Mae Dr Gareth Stockman yn gyd-aelod sefydlu ac yn Brif Swyddog Gweithredol Marine Power Systems. Mae ei bartner busnes, Dr Graham Foster, Prif Swyddog Technoleg, hefyd yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, fel llawer o aelodau o’u tîm.

Mae Marine Power Systems (MPS) yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi caledwedd echdynnu ynni morol. Dyma un o ychydig gwmnïau’n unig, ledled y byd, sy’n gweithio ar y dechnoleg hon a’r unig gwmni sy’n gweithio ar gynnyrch sydd â’r nod o gyfuno ynni sydd wedi’i harneisio o wyntoedd a thonnau.

Yma, mae Gareth yn siarad â ni am ei daith o Plymouth drwy Brifysgol Abertawe i’w rôl bresennol …

Dewis Abertawe

“Gwnes i ystyried ychydig brifysgolion, oni i fi, Abertawe oedd y dewis amlwg, heb os nac onibai. Gan fy mod i wedi byw ger y lli yn Plymouth a Chernyw, roedd Abertawe’n teimlo’n gartrefol – rhywle y gallwn i fod yn annibynnol, ond a fyddai hefyd yn fy ngalluogi i barhau â’m hobïau sef chwaraeon dŵr a syrffio. Yn ogystal, roedd ganddi enw da iawn ar gyfer Peirianneg, sef y pwnc gwnes i ei astudio. Wnes i erioed edrych yn ôl.

“Un peth y gwnaeth y Brifysgol oedd caniatáu i fi ddilyn fy agenda fy hun. Gwnaeth hi  rymuso ni fel myfyrwyr i fynd allan a gwneud pethau. Bryd hynny, roeddwn i’n meddwl bod y cyfleusterau’n ardderchog ond ar ôl i fi ymweld a Champws y Bae’n ddiweddar, rwy’n gallu gweld eu bod wedi gwella drwy gydol y blynyddoedd.”

MPS Wave Sub Tow - 'Owen Howells Photography'

Buddsoddi yn eu hunain

“Yn ystod fy astudiaethau israddedig a Meistr, gwnes i lawer o waith ar ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adeiladu prototeip ynni tonnau ar raddfa fach. Gwnes i gwrdd â’m partner busnes presennol, Graham Foster, a oedd hefyd yn dwlu ar chwaraeon dŵr, ac sydd â meddwl peirianneg bendigedig, ac yn 2008, sylweddolwn ni yr hoffem ddechrau ein busnes ein hunain.

“Deilliodd y syniad ar gyfer y busnes o sylweddoli, er bod pobl eraill wedi ceisio datblygu system i echdynnu ynni o’r môr, nad oedden nhw wedi datrys yr heriau o ran harneisio ynni o’r môr, megis mewnosod a chynnal y cynnyrch.

“Doedden ni ddim yn gwybod pa mor bell y byddai hyn yn mynd – ond gwnaeth y syniad ddatblygu, felly gwnaethom fuddsoddi cronfeydd personol sylweddol yn y busnes (yn hytrach na phrynu tai newydd neu geir crand!). Cawson ni hefyd gymorth gwych drwy grantiau gan Lywodraeth Cymru.

“Yn 2010, gwnaeth y syniad ddwyn ffrwyth, roeddem yn gallu ehangu ein tîm bach, a chyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, gwnaethon ni brofi’n prototeip mewn cyfleuster ac ar y môr, ac roedd gennym brawf cysyniad o’r diwedd.”

"...bydd yn yn creu cyfle i Gymru a'r DU allforio'n rhyngwladol gan ddau fyfyriwr graddedig o Abertawe. "

Dod i frig y don ym maes ynni adnewyddadwy

“Rydym wedi cael nifer o lwyddiannau mawr ers i ni ddechrau, ond roedd creu a phrofi prototeip ar raddfa, a brofwyd ar y môr yng Nghernyw ac a brofodd bob syniad newydd am y dyluniad – prosiect gwerth £6m a ariannwyd yn rhannol gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), yn un o’r rhai gorau’n bendant.

“Yn dilyn y llwyddiant, rydym wedi derbyn grant gwerth £12.8m gan WEFO ar gyfer prosiect sydd â’r nod o greu a phrofi dyluniad ar raddfa lawn. Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous ar gyfer tîm MPS –mae llawer o aelodau’r tîm wedi bod yn rhan o’r daith gyfan, ac mae sawl un ohonynt yn raddedigion o Abertawe. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gyflawni’n nod.

“Yn ddiweddar, gwnaethom ehangu portffolio cynnyrch MPS i gynnwys y DualSub sy’n dal ynni’r tonnau a’r gwynt, a’r WindSub, sy’n dal ynni’r gwynt.

“Mae Graham a finnau’n hynod falch o hyn, gan y bydd yn rhoi cyfle i Gymru a’r DU allforio’n rhyngwladol gan ddau fyfyriwr graddedig o Abertawe.

“Os byddwn yn gwneud y cynnyrch hwn yn gywir, ni fydd arweinwyr y farchnad. Gallwn roi arian yn ôl i’r economi, creu swyddi a chael effaith nodedig ar newid yn yr hinsawdd ac achub y blaned!”

Pwy sydd wedi’ch ysbrydoli?

“Roedd fy nhad-cu yn y llynges a phan oeddwn i’n ifanc, rwy’n cofio iddo ddylunio llawer o bethau ac atgyweirio cychod. Gwnaeth hynny fy ysbrydoli i feddwl yn y ffordd hon ers yn ifanc – gan ennyn brwdfrydedd ynghylch sut gellir gwneud pethau’n wahanol neu’n well.

“Yn ogystal, mae James Dyson wedi fy ysbrydoli; yn ddylunydd o gefndir diymhongar a gymerodd ymagwedd newydd ac a lwyddodd, ac sydd bellach yn rhoi llawer yn ôl i’r gymdeithas.”