Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith
Mae'r Rhaglen Cyflawni drwy Brofiad Gwaith yn fenter gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i greu cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr ar gyrsiau addysg uwch yng Nghymru sy'n:
Iau na 25 oed, mewn addysg amser llawn, sydd efallai'n wynebu rhwystrau i sicrhau profiad gwaith ac sy'n bodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- Mae gennyf anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar fy ngallu i weithio
- Rwy'n dod o gefndir du a lleiafrif ethnig
- Mae gennyf gyfrifoldebau gofalu neu ofalu am blentyn
- Rwy'n derbyn gofal neu rwy'n ymadawr gofal
- Rwy'n dod o gymdogaeth â chyfranogiad isel mewn addysg uwch.
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen a'r meini prawf cymhwyso, ewch i www.gowales.co.uk neu e-bostiwch gowales@abertawe.ac.uk.
Mae GO Wales yn gweithio gyda phob math o gyflogwyr yng Nghymru i greu cyfleoedd gwaith hyblyg, wedi'u teilwra, sydd wedi'u cynllunio i gydweddu ag ymrwymiadau eraill myfyrwyr. Mae'r rhaglen yn cynnig:
- Cysgodi Gwaith: Hyd at dri diwrnod o brofiad gwaith di-dâl lle mae'r myfyriwr yn arsylwi ar rywun wrth ei waith er mwyn deall sut mae'n gwneud ei swydd.
- Blas ar Waith: Hyd at bedair wythnos o brofiad gwaith di-dâl lle caiff y myfyriwr gyfle i ddysgu am waith ac am yr amgylchedd gwaith drwy arsylwi ac ymgymryd â rhai tasgau.
- Lleoliadau Gwaith: Pedair i chwe wythnos o brofiad gwaith â thâl gan gael profiad ymarferol o weithio ar brosiect.
Mae myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn elwa o gymorth ymgynghorydd i'w helpu i benderfynu ar y math o brofiad gwaith a fyddai orau iddynt, eu helpu i baratoi ar ei gyfer, dysgu ohono a phenderfynu ar eu camau nesaf. Bydd hyn yn gwella cyfleoedd myfyrwyr i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy, hyfforddiant neu addysg bellach ar ôl iddynt gwblhau eu cwrs. Mae'n bosib y bydd cymorth ar gael gyda chostau teithio a chostau eraill fel bod profiad gwaith yn ddewis fforddiadwy.
Adnoddau defnyddiol eraill:
Buddion i gyflogwyr:
- Os byddwch chi'n cymryd rhan yn y rhaglen byddwch chi'n cefnogi myfyriwr i wella ei sgiliau sy'n ymwneud â'r gwaith tra'n dangos eich cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a'ch parodrwydd i greu cymdeithas decach. Cewch gyfle i ddarganfod dawn a gall eich sefydliad elwa gan syniadau newydd. Yn dibynnu ar y math o brofiad gwaith rydych chi'n ei gynnig efallai y cewch gyfle i gwblhau prosiect.
- Derbynnir cymhorthdal ar gyfer lleoliadau gwaith â thâl lle yn briodol.
Felly os gallwch roi mewnwelediad anffurfiol i rôl neu gallwch roi profiad ymarferol i fyfyriwr hoffem glywed gennych. Ewch i www.gowales.co.uk neu anfonwch e-bost i gowales@abertawe.ac.uk i ddysgu mwy.
Dyma rai sylwadau gan ein myfyrwyr:
"Roedd GO Wales yn ddefnyddiol iawn o ran adeiladu fy set sgiliau a'm paratoi ar gyfer y byd gwaith. Roedd fy nghynghorydd yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn drwy gydol fy nhaith profiad gwaith ac wrth ryngweithio gyda chyflogwyr. Yn gyffredinol, byddwn yn argymell GO Wales i fyfyrwyr eraill i alluogi iddynt ddatblygu eu set sgiliau a rhoi sylfaen well iddynt ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol."
"Diolch am y cyfle anhygoel rydych wedi'i roi i mi. Rwyf wedi dysgu cymaint yn barod ac rwy'n llawer mwy hyderus o ran sut gallaf weithio'n effeithlon fel rhan o dîm yn ogystal â sut mae fy astudiaethau Prifysgol presennol yn trosglwyddo i weithle go iawn. Mae hyn wedi bod yn anhygoel dros ben ac mae wedi fy mharatoi yn llawer mwy ar gyfer chwilio am ragor o gyfleoedd fy hun yn y dyfodol".
"Mae'r prosiect GO Wales yn wirioneddol wedi gwella fy set sgiliau a'm hyder. Roedd y broses yn eithaf syml a derbyniais gefnogaeth barhaus gan fy nghynghorydd. Teimlaf yn fwy hyderus o ran cysylltu â chyflogwyr eraill o ganlyniad i'r cysylltiadau a'r rhwydweithiau a ddatblygais wrth gymryd rhan yn y rhaglen GO Wales. Byddwn yn argymell y rhaglen hon i fyfyrwyr eraill. Gall unrhyw brofiad a gynigir eich helpu i ennill cyflogaeth yn y dyfodol."
"Roedd fy mhrofiad gyda'r rhaglen GO Wales o fudd mawr i'm CV, erbyn hyn rwy'n meddu ar y profiad gwaith perthnasol mae cyflogwyr yn chwilio amdano a theimlaf yn fwy hyderus wrth wneud cais am swydd. Trwy GO Wales cefais gyfle i ennill profiad yn y sector gwaith a oedd o ddiddordeb i mi, ac erbyn hyn mae gennyf ddealltwriaeth fwy o rolau posib i'w dilyn yn y dyfodol. Cefais ryddid i ddewis profiad gwaith o'm dewis yn y gymuned a derbyniais gefnogaeth a chyngor parhaus drwy gydol fy mhrofiad gwaith".
"Fel myfyriwr gydag ychydig neu ddim profiad gwaith perthnasol yn fy maes astudio, roeddwn bob amser yn teimlo fy mod o dan ychydig o anfantais yn y diwydiant peirianneg sifil yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol. Roedd GO Wales yn fan neidio i mi a helpodd i mi ennill y profiad gwaith roeddwn yn chwilio amdano. Roedd y broses gyfan yn ddiffwdan, wythnos ar ôl i mi gyfarfod â chynrychiolydd cymwynasgar roeddwn mewn cysylltiad â chwmni peirianneg strwythurol lleol a chefais gynnig pythefnos o brofiad gwaith dros y Pasg. Mae'r profiad a enillais yn ystod y pythefnos hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy i mi, gan fy ngalluogi i roi'r hyn a ddysgais yn y brifysgol ar waith a gwneud cysylltiadau defnyddiol yn y diwydiant; mae tynnu sylw at y profiad gwaith hwn ar fy CV hefyd wedi fy helpu i ennill fy lleoliad gwaith blwyddyn mewn diwydiant a byddaf yn cychwyn arno ym mis Awst! Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gymryd rhan ym menter GO Wales, mae nifer o gwmnïau’n ystyried profiad gwaith yn werthfawr iawn ac mae'n caniatáu i chi gael blas go iawn ar eich diwydiant; nid oes unrhyw beth i'w golli!"