International women's day 2021

 
Os gwnaethoch golli allan ar un o'n digwyddiadau rhithwir, peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma.

Personoliaethau benywaidd blaenllaw o fyd chwaraeon ...

yn trafod sut iddynt lwyddo i oresgyn heriau a’r hyn a oedd yn gymhelliant iddynt gyflawni gyrfaoedd llwyddiannus o amgylch ei hangerdd.
Barwnes Tanni Grey-Thompson DBE
Athletwr Paralympaidd, Arglwydd Cyfoed, Trawsfeinciol yn Nhŷ’r Arglwyddi, Siaradwr Cymhellol a Darlledwr.
Yr Athro Laura McAllister CBE
Cyfarwyddwr Bwrdd Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru.
Tennessee Randall
Pencampwr Cicfocsio y Byd.
Siwan Lillicrap
Capten Tîm Rygbi Menywod Cymru.

Arweinwyr diwydiant blaengar ...

ar sut y gwnaethant oresgyn heriau a datblygu gwytnwch er mwyn cyrraedd y brig yn eu maes ac a oedd angen aberthu’n bersonol er mwyn profi’r llwyddiant hwn.
La-Chun Lindsay
Cyfarwyddwr Gweithrediadau Isadeiledd, Amazon Web Services (AWS)
Liz Johnson
Cyn-nofiwr Paralympaidd a Rheolwr-gyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd, The Ability People
Annemiek Ballesty Alsem
Uwch-is-lywydd, Pennaeth APAC Commercial yn Fossil Group, Inc

Nid yw sefyll dros yr hyn rydych chi'n credu ynddo bob amser yn hawdd ...

Trafodaeth ysbrydoledig gyda menywod sydd wedi goresgyn disgwyliadau ac wedi gwrthod derbyn y cyfyngiadau a osodir arnynt.
Jill Nalder
yr ysbrydoliaeth y tu ôl i gyfres boblogaidd Russell T Davies ‘It’s a Sin’.
Rosaleen Moriarty-Simmonds
Menyw fusnes, Ymgyrchydd Cydraddoldeb, Gwirfoddolwr toreithiog a Gweithiwr Elusennol.

Ydych chi am awgrymiadau da i’ch grymuso wrth baratoi ar gyfer cyfle newydd?

Efallai yn dilyn cyfnod o ddiweithdra, diswyddo, ffyrlo, mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu? Mae’r gweithdy hwn yn llawn cyngor a fydd yn eich grymuso chi yn ymarferol a bydd hefyd yn paratoi eich meddylfryd ar gyfer y cyfnod pontio pwysig hwn.

Byd ble arferai dynion ddal awenau grym...

Bydd cyfaill y Brifysgol Beti George a’r Cymrawd Anrhydeddus Elin Rhys yn rhannu eu profiadau o’r heriau y maent wedi’u hwynebu wrth gyrraedd y brig ym maes y cyfryngau; byd ble arferai dynion ddal awenau grym, a brwydrau am gyflog cyfartal ar hyd y ffordd.