Enillodd Firouzeh Wobr Myfyrwyr Rhyngwladol Abertawe ar ei ffordd i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg. Yn ystod ei blynyddoedd israddedig hefyd, dyfarnwyd Bwrsariaeth Ymchwil Sefydliad Nuffield iddi a roddodd gyfle iddi ymgymryd ag ymchwil dan oruchwyliaeth yr Athro Michael Disney, Prifysgol Caerdydd ym 1994.

A hithau’n academydd disglair, aeth Firouzeh ymlaen i gwblhau ei PhD yn Labordy Cavendish Caergrawnt. Ar ôl gwrthod swydd yn Labordy jet-yriant NASA, derbyniodd swydd yn yr NIH/NIDCD yn Bethesda, Maryland.

Ar hyn o bryd, Firouzeh yw Cadeirydd Adran Ffiseg a Gwyddor Deunyddiau Prifysgol Memphis (hi yw’r fenyw gyntaf i gael ei phenodi i‘r swydd) lle mae hi’n ymwneud â’r rhaglen ofod o hyd.  Mae hi wedi cyfrannu at raglen cerbyd archwilio Mawrth, yn benodol y cerbyd gofod Phoenix a laniodd yn 2008. Ei chyfraniad hi oedd dylunio haen ddargludol denau ar gyfer targedau calibrad y cerbyd archwilio i helpu i liniaru’r problemau gyda llwch yn cronni.

Mae ei hymchwil ddiweddar mewn Ffiseg Deunyddiau wedi cael ei dewis gan ISSNL (Labordy Cenedlaethol yr Orsaf Ofod Ryngwladol) i’w chynnwys yn y prif lwyth ar gyfer dyddiad lansio ym mis Medi. Mae nodau ei hymchwil yn cynnwys deall sut mae amodau pelydredd a thymheredd eithafol yn effeithio ar gynhyrfiad/allyriad ffosfforau thermograffig.

Firouzeh yn cael ei gyflwyno gyda gwobr.

Yn 2010, arweiniodd weithdy mewn Deunyddiau Gofod ar raglen haf y Brifysgol Ofod Ryngwladol (ISU) yn Strasbourg, Ffrainc. Yn ogystal â’i hymchwil, mae Firouzeh hefyd yn sefydlydd ac yn gyfarwyddwr presennol rhaglen interniaeth haf MemphisCRESH ar gyfer Coleg y Celfyddydau a’r Gwyddorau  (www.memphis.edu/cresh/).  Mae’r fenter yn dod â myfyrwyr ysgol uwchradd dawnus i’r Brifysgol am raglen ymchwil dros yr haf i gael blas ar amgylchedd ymchwil a chydweithio â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar feysydd ymchwil gan gynnwys canser, ynni solar a deunyddiau archwilio’r gofod.

Yn 2008, dyfarnwyd Gwobr APS M. Hildred Blewett i Firouzeh. Yn 2016, derbyniodd Wobr Eye of the Tiger Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Memphis. Mae Firouzeh hefyd wedi derbyn Gwobr Myfyrwyr Ymchwil Tramor (ORD), Gwobr Ymddiriedolaeth y Gymanwlad Caergrawnt (CCT) a Gwobr Bwrsariaeth Coleg y Drindod.