Drwy gydol hanes Prifysgol Abertawe a'r sefydliadau a'i sylfaenodd, mae dyngarwch wedi chwarae rôl allweddol yn ei thwf a'i llwyddiant. O weledigaeth yr Is-iarll Haldane, a chwaraeodd ran hollbwysig yn y broses o sefydlu’r Brifysgol ganrif yn ôl, i haelioni rhoddwyr heddiw ac yn y gorffennol, mae cefnogaeth y rhai sy’n credu yng ngrym addysg wedi helpu Prifysgol Abertawe i fod yn un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y byd heddiw.

Mae’r datganiad hwn yn esbonio sut mae Prifysgol Abertawe (“ni” ac “ein”)  yn trin ac yn defnyddio’r  data personol rydym yn ei gasglu am ein cyn-fyfyrwyr (sy’n cynnwys cyn-fyfyrwyr er anrhydedd (e.e. Cymrodorion Er Anrhydedd) yn ogystal â chyn-fyfyrwyr) a’n cefnogwyr yn y gorffennol, heddiw ac yn y dyfodol – p’un a ydynt yn rhoddwyr, yn wirfoddolwyr neu’n gyfranogwyr yn y digwyddiadau rydym yn eu cynnal (“chi” ac “eich”). Mae “y Brifysgol” yn y cyd-destun hwn yn golygu’r Swyddfa Datblygu ac Ymgysylltu. Drwy ddatblygu gwell dealltwriaeth o’n cyn-fyfyrwyr a’n cefnogwyr, gallwn gadw mewn cysylltiad â chi, er mwyn rhoi gwybod i chi am ein gweithgareddau a’n datblygiadau, darparu gwasanaethau i chi, a nodi ffyrdd y gallwch ein cefnogi – drwy roddion neu fathau eraill o gymorth ariannol ac anariannol.


Rydym yn ymrwymedig i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn dryloyw ynghylch yr wybodaeth rydym yn ei chadw. Mae gan y Brifysgol amrywiaeth o bolisïau a gweithdrefnau diogelu data, a cheir trosolwg ohonynt yma: http://www.swansea.ac.uk/the-university/world-class/vicechancellorsoffice/compliance/dataprotection/dataprotectionpolicy/. Mae’r datganiad canlynol yn esbonio sut mae’r Brifysgol yn defnyddio eich data personol at ddibenion codi arian (gan gynnwys digwyddiadau cyhoeddus) a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr yn benodol.

DATA PERSONOL A GEDWIR GAN Y BRIFYSGOL

Mae’n bosib ein bod yn cadw gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chi sydd wedi dod o nifer o ffynonellau. Os buoch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe (neu sefydliad a oedd yn rhagflaenydd iddi), mae’r wybodaeth sylfaenol sydd gennym wedi’i throsglwyddo o’ch cofnod myfyriwr.  At yr wybodaeth hon, ychwanegir unrhyw wybodaeth y byddwch chi’n ei darparu i ni (er enghraifft, efallai y byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni drwy lenwi ffurflenni ar wefan y Brifysgol, drwy gofrestru ar gyfer digwyddiad, neu drwy gysylltu â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn ffordd arall).

Mae cofnodion arferol yn cynnwys rhai o’r canlynol neu bob un ohonynt:

• Manylion eich addysg ym Mhrifysgol Abertawe (neu mewn sefydliad a oedd yn rhagflaenydd iddi) (e.e. y cyrsiau rydych wedi’u cwblhau, dyddiadau astudio, dosbarth eich gradd)
• Cyfeirnodau personol unigryw a gwybodaeth fywgraffyddol (e.e. rhif myfyriwr, dyddiad geni)
• Eich manylion cyswllt, os byddant ar gael i ni (byddwn yn diweddaru'r rhain os byddwch yn rhoi gwybod i ni eu bod wedi newid)
• Manylion eich cysylltiadau â’r Brifysgol, gan gynnwys:

              o Eich aelodaeth o glybiau, cymdeithasau a grwpiau cyn-fyfyrwyr
              o Eich presenoldeb yn nigwyddiadau’r Brifysgol
              o Cysylltiad arall â ni neu ein partneriaid (gweler y rhestr isod)
              o Eich cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr eraill neu rai sy’n cefnogi’r Brifysgol

• Manylion eich teulu (e.e. eich statws priodasol, enw eich partner neu eich priod)
• Data personol a ddarparwyd gennych at ddiben penodol (e.e. gwybodaeth am anabledd neu ddewisiadau deietegol at ddibenion rheoli digwyddiad)
• Eich dewisiadau cyfathrebu, i’n helpu i ddarparu cyfathrebiadau pwrpasol a pherthnasol.

Rydym hefyd yn cofnodi’r canlynol, os ydynt yn berthnasol, yn seiliedig ar wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni a gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus a gwybodaeth gan ein partneriaid (gweler y rhestr isod) mewn rhai achosion:

• Gwybodaeth ariannol sy’n gysylltiedig â chi a’ch teulu, gan gynnwys:

              o Hanes rhoddion rydych wedi’u rhoi i’r Brifysgol ac i’w cholegau
              o Eich gallu a’ch parodrwydd i roi arian, gan gynnwys ein hasesiad o’ch incwm ac a fyddai rhoddion neu ymgyrchoedd codi arian penodol o ddiddordeb i chi
              o Eich dyngarwch a rhoddion eraill gennych, gan gynnwys rhoddion i sefydliadau eraill ac unrhyw fath arall o gefnogaeth a ddarperir gennych (e.e. manylion am rolau gwirfoddoli)

• Uchafbwyntiau eich gyrfa a chyflawniadau eraill yn eich bywyd
• Gwybodaeth am feysydd sydd o ddiddordeb i chi a gweithgareddau allgyrsiol 

SUT RYDYM YN CADW EICH DATA’N GYWIR AC YN GYFREDOL

Er mwyn sicrhau bod y data’n gywir, byddwn yn helaethu’r data sydd wedi dod gan y Brifysgol drwy ychwanegu data gan ein partneriaid (gweler y rhestr isod) a data sydd ar gael yn gyhoeddus, gan gynnwys data o’r cronfeydd data canlynol (a gyrchir fel arfer drwy bartner trydydd parti megis CCR (gweler isod), nid yn uniongyrchol gan Brifysgol Abertawe):

• Gwasanaeth Cenedlaethol y Post Brenhinol ar gyfer Newid Cyfeiriad
• System Wybodaeth Gwasanaethau Gweithredwyr BT (OSIS)
• Gwahanol gronfeydd data a ffeiliau atal a gedwir gan Experian (e.e. Absolute Movers), Equifax (e.e. disConnect), Acxiom (e.e. Purity), Wilmington Millennium (e.e. Mortascreen), ymhlith eraill.
• Prospecting for Gold, i gael gwybodaeth am gyfoeth a thueddiadau dyngarol
• LiveAlumni ar gyfer cyrchu data sydd ar gael yn gyhoeddus ar LinkedIn


Rydym yn defnyddio chwiliadau rhyngrwyd wedi’u targedu ac mae’n bosib y byddwn yn chwilio’r gwefannau canlynol (naill ai’n uniongyrchol neu gan ddefnyddio chwilotwyr), pan fo hynny’n berthnasol, er mwyn cael y data a restrir uchod a’i gadw’n gywir:

  • Ffynonellau cyhoeddus ar gyfer cwmnïau (er mwyn dod o hyd i ddata personol cyflogeion y cwmnïau hynny, etc):

    o Tŷ’r Cwmnïau ac adnoddau busnes eraill ar gyfer cwmnïau yn y DU
    o Gwefannau cwmnïau

    • Ffynonellau cyhoeddus ar gyfer elusennau (er mwyn dod o hyd i ddata personol cyflogeion, ymddiriedolwyr, etc, yr elusennau hynny, ac i ddod o hyd i wybodaeth am roddion a chefnogaeth):

    o Y Comisiwn Elusennau a ffynonellau rhyngrwyd eraill ar gyfer sefydliadau dielw yn y DU
    o Gwefannau elusennau

    • Ffynonellau cyhoeddus ar gyfer unigolion:

    o Sunday Times Rich List
    o Rhestrau eraill o gyfoethogion, gan gynnwys rhestrau Forbes Magazine o gyfoethogion rhyngwladol
    o Rhestrau Anrhydeddau'r Frenhines
    o Linkedln, er mwyn gwirio manylion busnesau

    • Ffynonellau’r wasg

    o Erthyglau papurau newydd a chyhoeddiadau
    o LexisNexis (tanysgrifiad)

Lle y bo’n berthnasol, yn seiliedig ar wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni ac rydych wedi rhoi caniatâd penodol i ni ei phrosesu, efallai y byddwn hefyd yn cofnodi:

• Data Categori Arbennig e.e.

o Ethnigrwydd
o Rhywioldeb

SUT MAE’R BRIFYSGOL YN DEFNYDDIO EICH DATA

Rydym yn defnyddio eich data at nifer o ddibenion rhyngddibynnol i gefnogi cysylltiadau â chyn-fyfyrwyr, cyfathrebu â chefnogwyr, digwyddiadau a chodi arian. Mae'r rhain yn cynnwys:

• Anfon cyhoeddiadau atoch (e.e. cylchgronau cyn-fyfyrwyr a diweddariadau am y brifysgol)
• Anfon e-byst atoch i roi'r newyddion diweddaraf am y Brifysgol i chi, i'ch gwahodd i ddigwyddiadau ac o bryd i'w gilydd i ofyn am eich cymorth ariannol
• Cynnal arolygon
• Darparu gwasanaethau, gan gynnwys mynediad at wasanaethau chwilio am gyfaill a gwasanaethau eraill
• Anfon cynigion, apeliadau a cheisiadau am roddion wedi’u teilwra atoch
• Anfon manylion cyfleoedd gwirfoddoli atoch
• Eich gwahodd i ddigwyddiadau i gyn-fyfyrwyr a rhai o ddigwyddiadau cyhoeddus eraill y Brifysgol
• Dadansoddi cyfoeth (a elwir weithiau’n ‘sgrinio cyfoeth’) ac ymchwil i gyfoeth (‘ymchwil i bosibiliadau) er mwyn gwella ein dealltwriaeth o’n cyn-fyfyrwyr a’n cefnogwyr, llywio ein strategaeth codi arian a thargedu ein cyfathrebiadau yn fwy effeithiol
• Cadw cofnodion mewnol, gan gynnwys rheoli adborth neu gwynion
• Dibenion gweinyddol (e.e. er mwyn prosesu rhodd gennych neu weinyddu digwyddiad rydych wedi cofrestru ar ei gyfer neu wedi mynd iddo).
• Cefnogi’r gweithgarwch sy’n gysylltiedig â’n rhaglenni mentora a chyflogadwyedd.
• Gwneud gwaith dadansoddi mewnol o gynnydd ac effeithiolrwydd ein hymgyrchoedd a'n gweithgareddau eraill
• Ni fyddwn yn prosesu data Categori Arbennig oni bai eich bod wedi ein hysbysu bod hawl gennym i wneud hynny at ddiben penodol, megis er mwyn cefnogi ein rhaglenni cyflogadwyedd a mentora.

Cyn ceisio neu dderbyn rhoddion sylweddol, mae’n ofynnol ein bod yn cynnal proses diwydrwydd dyladwy, gan gynnwys adolygu data personol am y rhoddwr sydd ar gael i'r cyhoedd, gan gynnwys euogfarnau a throseddau, proffil gwleidyddol, presenoldeb ar restrau goruchwylio, llygredd, unigolion/grwpiau a allai ddwyn anfri ar y brifysgol, cosbau rhyngwladol, cysylltiadau ag ardaloedd sensitif, camymddygiad ariannol, etc.

Ar ben hynny, efallai y byddwn hefyd yn cynnal proses diwydrwydd dyladwy debyg ar aelodau paneli a chynrychiolwyr mewn digwyddiadau. Gellir cynnal yr ymchwil hon â llaw, neu drwy ddefnyddio adnodd megis DDIQ (gweler https://www.exiger.com/ddiq/), neu drwy gyfuno'r ddau ddull.

Rydym yn gwneud y gwaith ymchwil hwn er mwyn diogelu enw da'r Brifysgol a chynnal ei safonau moesegol uchel.

Gellir cyfathrebu â chi drwy’r post, dros y ffôn, neu’n electronig (e-bost a neges destun), gan ddibynnu ar yr opsiynau rydych yn eu dewis. Os byddwch yn rhoi manylion cyswllt ar gyfer dull penodol o gyfathrebu i ni, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod wedi rhoi eich caniatâd i ni ddiweddaru eich cofnod a chyfathrebu â chi gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, oni bai eich bod wedi rhoi gwybod i ni'n wahanol. Bydd manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol gennych yn diweddaru unrhyw ddewisiadau blaenorol o ran y sianel hon, oni bai eich bod yn rhoi gwybod i ni'n wahanol. Os ydych wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn (TPS) ond rydych yn rhoi eich rhif ffôn i ni, byddwn yn cymryd yn ganiataol fod gennym eich caniatâd i’ch ffonio ar y rhif hwn.

Os oes gennych bryderon neu gwestiynau ynghylch unrhyw un neu fwy o'r dibenion hyn, neu’r ffordd rydym yn cyfathrebu â chi, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Mae’n bosib y byddwn yn dadansoddi data i’n helpu i nodi a ydych yn debygol o gefnogi’r Brifysgol, darparu profiad gwell i chi, anfon cyfathrebiadau perthnasol ac amserol atoch, nodi cyfleoedd gwirfoddoli neu gyfleoedd i ddarparu cefnogaeth a allai fod o ddiddordeb i chi, ac osgoi cysylltu â chi ynghylch cyfleoedd nad ydynt o ddiddordeb. Mae hyn oll yn ein galluogi i godi mwy o arian, yn gynt ac yn fwy cost-effeithiol, er mwyn cefnogi amcanion ymchwil ac addysgu strategol y Brifysgol. Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau, lle y bo hynny’n bosib, fod unrhyw gyfleoedd a gyflwynwn yn gyson â’ch diddordebau, yn ôl yr ymchwil a wnawn.

Byddwn bob amser yn parchu cais gennych i roi’r gorau i brosesu eich data personol. Amlinellir eich hawliau statudol isod.

 

PRYD BYDD Y BRIFYSGOL YN RHANNU EICH DATA AG ERAILL (EIN PARTNERIAID)

Rydym yn rhannu data ar sail ystyriol a chyfrinachol, lle y bo hynny’n briodol, â’r canlynol:

• Sefydliadau cysylltiedig sy’n cefnogi ac yn darparu gwasanaethau i gyn-fyfyrwyr a chefnogwyr, megis:

o Partneriaid gwirfoddoli sydd â chysylltiad agos â ni (e.e. aelodau’r Bwrdd Datblygu, penaethiaid canghennau cyn-fyfyrwyr)

• Trydydd partïon a ddefnyddir gan y Brifysgol i ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud â chodi arian, megis:

o Asiantaethau trydydd parti sy’n darparu data i ni ynghylch gallu unigolion i roi arian (weithiau gelwir hyn yn ‘sgrinio cyfoeth’)
o Trydydd partïon sy'n darparu gwasanaethau i gynorthwyo ein diwydrwydd dyladwy (https://www.exiger.com/ddiq/)
o Contractwyr sy’n defnyddio cronfeydd data cenedlaethol (e.e. y Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Newid Cyfeiriad) i ddarparu manylion wedi’u diweddaru i ni ynghylch ein cyn-fyfyrwyr, er enghraifft os byddwch yn symud tŷ. Yn aml, ‘glanhau data’ yw’r term a ddefnyddir am y broses hon sy’n cael ei chynnal gan drydydd parti, megis CCR (http://www.ccr.co.uk/data-cleansing).
o Contractwyr eraill sy’n darparu gwasanaethau i ni, neu wasanaethau i chi ar ein rhan ni, (er enghraifft, ein gwefan cysylltu â chyn-fyfyrwyr, Graduway (swanseauniconnect.com); cwmnïau postio i ddosbarthu ein cylchgrawn cyn-fyfyrwyr)

• Gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i gyn-fyfyrwyr gyflawni tasgau gwirfoddol, megis:

o Diweddaru eich manylion bywgraffyddol, cyflogaeth a chyswllt (JotForm: https://eu.jotform.com/)
o Cwblhau arolygon ar-lein y gallwn eu hanfon atoch (Online Surveys: https://www.onlinesurveys.ac.uk/)

• Ni fyddwn byth yn rhannu data Categori Arbennig ag unrhyw sefydliad nac unigolion eraill y tu hwnt i Brifysgol Abertawe.

SUT RYDYM YN DIOGELU EICH DATA

Byddwn yn sicrhau ein bod wedi sefydlu cytundebau priodol ar gyfer rhannu data cyn rhannu eich data personol, gan gynnwys ar gyfer unrhyw is-gontractwyr.   Ni fyddwn yn gwerthu eich data personol i drydydd partïon dan unrhyw amgylchiadau, nac yn caniatáu i drydydd partïon werthu’r data rydym wedi’i rannu â hwy. Byddwn hefyd yn hwyluso cyfathrebu rhwng cyn-fyfyrwyr unigol, ond wrth wneud hynny ni fyddwn yn rhyddhau manylion cyswllt personol heb gael caniatâd ymlaen llaw.

Bydd unrhyw drosglwyddiad o’ch data dramor (y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd), er enghraifft i weinyddion yn yr Unol Daleithiau, yn cael ei ddiogelu naill ai gan ‘benderfyniad digonolrwydd’ gan y Comisiwn Ewropeaidd (yn datgan bod y wlad sy’n derbyn yn diriogaeth ‘ddiogel’ ar gyfer data personol) neu gan gymalau cytundebol safonol a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd (sy’n rhwymo’r derbynnydd i ddiogelu’r data). Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau a ddefnyddiwn i ddiogelu data wrth ei drosglwyddo’n rhyngwladol ar gael gan ein Swyddog Diogelu Data (gweler ei fanylion cyswllt isod).

EICH HAWLIAU

Mae deddfwriaeth diogelu data'n darparu nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. Rhestrir y rhain isod ac maent yn berthnasol i amgylchiadau penodol:

• Cais am fynediad at eich gwybodaeth bersonol (sy'n cael ei adnabod yn gyffredin fel ‘cais am fynediad gan wrthrych data’). Mae hyn yn rhoi hawl i chi dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch a gwirio ein bod yn ei phrosesu'n gyfreithlon.

• Cais i gywiro'r wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni gywiro unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi.

• Cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu neu dynnu gwybodaeth bersonol lle nad oes gennym reswm da dros barhau i'w phrosesu. Mae gennych hawl hefyd i ofyn i ni ddileu neu dynnu'ch gwybodaeth bersonol lle'r ydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu i ni ei phrosesu (gweler isod).

• Gwrthwynebu i’ch gwybodaeth bersonol gael ei phrosesu, lle'r ydym yn dibynnu ar fuddiant dilys (neu fuddiannau dilys trydydd parti) ac mae rhywbeth yn eich sefyllfa benodol sy'n golygu eich bod yn gwrthwynebu prosesu ar y sail hon. Mae gennych hawl i wrthwynebu hefyd lle'r ydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol.

• Cais i gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch, er enghraifft, os hoffech i ni gadarnhau ei chywirdeb neu'r rheswm dros ei phrosesu.

• Cais i drosglwyddo eich gwybodaeth bersonol ar ffurf gludadwy. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosib y bydd gennych hawl i ofyn i ni ddarparu copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol, naill ai at eich defnydd personol, neu i'w rhannu â sefydliad arall. Lle y bo'r hawl hon yn berthnasol, gallwch ofyn i ni drosglwyddo'ch data personol yn uniongyrchol i'r parti arall os yw hyn yn ymarferol.

Os hoffech adolygu, gwirio, cywiro’ch gwybodaeth bersonol neu ofyn i ni ei dileu , os hoffech wrthwynebu i ni brosesu'ch data personol neu ofyn i ni drosglwyddo copi o'ch gwybodaeth bersonol i barti arall, cysylltwch â:

Mrs Bev Buckley

Swyddog Diogelu Data
Swyddfa'r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk

 

RHAGOR O WYBODAETH

Mae Prifysgol Abertawe wedi'i chofrestru’n Rheolydd Data gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i brosesu data personol. Rhif cofrestru: Z6102454. Mae ein Swyddog Diogelu Data yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â diogelu data personol, a gellir cysylltu â’r unigolyn hwnnw drwy e-bostio dataprotection@abertawe.ac.uk.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol at y dibenion rhyngddibynnol a ddisgrifir uchod yw bod hynny’n angenrheidiol er mwyn cynnal ein buddiannau dilys. Byddwn bob amser yn trin eich data personol yn ddiogel ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio cyn lleied â phosib, ac nad yw eich buddiannau'n cael eu diystyru drwy ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at y dibenion hyn. Yn ogystal, nid oes gofyniad statudol na chytundebol i chi ddarparu unrhyw ddata personol i ni.

Lle y bo'n ofynnol yn ôl y gyfraith, byddwn yn dibynnu ar eich caniatâd i anfon cyfathrebiadau marchnata electronig yn uniongyrchol atoch. Os hoffech i'r Swyddfa Cyn-fyfyrwyr roi'r gorau i gyfathrebu â chi, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy e-bostio alumni@abertawe.ac.uk.

Yn achos data Categori Arbennig, ein sail gyfreithiol dros brosesu yw caniatâd. Nid ydym yn cadw data Categori Arbennig (e.e. Ethnigrwydd, Rhywioldeb) oni bai eich bod wedi rhoi'r wybodaeth i ni at ddiben penodol (e.e. cefnogi ein rhaglenni cyflogadwyedd a mentora) ac mae gennym eich caniatâd penodol i’w phrosesu am nifer gyfyngedig o ddibenion a nodir uchod.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth sy'n rheoleiddio materion diogelu data a phreifatrwydd yn y DU. Darperir llawer o wybodaeth ar wefan y Swyddfa a sicrheir bod manylion cofrestredig pob rheolydd data fel ni ar gael i'r cyhoedd. Gallwch eu gweld yma http://www.ico.gov.uk/for_the_public.aspx.

Gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw adeg am y ffordd rydym yn defnyddio eich gwybodaeth. Fodd bynnag, ein gobaith yw y byddech yn ystyried dod atom ni yn y lle cyntaf i ddatrys unrhyw broblem neu gŵyn sydd gennych. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddatrys unrhyw broblemau a allai fod gennych.

Cysylltwch â ni drwy e-bostio alumni@abertawe.ac.uk os oes gennych bryderon neu gwestiynau ynghylch yr wybodaeth uchod neu os ydych yn dymuno gofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion penodol. Os oes gennych geisiadau penodol ynghylch y ffordd rydym yn rheoli eich data, gwnawn bob ymdrech i’w hateb, ond sylwer ei bod yn bosib y bydd amgylchiadau lle na fyddwn yn gallu gweithredu yn unol â cheisiadau penodol. Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon ag ateb y Brifysgol, mae gennych hawl i fynd â’ch cwyn at y Rheoleiddiwr Codi Arian i ofyn am ymchwiliad annibynnol. Ewch i wefan y Rheoleiddiwr i gael rhagor o fanylion: www.fundraisingregulator.org.uk 

Byddwn yn cadw eich data i gefnogi eich perthynas gydol oes â’r Brifysgol neu tan y byddwch yn gofyn i ni wneud fel arall. Byddwn yn cyhoeddi ar ein gwefan unrhyw newidiadau a wnawn i’r datganiad diogelu data hwn ac yn rhoi gwybod i chi drwy sianeli cyfathrebu eraill lle y bo hynny’n briodol.