100% o waith ymchwil Adran y Gymraeg o safon ryngwladol

100% o waith ymchwil Adran y Gymraeg o safon ryngwladol


Ymchwil Adran y Gymraeg

Ers troad y mileniwm, dangosodd y tri asesiad ymchwil  (2001, 2008, 2014) fod Adran y Gymraeg yn uned o ragoriaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a’r staff yn cynhyrchu’n gyson waith ymchwil o’r radd flaenaf yn rhyngwladol. Fodd bynnag, y mae’r traddodiad ymchwil yn ymestyn yn ôl i ddechreuadau’r Brifysgol, pan oedd Henry Lewis a Saunders Lewis yn dysgu yn Adran y Gymraeg.

UCHAFBWYNTIAU EIN HYMCHWIL REF 2021

  • Ystyrir bod ein hamgylchedd ymchwil yn 100% ffafriol i gynhyrchu ymchwil sy'n arwain y byd neu sydd o ansawdd rhagorol yn rhyngwladol.
  • Ystyrir bod 100% o'n hamgylchedd ymchwil yn arwain y byd neu yn rhagorol yn rhyngwladol, sy'n gynnydd o 67.4%.
  • Ystyrir bod ansawdd ein hallbynnau ymchwil yn arwain y byd, yn rhagorol yn rhyngwladol, neu yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol o ran gwreiddioldeb, arwyddocâd a thrylwyredd.
  • Cafodd 40.9% o'n hallbynnau ymchwil sgôr o 4*, sy'n gynnydd o 32.1%.
  • Cynyddodd yr incwm ymchwil 158%.
  • Cafwyd cynnydd o 81% yn nifer y graddau PhD a ddyfarnwyd.

Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o adrannau eraill yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, ac yn rhan o Gonsortiwm Ymchwil sy’n cynnwys ynddo nifer o adrannau Cymraeg a Cheltaidd yn y Deyrnas Unedig. Cliciwch yma am fanylion.

Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â nifer o ymchwilwyr mewn meysydd eraill ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Saesneg, Hanes, Gwleidyddiaeth, Ieithoedd Modern, y Cyfryngau, Gofal Iechyd, y Gyfraith.

Cyhoeddiadau Diweddar

Ymhlith cyhoeddiadau diweddar staff Adran y Gymraeg a’r cyfrolau sydd ar fin eu cyhoeddi y mae:

  • Parcio, Tudur Hallam
  • Y Gyfraith yn ein Llên, R. Gwynedd Parry
  • Cyrraedd a Cherddi Eraill, Alan Llwyd
  • Comparative Stylistics of Welsh and English - Arddulleg y Gymraeg, S.Morris a K.J.Rottet
  • Saunders y Dramodydd, Tudur Hallam
  • Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, Alan Llwyd
  • Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, Alan Llwyd
  • Waldo Williams: Cerddi 1922-1970, golygiad Alan Llwyd a Robert Rhys
  • Rhwng y Llinellau, Christine James
  • Machlud Cyfraith Hywel, golygiad Christine James
  • Canolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n Dysgu’r Gymraeg, Steve Morris a Heini Gruffudd
  • Huw Jones o Langwm, A. Cynfael Lake

Prosiectau Ymchwil

Mae nifer o brosiectau ymchwil ar waith yn yr adran, fel y Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes. Mae Steve Morris yn aelod o’r tîm rheoli ac mae Alex Lovell yn gyd-ymchwilydd ar y prosiect hwn. Mae cynorthwy-ydd ymchwil yn yr adran hefyd ynghlwm wrth y prosiect.
Mae aelod arall o staff, Dr Gwennan Higham, yn aelod o gonsortiwm y prosiect rhyngwladol COMBI (‘Sgiliau cyfathrebu ar gyfer mewnfudwyr mewn cymunedau gwaith dwyieithog). Mae’r consortiwm yn cynnwys 6 phartner o 5 gwlad Ewropeaidd.

Cyhoeddiadau ymchwil nodedig yr Adran yn y gorffennol

Ymhlith cyhoeddiadau ymchwil nodedig staff yr Adran yn y gorffennol y mae Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Henry Lewis), Williams Pantycelyn (Saunders Lewis), Elfennau Gramadeg Cymraeg (Stephen J. Williams), Y Treigladau a’u Cystrawen (T. J. Morgan), Gaulish Personal Names (D. Ellis Evans), Morgan Llwyd y Llenor (Hugh Bevan), Gŵyl Gwalia: Yr Eisteddfod yn Oes Aur Victoria 1858–1868 (Hywel Teifi Edwards), Hir Oes i’r Iaith (Robert Owen Jones),Cerddi’r Ficer: Detholiad o Gerddi Rhys Prichard (Nesta Lloyd), Studies on Middle Welsh Literature (Brynley F. Roberts), http://dafyddapgwilym.net (Dafydd Johnston ac eraill), Y Gymraeg a Phobl Ifanc (Heini Gruffudd). Wrth gwrs, detholiad bychan yn unig yw’r un hwn, nad yw chwaith yn rhestru gweithiau’r staff presennol, ond dyna flas ichi ar draddodiad ymchwil Adran y Gymraeg. Heddiw, mae nifer o brosiectau ar y gweill ym maes cynllunio ieithyddol, ieithyddiaeth gymhwysol, llenyddiaeth a diwylliant Cymru ddoe a heddiw, ynghyd ag ysgrifennu creadigol.

Cynhelir dwy ddarlith goffa’n flynyddol, sef Darlith Goffa Henry Lewis a Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards, ac mae'r Adran yn cynnal cyfresi o seminarau ymchwil yn y Coleg yn rheolaidd.