Sgwrs: Out of the desert and into the sea - Where my BSc degree has taken me

Ymunwch â Shareen Doak, Athro Genotocsicoleg a Chanser ym Mhrifysgol Abertawe wrth iddi rannu 20mlynedd o brofiad ym maes academia - o BSc Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe.

 

 

Bywgraffiad - Shareen Doak

Shareen Doak

Shareen yw Athro Genotocsicoleg a Chanser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar broffiliau genotocsig nanoddeunyddiau artiffisial, y mecanweithiau sy'n sylfaen i'w potensial i niweidio DNA a'r effaith ddilynol ar iechyd dynol. Mae ei diddordebau'n ymestyn i ddatblygiad modelau meithriniad 3D uwch a biobrofion ar sail mecanwaith i asesu diogelwch er mwyn lleihau'r angen i gynnal profion gydag anifeiliaid. Mae ei hymchwil ym maes canser y prostad yn canolbwyntio ar ddeall sylfaen foleciwlaidd ei ddatblygiad yn glefyd ymledol ac ymosodol; a'r prif nod yn y pen draw yw nodi panel o fiofarcwyr prognostig ar gyfer gwella rheolaeth glinigol cleifion.

Mae Shareen yn gyd-arweinydd y Grŵp Tocsicoleg In Vitro ac yn Docsicolegydd Cofrestredig yn y DU a chydag EUROTOX; mae hi'n Gymrawd Gwadd y Gymdeithas Bioleg Frenhinol (FRSB) ac yn Gymrawd etholedig Cymdeithas Ddysgedig Cymru (FLSW). Mae Shareen hefyd yn aelod o Bwyllgor Mwtagenedd Llywodraeth y DU a hi yw'r Prif Olygydd ar gyfer Mwtagenesis. Mae hi'n cydlynu prosiect PATROLS H2020 sy’n werth €13 miliwn (www.patrols-h2020.eu) a hi yw Cyfarwyddwr y Rhwydwaith Arloesedd Gwyddor Bywyd Uwch Celtaidd (CALIN), prosiect INTERREG Iwerddon-Cymru gwerth €12 miliwn a sefydlwyd i adeiladu pont arloesi rhwng Cymru ac Iwerddon yn y gwyddorau bywyd.