Myfyrwyr a graddedigion newydd
Gallwch fod ben ac ysgwyddau'n well na'r gystadleuaeth gyda'n Rhaglen Mentora Proffesiynol gyda Chyn-fyfyrwyr
Wrth ymuno â'r Rhaglen Mentora Proffesiynol gyda Chyn-fyfyrwyr gallwch dderbyn cymorth a chyngor un i un wedi'i deilwra ar eich cyfer, gan eich helpu chi i ddatblygu eich cyflogadwyedd a rhoi hwb i'ch CV, a fydd yn rhoi mantais i chi dros y gystadleuaeth.
Dyma gyfle ardderchog i ymuno â rhaglen chwe mis a gynhelir o fis Chwefror i fis Gorffennaf 2023, gydag ymrwymiad amser o awr y mis. Byddwch yn gallu dylunio rhaglen fentora sy'n gweddu i'ch anghenion, dysgu gan brofiadau a dewisiadau gyrfa ein cyn-fyfyrwyr, canfod mwy am interniaethau a lleoliadau gwaith, a gofyn cwestiynau. Cewch eich paru gydag un o raddedigion Prifysgol Abertawe sydd â diddordebau tebyg i chi neu sy'n gweithio yn y diwydiant neu’r sector o'ch dewis.
Cwblhewch y ffurflen gais fer sydd wedi'i hatodi erbyn dydd Llun 31 Hydref 2022.
Ffurflen Gais y Rhaglen Mentora Proffesiynol