Ben Evans gyda replica o BLOODHOUND.

Pam penderfynoch chi ddod i Brifysgol Abertawe?

Ces i fy magu yn Abertawe ond dim ond ar ôl i mi adael i astudio Peirianneg Awyrenneg yng Nghaergrawnt sylweddolais ba mor anhygoel yw’r ardal hon o’r byd. Yn ystod fy mhedair blynedd yng Nghaergrawnt, roeddwn i’n benderfynol o gael ffordd o ddychwelyd i Abertawe a sefydlu gyrfa yma yn ne Cymru ar ôl i mi raddio. Clywais i fod grŵp ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn modelu peirianneg gyfrifiadol yn Adran Peirianneg Abertawe felly, yn fy mlwyddyn olaf o astudio yng Nghaergrawnt, dechreuais i archwilio’r posibiliadau o wneud astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe. Dyna pryd cwrddais i â’r Athro Ken Morgan a’r Athro Oubay Hassan a fyddai’n oruchwylio fy PhD ymhen amser.

Beth yw eich atgofion gorau am eich amser fel myfyriwr yma?

Yn y cyfnod pan oeddwn i’n astudio, roedd carfan wych o fyfyrwyr PhD yn ymchwilio i feysydd tebyg. Roedd rhai o’r perthnasoedd ddatblygais i yn ystod fy mhedair blynedd fel myfyriwr yn bwysig iawn. Roedd rhai ohonon ni’n ddisgybledig iawn; bydden ni’n dechrau’n gynnar ac yn ceisio bod yn y swyddfa erbyn 7am bob bore yn yr haf ac yna’n gorffen gwaith ganol y prynhawn a mynd i’r traeth i syrffio. Dwi’n gweld eisiau’r diwrnodau hynny’n fawr!

"Roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod!"

Sut daethoch chi’n rhan o brosiect Bloodhound?

Tua’r amser pan oeddwn i’n ysgrifennu traethawd ymchwil fy PhD, a oedd yn seiliedig ar ddatblygu dull modelu cyfrifiadol newydd i ddatrys hafaliad Boltzmann ar gyfer dynameg nwy moleciwlaidd, roeddwn i wedi dechrau meddwl am fy ngham nesaf.  Roeddwn i wedi bwriadu mynd i faes addysgu (dwi’n dod o deulu o athrawon ac roedd yn ymddangos yn llwybr amlwg i mi), ond aeth y cynllun hwnnw o’r neilltu pan ges i gynnig i dreulio tair blynedd yn arwain y gwaith o fodelu dynameg hylif gyfrifiadol y car Bloodhound yn yr ymgyrch i dorri record y byd am gyflymdra ar dir (roedd y Brifysgol eisoes wedi datblygu perthynas â Richard Noble a’r tîm yn sgil eu gwaith ar yr ymgais i dorri’r record gyda’r car uwchsonig Thrust). Roedd yn gyfle rhy dda i’w wrthod!

Beth yw eich rôl chi yn y prosiect?

Ers 2008, dwi wedi arwain y gwaith modelu aerodynamig ar gyfer dylunio Bloodhound. Dwi wedi cyflawni’r  rôl hon wrth weithio ym Mhrifysgol Abertawe, fel Cynorthwy-ydd Ymchwil i ddechrau ac yn ddiweddarach fel aelod o staff academaidd y Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Dwi’n cydbwyso cyfrifoldebau fy ‘swydd pob dydd’ yn y Brifysgol (sy’n cynnwys, ar hyn o bryd, helpu i addysgu’r rhaglen gradd israddedig mewn Peirianneg Awyrofod) â gweithio fel ymgynghorydd i brosiect Bloodhound.

Sut profiad yw bod yn rhan o dîm sy’n ceisio torri’r record am gyflymdra ar dir?

Gwaith caled a phrofiad emosiynol iawn! Mae’r ffaith mai fi yw’r unig berson sy’n gyfrifol am yr holl waith dadansoddi dynameg hylif gyfrifiadol (CFD) ar gyfer cerbyd unigryw a chymhleth fel Bloodhound wedi golygu llwyth gwaith enfawr dros y degawd diwethaf (mewn prosiect masnachol ar y raddfa hon, gallech ddisgwyl y byddai tîm mawr o beirianwyr yn gwneud hyn); ac, wrth gwrs, os ydych chi wedi bod yn dilyn y prosiect, byddwch chi i gyd yn ymwybodol ei fod wedi cael nifer o droeon trwsgl yn ddiweddar, oherwydd arian yn bennaf. Ar sawl adeg, doedd dim arian ar ôl gan y prosiect ac roedd hi’n ymddangos y byddai popeth yn dod i ben. Mae hynny wedi bod yn anodd iawn.

Ydych chi erioed wedi eistedd yn sedd y gyrrwr?

Ydw. A dweud y gwir, fi oedd y person cyntaf i eistedd yn sedd y gyrrwr ar ôl i’r ‘gragen’ ffeibr carbon gyrraedd canolfan dechnegol Bloodhound. Dwi ddim wedi cael cyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr ers i’r holl offeryniaeth gael ei hychwanegu, ond mae’n anhygoel – cyfuniad o long ofod a char fformiwla un!

Golygfa o'r Talwrn yn BLOODHOUND.

Ydych chi’n teimlo’n nerfus bob tro mae’r car (ydyn ni’n gallu ei alw’n gar?) yn cael ei yrru?

Car yw Bloodhound yn bendant. Mae ganddo bedair olwyn a gyrrwr sy’n ei lywio drwy droi’r ddwy olwyn flaen. Dechreuon ni gynnal profion cyflymdra uchel (250 mya a mwy) yn Ne Affrica ar ddiwedd 2019 ac roedd yn anhygoel gweld y car o’r diwedd yn saethu dros y tywod ac yn ymddwyn yn fras yn union fel roedden ni wedi’i ragweld. Ond mae’n rhaid i mi gyffesu bod llais bach yng nghefn fy meddwl yn gofyn ‘ydyn ni wedi gwneud popeth yn iawn yn bendant?’ bob tro roeddwn i’n edrych arno’n cael ei yrru.

Diagram digidol o BLOODHOUND.

Ydy’r profion ar Bloodhound wedi datgelu rhywbeth newydd am aerodynameg neu agweddau eraill ar beirianneg ar gyflymdra uchel?

Mae’r profion hyd yn hyn wedi cadarnhau bod ein hymagwedd modelu CFD wedi gweithio’n dda (o leiaf hyd at 628 mya, neu Mach 0.82) – mae hynny’n hwb mawr i’n hyder y bydd y car yn ddiogel pan gaiff ei yrru’n gyflymach. Rydyn ni wedi bod yn dysgu llawer am y ffordd orau o roi modelu CFD ar waith yng nghyd-destun cylch dylunio cymhleth, ac mae rhai o’r gwersi hynny bellach yn dwyn ffrwyth gyda phrosiectau eraill mewn sefydliadau ‘mwy confensiynol’ megis Airbus a Reaction Engines (sy’n datblygu’r awyren gofod, Skylon).

Fydd yn torri’r record am gyflymdra ar dir?

Bydd! Os bydd y prosiect yn parhau i gael ei ariannu. Rydyn ni’n hyderus dros ben bellach fod y car yn gallu cyrraedd cyflymdra uwch na’r record presennol (763 mya). Y cwestiwn mawr yw pa mor bell gallwn ni ei wthio tu hwnt i hyn (cyn i’r arian redeg allan!)

Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried astudio yn Abertawe?

Mae Abertawe’n brifysgol wych mewn lleoliad hyfryd. Yn fy mhrofiad i (o safbwynt myfyriwr ac aelod staff), mae’r bobl yma’n hynod gyfeillgar ac mae ymdeimlad go iawn o ‘gymuned’. Mae’r cyfle i gael eich herio’n academaidd, a mwynhau safon byw wych ar yr un pryd, yn werth y byd yn fy marn i!