Pam gadael cymynrodd i Birfysgol Abertawe?
Meithrin etifeddiaeth ar gyfer y can mlynedd nesaf
Mae cymynrodd yn benderfyniad personol iawn. Mae'n fynegiant o'ch gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n bwysig i chi.
Mae cymynroddion yn cael effaith ar draws y sefydliad, a gallwch ddewis maes sy'n adlewyrchu'ch blaenoriaethau dyngarol chi. O gefnogi myfyrwyr dawnus i gyllido ymchwil arloesol, mae stori pawb yn wahanol, ond mae cysylltiad a rennir â Phrifysgol Abertawe a chyd-ddiddordeb mewn diogelu dyfodol Abertawe.