Ymunwch â ni i rannu eich uchafbwyntiau Varsity!

P'un a oeddech chi'n Gapten ar y tîm lacrosse, yn un o’r ‘Swansea Sirens’ neu os gwnaethoch chi wisgo'ch crys T cefnogwyr Gwyrdd a Gwyn â balchder a cholli'ch llais yn cefnogi'r timau, mae rhywbeth at ddant pawb!

Beth bynnag yw eich atgofion, bydden ni’n dwli clywed amdanynt yn ein digwyddiad rhannu lluniau rhithwir.

Nod y digwyddiad hwn yw dod â chymuned Prifysgol Abertawe ynghyd fel y byddem fel arfer yn ei wneud pe bai'n ddiwrnod Varsity. Mae’r ymdeimlad o gymuned a chydgysylltiad yn bwysicach nag erioed, a theimlwn ei bod yn bwysig nodi’r digwyddiad hwn a'i ddefnyddio i godi arian hanfodol i gefnogi clybiau chwaraeon y Brifysgol.

Mae'n gyfle perffaith i chi i dwrio trwy'r hen flychau hynny, a rhannu eich hoff atgofion o'ch dyddiau Varsity. Pa bynnag atgofion yr ydych wedi eu cadw ar hyd y blynyddoedd, byddem wrth ein bodd pe byddech yn eu rhannu gyda ni.

Varsity

Cofrestrwch Yma

  • Cofrestrwch ar Cyswllt Prifysgol Abertawe - ein cymuned unigryw ar gyfer cyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr presennol Abertawe – cyn I’r digwyddiad ddechrau;
  • Llwythwch eich lluniau ir brif ffrwd newyddion;
  • Cofiwch fod y cof gyda'r rhai mwyaf 'hoff' yn ennill tocynnau VIP i Varsity 2022!

Felly ymunwch â'r fyddin Gwyrdd a Gwyn a ledaenu'r gair a rhannu'r digwyddiad hwn ymhell ac agos gan ddefnyddio #varsityrhithwir2021 a #einhabertawe

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn y digwyddiad rhithwir hwn, cysylltwch â: welshvarsity@abertawe.ac.uk 

Nodwch: Trwy rannu eich lluniau gyda ni rydych chi’n rhoi caniatâd i Brifysgol Abertawe eu defnyddio mewn cyhoeddiadau print a digidol sy'n ymwneud â'r digwyddiad hwn

Varsity

Eleni, yn arddull nodweddiadol y Fyddin Werdd a Gwyn, gallwch chi ddangos eich cefnogaeth i rai o'ch cyn-glybiau chwaraeon drwy gefnogi’u hymgyrchoedd cyllido torfol. Cliciwch yma i weld yr ymgyrchoedd sy'n fyw a chyfrannwch heddiw! 

Yn methu gweld eich hoff glwb neu’ch cyn-glwb ar y rhestr gefnogi? Gadewch inni wybod pa dîm yr hoffech chi ei gefnogi a gallwn ni roi gwybod ichi sut orau i gymryd rhan! E-bostiwch ni alumni@swansea.ac.uk