysgolion. Siaradodd am y dystiolaeth ac ystod yr ymyrraeth a oedd yn cael ei darparu yng Nghymru. Yn enwedig, siaradodd am Gynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (WNHSS) a sut roedd yn rhan o sefydlu hyn yng Nghymru. Siaradodd am y gwaith anhygoel roedd cydlynwyr ysgolion iach yn ei wneud wrth gefnogi ysgolion ledled Cymru i weithredu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles yn unol ag ethos a diwylliant ysgolion Cymru. Cefais fy ysbrydoli gymaint gan hyn, es i adref y noson honno a dweud wrth fy ngŵr yr oeddwn wedi darganfod rhywbeth yr oeddwn wir am ei wneud o’r diwedd. Ddau fis yn ddiweddarach cefais fy swydd gyntaf gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel hyfforddwr atal ysmygu mewn ysgolion a deng mlynedd yn ddiweddarach, cefais swydd fel arweinydd cenedlaethol y cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru. Roeddwn yn ffodus iawn i rannu’r stori hon â’r un fenyw cyn iddi ymddeol yn 2019 a hyn oedd un o uchafbwyntiau allweddol fy ngyrfa o bell ffordd.

Ble ydych chi’n meddwl eich bod wedi creu’r argraff fwyaf i’r cyhoedd/i’r gymuned yn ystod eich gyrfa?

Yn fwy diweddar, fy swydd i helpu gyda COVID 19. Mae’r lleoliadau rwyf wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn gweithio mewn amgylcheddau sydd dan straen sylweddol, ac mae fy swydd wedi cynnwys cynnig cefnogaeth i weithwyr allweddol mewn lleoliadau caeëdig, gan ddarparu gwybodaeth a chanllawiau cyfredol. Cyn dyddiau COVID 19, y gwaith rwyf wedi cyfranogi ynddo mewn lleoliadau addysg a sut rwyf wedi helpu i hybu iechyd pawb sy’n dysgu, yn gweithio ac yn chwarae mewn ysgolion ledled Cymru. Nod y cynllun ysgolion iach yw hybu a diogelu iechyd a lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Wedi’i gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) am ei ran allweddol wrth hybu iechyd plant a phobl ifanc, mae’r Cynllun wedi cael ei ledaenu ledled Cymru ers 1999, ac mae’n rhan o Ysgolion dros Iechyd yn Ewrop (SHE). Mae 99% o ysgolion Cymru’n rhan o’n cynllun ac yn gweithio tuag at wireddu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael ag ethos, polisïau ac arferion pob ysgol, wrth ganolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd yn y dosbarth hefyd ac wrth ystyried y gymuned y tu hwnt i’r ysgol.

Rwy’n gwybod eich bod ar y rheng flaen ar hyn o bryd, ac yn gwneud gwaith ardderchog wrth helpu’r cyhoedd yn ystod y pandemig:

- Allech chi ddweud wrthym beth ydych chi’n ei wneud? (Byddai enghreifftiau’n wych yma hefyd - gallant fod yn gwbl ddienw!)

Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio fel ymgynghorydd COVID 19 ar gyfer lleoliadau caeëdig. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu ag ystod o leoliadau caeëdig, yn enwedig cartrefi preswyl/gofal, cartrefi gwarchodol, hosteli a charcharau. Ein nod yw lleihau’r trosglwyddo trwy sicrhau bod mesurau atal a rheoli heintio yn cael eu deall a’u rhoi ar waith, darparu gwybodaeth ar gyfer gweithredu trwy gasglu data cadarn ynghylch achosion pendant o COVID-19 ac achosion posib ac adrodd am y data hwn, a sicrhau cefnogaeth ragweithiol ar gyfer lleoliadau caeëdig y gallent fod yn wynebu argyfwng posib trwy adnabod lleoliadau a chanddynt lefelau uchel o risg neu angen. Mae’n amser heriol i bawb ac mae COVID 19 yn broblem sy’n newid yn gyflym. Fel ymarferydd, mae’n rhaid imi wybod bob dydd y newyddion diweddaraf am y sefyllfa wrth iddi ddatblygu er mwyn sicrhau fy mod yn cynnig y canllawiau a’r wybodaeth ddiweddaraf bob tro.

"Yn ystod y misoedd diwethaf sef cyfnod COVID 19, rwyf wedi bod yn medru rhoi’r ddamcaniaeth hon ar waith yn fwy nag erioed o’r blaen ac mae wedi fy atgoffa am y rhan allweddol sydd gan Iechyd Cyhoeddus a pha mor falch ydwyf i fod yn rhan ohono."

- A wnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer hyn o gwbl?

Do, dysgais am swyddogaeth Iechyd Cyhoeddus yn ystod y cwrs Meistr ac roeddwn yn ymddiddori’n fawr iawn wrth ddysgu am y ffordd y mae’n gwella deilliannau iechyd ar gyfer poblogaethau trwy atal heintiau a’r goblygiadau y mae peryglon amgylcheddol yn cael ar iechyd, a thrychinebau naturiol neu’r rhai a achoswyd gan ddyn. Dysgais am bwysigrwydd annog ymddygiad sy’n lleihau’r risg gan glefydau ac anafiadau trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy; a sicrhau bod gwasanaethau iechyd o safon ar gael i’r cyhoedd. Yn ystod y misoedd diwethaf sef cyfnod COVID 19, rwyf wedi bod yn medru rhoi’r ddamcaniaeth hon ar waith yn fwy nag erioed o’r blaen ac mae wedi fy atgoffa am y rhan allweddol sydd gan Iechyd Cyhoeddus a pha mor falch ydwyf i fod yn rhan ohono.   

- Sut oedd ymateb y bobl rydych wedi’u cynorthwyo?

Mae pob lleoliad rwyf wedi cysylltu ag ef wedi bod mor ddiolchgar a gwerthfawrogol am y cyngor a’r gefnogaeth. Mae pobl sy’n gweithio mewn lleoliadau caeëdig yn gweithio mewn amgylcheddau sydd dan straen sylweddol yn ystod yr adeg hon, ac maent yn wynebu’r heriau a achosir gan COVID 19 yn ddi-baid. Rwy’n ddiymhongar iawn gan aelodau staff yn y lleoliadau hyn a’r ymdrech a’r gefnogaeth maent wedi’u rhoi i’r preswylwyr dan eu gofal a pha mor rhagweithiol maent wedi bod wrth gefnogi eu preswylwyr ac aelodau staff.

"Roedd y 6 mis hynny’n anodd dros ben i mi a’m teulu, ond yr hyn a oedd yn ein helpu i’w goresgyn oedd cymorth gan yr elusen ‘rhubanau Cranio’."

Nid wyf yn sicr a ydych chi am siarad am Charles yn y cylchgrawn, ond rydych wedi bod mor fendigedig wrth godi ymwybyddiaeth a chodi arian dros ‘Rubanau Cranio’ (‘Cranio Ribbons’), tybed a fyddech am ddweud wrthym am ei stori ac am yr hyn rydych wedi ei wneud dros yr elusen?

Ar ddechrau 2017, darganfyddais fod gan fy mab gyflwr o’r enw craniosynostosis. Mae hyn yn golygu bod un neu fwy o bwythau’r benglog yn cyfuno’n rhy gynnar gan achosi problemau wrth i’r ymennydd a’r benglog geisio tyfu yn y modd arferol, yn ogystal ag achosi i’r pwysau yn y pen gynyddu. Er y gellir gweld hyn yn glir iawn ar adeg yr enedigaeth, nid oedd neb wedi sylwi arno. Pan oedd tua naw mis oed, cefais fy sbarduno i wneud ymchwil ar ôl sylw gan feddyg teulu am ‘siâp anarferol ei ben’ ac wedyn darganfyddais y cyflwr, craniosynostosis metopig. Yr hyn sy’n allweddol wrth drin craniosynostosis yw dod o hyd iddo, a’i drin, yn gynnar. Os bydd y cyflwr hwn yn cael ei adael heb ei drin, mae’n gallu arwain at gymhlethdodau difrifol. Cawsom ddiagnosis ym mis Ionawr 2017 ond roedd yn rhaid inni aros 6 mis arall am lawdriniaeth 10 awr i Charles yn Ysbyty Plant Birmingham lle cafodd ei benglog ei godi a’i ail-adeiladu er mwyn caniatáu lle i’w ymennydd dyfu. Roedd y 6 mis hynny’n anodd dros ben i mi a’m teulu, ond yr hyn a oedd yn ein helpu i’w goresgyn oedd cymorth gan yr elusen ‘rhubanau Cranio’. Sefydlwyd yr elusen gan dri rhiant sydd wedi bod ar yr un daith â ni, a’r nod yw helpu teuluoedd eraill a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr. Gan ateb fy nghwestiynau i gyd, rhannu straeon go iawn gyda fi, anfon arth tedi inni a chanddo graith dros ei ben er mwyn inni ddangos i’m mab ac i’w frawd hŷn yr hyn i’w ddisgwyl ar ôl y llawdriniaeth. Hefyd, gwnaethon nhw anfon pecyn gofal inni ar gyfer ein hamser yn Birmingham a oedd yn cynnwys negeseuon o gymorth gan rieni eraill ac ychydig o bethau hanfodol ar gyfer aros yno. Ar ôl i’r llawdriniaeth fod yn llwyddiannus a gwnaethom adael yr ysbyty ym mis Awst 2017, ein nod oedd codi mwy o ymwybyddiaeth ynghylch y cyflwr a rhoi rhywbeth yn ôl i’r elusen a oedd wedi ein helpu yn ystod yr adeg fwyaf anodd yn ein bywydau. Hefyd mae ein teulu a’n ffrindiau wedi ymuno â ni a’n nod, ac yn 2018 gwnaeth ein tîm o 11 person ddringo mynyddoedd 3000 Cymru. Eto yn 2019 gwnaethom gwblhau’r her cerdded llwybrau 2019 a oedd yn golygu cerdded 100 cilomedr dros fynyddoedd. Erbyn hyn, rydym wedi codi dros £10,000 ar gyfer yr elusen a bob blwyddyn byddwn yn parhau ag un her fawr er mwyn inni barhau i gefnogi’r elusen a chodi ymwybyddiaeth.

Rydym yn gwybod y byddwch yn ysbrydoliaeth i lawer o’n darllenwyr, ond pwy sy’n ysbrydoliaeth i chi? Ac o ble ydych chi’n cael yr ysbrydoliaeth i lwyddo?

Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gymaint gan waith fy nghydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r holl weithwyr allweddol eraill yn ystod  argyfwng COVID 19. Roedd yn rhaid inni addasu i’r ffordd newydd o weithio, dysgu’n gyflym ac ymgyfarwyddo â’r canllawiau a’r wybodaeth ddiweddaraf rydym yn eu darparu ac rwyf yn falch iawn o fod yn rhan ohono. Bob tro, fy nheulu sydd wedi fy ysbrydoli i lwyddo, a fy nheulu fydd yn fy ysbrydoli eto. Hefyd roedd yn rhaid iddynt addasu yn ystod y cyfnod hwn ac roedd yn rhaid iddynt aberthu er mwyn imi allu parhau i weithio ac rwyf mor falch ac yn ddiolchgar iddynt i gyd am hyn.