Triniaethau gwell, mwy caredig ar gyfer canser

Mae ein gwyddonwyr yn arwain ymchwil canser arloesol sydd â'r potensial i achub bywydau di-rif.

O grebachu tiwmorau, i ddatblygu profion diagnosio cyflym, di-boen, rydym ni'n datblygu technolegau o'r radd flaenaf ar gyfer y dyfodol. Dyluniwyd y therapïau penodol mae ein gwyddonwyr yn eu datblygu i fod yn fwy effeithiol, gyda llai o sgîl-effeithiau na meddyginiaethau confensiynol. Er bod triniaethau megis cemotherapi yn niweidio celloedd canser a rhai iach, gan wneud i gleifion deimlo'n sâl iawn, byddai rhai o'r ymyriadau penodol yn ymosod ar y rhai canseraidd yn unig.

Mae gan Brifysgol Abertawe hanes balch o ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2020, barnwyd bod 90% o'n hymchwil  naill ai o'r radd flaenaf neu'n rhyngwladol ragorol. Wrth i ni fentro i'n 100 mlynedd nesaf fel prifysgol, gallwch chi ein helpu ni i ddarganfod pethau sy'n gallu newid y byd.  

Ein Hymchwil: Ein Hanes

Ein Hymchwil Canser

Fyddwch chi'n cefnogi ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe?

Allwch chi fod yn gatalydd ar gyfer darganfyddiadau sy'n newid y byd?