David Smith yn dal ei fedal aur.

Beth ddaeth â chi i Brifysgol Abertawe?

Roeddwn i am astudio Peirianneg Awyrofod ac roedd staff y cwrs, yr awyrgylch cyffredinol a’r traeth yn brif atyniadau.  

Beth yw eich hoff atgofion o astudio yn Abertawe?

Y teithiau astudio a oedd yn cynnwys hedfan megis y labordy hedfan yn Cranfield neu hedfan o gwmpas penrhyn Gŵyr. 

Sut gwnaethoch chi gydbwyso gofynion y radd â’ch gyrfa fel chwaraewr Boccia rhyngwladol?

I ddechrau, bues i’n astudio’n amser llawn gan nad oeddwn i’n gorfod canolbwyntio ar fy ngyrfa chwarae gymaint. Fodd bynnag, wrth i Boccia rhyngwladol ddatblygu’n gyflym a gemau Llundain 2012 nesáu, bu angen gohirio rhannau o’m gradd. Roedd y Brifysgol yn gymwynasgar iawn a gwnaeth bopeth y gallai i’m cefnogi, gan hyd yn oed ganiatáu i mi aros mewn neuaddau fel y gallwn barhau i hyfforddi drwy gydol yr haf.

Sut gwnaethoch chi ddechrau Boccia?

Chwaraeais i yn yr Ysgol Gynradd oherwydd ei bod yn ysgol anghenion arbennig a gwnes i gystadlu am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 6 oed mewn cystadleuaeth yn Stoke Mandeville. 

I’r sawl ohonom nad ydym yn gwybod unrhyw beth am Boccia. Beth yw ef?

Mae Boccia yn gêm sy’n debyg i fowls ar gyfer pobl sydd ag anableddau corfforol (er ei bod hi’n gêm ardd boblogaidd yn Ewrop hefyd). Fel chwaraewyr Boule, rydym yn chwarae gyda pheli lledr meddal ar gwrt caled dan do yr un maint â chwrt badminton. Mae yna ap bellach o’r enw Boccia Battle ac mae’n realistig iawn felly mae’n rhoi syniad da i chi. 

"Mae’n fraint gennyf fod yn rhan o Boccia’r DU..."

Rydych chi wedi cystadlu mewn gemau Paralympaidd amrywiol ledled y byd. Sut mae’n teimlo i gynrychioli eich gwlad yn rhyngwladol?

Mae’n fraint gennyf fod yn rhan o Boccia’r DU a chynrychioli fy ngwlad ac mae’n bleser clywed yr anthem yn y rhan fwyaf o leoedd rwy’n mynd iddynt. Hefyd, mae difyrru a chwarae hyd eithaf fy ngallu o flaen gwylwyr yn wobrwyol iawn.

Sut teimloch chi pan wnaethoch chi ennill eich medal aur Paralympaidd gyntaf?

Roeddwn i’n hapus ac yn emosiynol gan mai’r digwyddiad tîm oedd hynny felly roedd hynny’n gamp ar gyfer fy ffrindiau/nghyd-aelodau tîm yn ogystal â fi fy hun. Enillais i fy medal aur gyntaf cyn i fi ddechrau wythnos y glas yn Abertawe felly roedd hi’n hawdd dathlu! 

Chi yw’r pencampwr Olympaidd a phencampwr y byd. Chi yw’r chwaraewr Boccia o Brydain mwyaf llwyddiannus erioed. Beth sy’n nesaf?

Yn dechnegol, rwy’n bencampwr Paralympaidd. Er, efallai, nad yw’n ymddangos fel bod llawer o wahaniaeth; o ran agweddau penodol ar y diwylliant, mae’n wahaniaeth sylweddol. Rwy’n falch o fod yn athletwr Paralympaidd yn hytrach nag yn athletwr Olympaidd. Mewn gwirionedd, fi yw’r cyd-chwaraewr mwyaf llwyddiannus o Brydain, ynghyd â Nigel Murray MBE, felly fy nod yw gosod record newydd a bod y chwaraewr BC1 cyntaf erioed i amddiffyn teitl Paralympaidd.   

Cawsoch eich anrhydeddu gydag MBE oherwydd eich cyflawniadau. Sut oedd hi’n teimlo mynd i’r palas i’w gasglu?

Teimlais i lawer o falchder wrth gasglu’r MBE, yn bersonol. Roedd fy rhieni a’m cynorthwy-ydd chwaraeon gyda fi felly roedd gallu mynd â’m rhieni i Balas Buckingham yn ymdeimlad arbennig. 

Pan nad ydych yn chwarae Boccia, beth ydych chi’n ei wneud yn eich amser hamdden?

Mae llawer o amser hamdden gyda phob un ohonom ar hyn o bryd! Fodd bynnag, rwy’n brysur fel arfer felly rwy’n mwynhau ymlacio gartref. Neu dreulio amser gyda fy ffrindiau/nheulu. 

Pa gyngor sydd gennych i unrhyw un sy’n ystyried astudio yn Abertawe?

Fy nghyngor fyddai pam lai? Mae’n ddigon pell i ffwrdd i osgoi’ch rhieni’n ymyrryd yn eich bywyd os ydych yn byw yn Lloegr! Mae golygfeydd hardd ym mhob man ac mae’r bobl yn groesawgar ac yn gyfeillgar iawn.