Gyda Michael W. Thomas, myfyriwr graddedig o Abertawe ac awdur, bardd, dramodydd, a cherddor adnabyddus.

Ymunwch â Michael ar daith i archwilio’r iaith Saesneg o onglau diddorol iawn a rhyfeddol gan ddarganfod sut datblygodd yr iaith rydyn ni’n gyfarwydd â hi ac yn ei defnyddio heddiw. Bydd hefyd yn archwilio hyblygrwydd yr iaith, yng nghyd-destun anerchiadau a chyflwyniadau er enghraifft – a hyd yn oed drwy ddarlleniadau barddoniaeth cofiadwy. Ciplun manwl a lliwgar ar esblygiad a defnydd yr iaith Saesneg fodern. Peidiwch â’i golli!

Bywgraffiad -Michael W. Thomas

Michael W. Thomas

Graddiodd Michael W. Thomas o Brifysgol Abertawe ym 1975 gan ennill gradd BA (Anrhydedd) mewn Saesneg. Symudodd i Canada lle cyflawnodd waith ôl-raddedig ym maes Llenyddiaeth Saesneg a hefyd, bu’n ddarlithydd mewn prifysgolion yn Nova Scotia a Saskatchewan. Ar ôl ennill gradd MA a gradd PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg, dychwelodd i Loegr le y bu’n ddarlithydd mewn nifer o sefydliadau (yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Newman, Birmingham) a dechreuodd gyhoeddi ei waith ei hun. Ar hyn o bryd, mae’n Ddarlithydd Cysylltiol gyda’r Brifysgol Agored. Mae’n awdur deuddeg o lyfrau – barddoniaeth, nofelau, ffuglen fer – yn ogystal ag erthyglau ar ystod o bynciau o ddiwylliant poblogaidd i Lenyddiaeth Iwerddon. Mae’n ysgrifennu adolygiadau ar gyfer teitlau megis The Times Literary Supplement.