Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Cynhadledd Ymchwil, Creu Taliesin, 6–7 Mai 2020
Ymchwil ar draws ffiniau
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad y llynedd, nod cynhadledd flynyddol COAH unwaith yn rhagor fydd meithrin diddordeb yn agendâu ymchwil rhyngddisgyblaethol Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau. Mae ar agor i ymchwilwyr ar draws Prifysgol Abertawe ac mae'r Alwad am Gynigion bellach ar agor tan 2 Mawrth 2020.
Gan ganolbwyntio ar Ymchwil Rhyngddisgyblaethol, rydym yn gwahodd cyfranogiad gyda themâu ymchwil presennol ar draws COAH y gellir eu rhannu'n 7 categori eang:
*Treftadaeth, diwydiant a chymunedau
*Llwyfannau digidol, Deallusrwydd Artiffisial a chyfathrebu
*Iechyd, lles a diwylliant
*Heriau Byd-eang, cynaliadwyedd a llywodraethu
* Llenyddiaeth, ieithyddiaeth a diwylliant
*Rhyw(edd), diwylliant a chymdeithas
*Astudio Cymru: iaith, cymdeithas a gwleidyddiaeth
Rydym ni hefyd am i fil o flodau flodeuo, felly mae croeso cynnes i chi gysylltu os oes gennych syniadau i'w datblygu nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod.
Galw am gynigion
Gwahoddwn ymchwilwyr staff unigol i gynnig cyflwyniadau 15 munud o hyd. Gallai'r rhain gyflwyno syniadau ar unrhyw gam datblygu, a byddant yn cael eu cynnwys mewn paneli a fydd yn cael eu rhoi ynghyd ar gyfer y rhaglen i geisio datblygu synergeddau rhyngddisgyblaethol.
Hoffem hefyd wahodd canolfannau/grwpiau ymchwil i gynnig paneli neu fyrddau crwn sydd eisoes wedi'u ffurfio a allai ganolbwyntio unwaith eto ar syniadau ar unrhyw gam datblygu. Rhaid i gynigion gynnwys cydweithwyr o'r colegau eraill (gan gynnwys COAH).Ystyriwch hefyd faterion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chynwysoldeb.
Gellir deall ymchwil rhyngddisgyblaethol mewn llawer o ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol:-
· Ymchwil sy'n ceisio archwilio damcaniaethau a syniadau sy'n croesi disgyblaethau
· Ymchwil sy'n tynnu ar wybodaeth am bynciau ar draws disgyblaethau
· Ymchwil ar broblemau a godwyd gan bartneriaid effaith y mae angen ymateb rhyngddisgyblaethol arnynt
· Ymchwil sy'n tynnu ar ddulliau a sgiliau methodolegol amrywiol
Er bod y pwyslais ar ymchwilwyr staff i gyflwyno papurau, bydd y Gynhadledd hefyd ar agor i'r holl staff a myfyrwyr ôl-raddedig ac rydym yn annog myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i fod yn gadeiryddion.
Pan gaiff y rhaglen ei llunio, byddwn yn creu cyfnodau panel a fydd yn para 90 munud yr un. Bydd angen cadeirydd ar bob un ohonynt, felly rhowch wybod i ni os ydych yn hapus i wirfoddoli.
Sut i gyflwyno cais
Dylai pob cyflwyniad gynnwys teitl a chrynodeb o 200 gair ar y mwyaf.
Dylai pob panel neu gynnig bwrdd crwn gan ganolfan/grŵp ymchwil gynnwys manylion fel a ganlyn:
· Teitl, cynigydd panel, cadeirydd a rhestr o gyfranogwyr
· Crynodeb o'r hyn y bydd y panel yn canolbwyntio arno (hyd at 300 o eiriau)
Gellir anfon ymholiadau cyn gwneud cynigion i'r Athro Jonathan Bradbury, Cyfarwyddwr Ymchwil Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau (COAH), drwy e-bostio j.p.bradbury@abertawe.ac.uk. Dylid e-bostio cynigion i COAHResearchoffice@abertawe.ac.uk erbyn 2 Mawrth, 2020, 4pm.
Bydd panel yn cael ei sefydlu i ystyried cynigion a fydd yn cadarnhau'r rhaglen erbyn 20 Mawrth 2020.