Gyda Dr Sian Rees, Athro Cyswllt, Cysylltiadau Cyhoeddus a Brandio, Prifysgol Abertawe

Mae brandio wedi mynd yn ffenomen gynyddol bwerus yn yr 21ain ganrif ac mae brandiau mwyaf y byd yn mwynhau teyrngarwch ffyrnig defnyddwyr brandiau a chyflogeion fel ei gilydd. Mae brandiau byd-eang megis Apple, Disney a Coca-Cola wedi creu ecwiti i fod yn eiddigeddus ohono, ond sut maen nhw’n ymdopi â’r cynnydd yn y craffu gan ddinasyddion digidol gweithredol yr oes sydd ohoni? Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Brandio Cyflogwyr, bydd Sian Rees yn rhannu’i hymchwil ar natur dilysrwydd brandiau yn yr oes ddigidol, gan ymchwilio i’r ffordd y mae brandio wedi newid er mwyn gafael yn y cyfleoedd sy’n dod yn sgîl heriau o ran fformatiau digidol newydd yn ogystal â fformatiau newydd yn y cyfryngau cymdeithasol.

Bywgraffiad - Sian Rees

Sian Rees

Athro Cyswllt mewn cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a brandio yw Dr Sian Rees ac ar hyn o bryd hi yw Pennaeth Adran Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe.

Yn ystod ei gyrfa mewn diwydiant, Sian oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddi grŵp cylchgronau Stuff a What Hi-Fi? ac yn rheolwr-gyfarwyddwr ei hymgynghoriaeth farchnata a chysylltiadau cyhoeddus ei hun. Ymhlith ei phrofiad ym myd diwydiant y mae datblygu a gweithredu ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata strategol ym maes nwyddau ar gyfer defnyddwyr sy’n symud yn gyflym (FMCG), manwerthu, adloniant yn ogystal â’r sectorau meddygol, addysg a thechnoleg.

Mae Sian yn ysgrifennu’n academaidd ar gyfathrebu gwirioneddol, cysylltiadau cyhoeddus a brandio yn oes y cyfryngau digidol.