Mae ALaW yn grŵp ymchwil sy'n ganolbwynt ar gyfer ymarferwyr ac ymchwilwyr y mae eu gwaith yn ymwneud ag Ieithyddiaeth Gymhwysol, yr iaith Gymraeg a'n cymuned ddwyieithog yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yn 2017 gan Tess Fitzpatrick a Steve Morris i:

  • archwilio i feysydd lle mae timau prosiectau ac ymchwilwyr unigol yn rhannu diddordebau yn y pwnc;
  • gweithio gydag ymarferwyr i nodi angen critigol mewn ymchwil Ieithyddiaeth Gymhwysol a'r Gymraeg, yn enwedig o ran newid addysgol, cymdeithasol a pholisi;
  • bod yn ganolbwynt wrth lunio agenda ar gyfer gweithgaredd ymchwil yn y dyfodol, gan gynnwys prosiectau sy'n cael eu hariannu ac ysgoloriaethau ymchwil ôl-radd.

Cynhaliwyd digwyddiad ymchwil agoriadol ALaW ym mis Mehefin 2017. Traddodwyd y brif ddarlith gan Dr Gwennan Higham o Brifysgol Abertawe ar Iaith a Pherthyn mewn Cymru Amlddiwylliannol. Cafwyd naw cyflwyniad arall gan academyddion a myfyrwyr ymchwil gan gynnwys

Cymhwyso'r continwwm Cymraeg ail iaith mewn addysg i ardaloedd cymharol ddi-Gymraeg Cymru (Alex Lovell)

The comprehension of passive sentences in non-native bilingual children in Welsh-medium education (Ilid Haf)

Exploring bilingual Welsh/English lexicons (Tess Fitzpatrick)

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes – casglu data a'r weledigaeth bedagogaidd (Jenny Needs, Mair Rees, Mark Stonelake)

The effects of Welsh/English bilingualism on the acquisition of German (Vivienne Rogers)

Creu rhestri geiriau pedagogaidd ar gyfer y Gymraeg (Steve Morris)

Cynhaliwyd ail ddigwyddiad ALaW, ym mis Chwefror 2018, mewn cysylltiad â phrosiect Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth (ACD) a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (Prif Ymchwilydd: Fitzpatrick). Craffodd yr ACD ar ymchwil ar ddulliau ac ymagweddau addysgu ail iaith a oedd yn berthnasol i gyd-destun y Gymraeg, a'r ddwy brif araith yn ymwneud â'r maes hwn, sef: yr Athro Ros Mitchell o Brifysgol Southampton a siaradodd ar Gymhelliant ac Ymgysylltu mewn Addysgu Iaith Dramor Cynnar, a Dr Dawn Knight o Brifysgol Caerdydd a roddodd orolwg o brosiect corpws Cymraeg CorCenCC lle mae hi'n Brif Ymchwilydd.

Thema ein hail ddigwyddiad ALaW yn 2018 (Tachwedd) oedd Ieithyddiaeth Gymhwysol a'r Gymraeg: Ymchwil, Polisi ac Ymarfer. Siaradodd ein prif siaradwr Katherine Davies, ymgynghorydd proffesiynol i Lywodraeth Cymru (Y Gymraeg mewn addysg) am Y Gymraeg mewn Addysg: Trosolwg datblygiad polisi o fewn cyd-destun ‘Cymraeg 2050’ ac ‘Addysg yng

Nghymru: cenhadaeth ein cenedl’ gyda ffocws penodol ar ddatblygiad ‘Y Gymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21’.  Traddodwyd y brif ddarlith arall gan Dr Jon Morris o Brifysgol Caerdydd ar faes Amrywio ieithyddol a newid i ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg. Ymhlith y cyflwyniadau diweddaru ymchwil pellach, cafwyd:

Building a Welsh Twitter corpus for the study of English-origin discourse markers(Bethan Tovey)

Creu rhestri geiriau pedagogaidd ar gyfer y Gymraeg: B1 a'r tu hwnt (Steve Morris)

Predictive processing of gender in Welsh-English bilinguals: an eye-tracking study (Vivienne Rogers and Tesni Galvin)

Mewnfudwyr a'r Gymraeg (Gwennan Higham)

CLIL a'r Gymraeg: Rhai goblygiadau posibl  (Alex Lovell)

Cynhaliwyd Fforwm Profi Ieithoedd blynyddol UKALTA gan Brifysgol Abertawe yn 2019 a chwaraeodd aelodau ALaW ran allweddol wrth sicrhau bod yno gynrychiolaeth gref i'r Gymraeg a dwyieithrwydd yn y rhaglen.  Un o brif themâu'r gynhadledd oedd 'Asesu ieithoedd y DU ar wahân i'r Saesneg'; cyflwynodd aelodau ALaW bapurau ar asesu o safbwynt penodol y Gymraeg; mwynhawyd sesiwn blasu'r Gymraeg gan oddeutu 30 o gyfranogwyr; ac am y tro cyntaf yn hanes UKALTA, traddodwyd darlith lawn, agoriadol Cyril J. Weir mewn iaith ar wahân i'r Saesneg (sef y Gymraeg), pan siaradodd Dr Emyr Davies ar Golwg ar asesu'r Gymraeg.

Yn ogystal â digwyddiadau ymchwil, mae ALaW yn gartref i brosiectau sy'n cael eu hariannu ac ysgoloriaethau ymchwil PhD. Yn ddiweddar ac ar hyn o bryd, maen nhw'n cynnwys

  • Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth ar ymagweddau a dulliau ar ddysgu ail iaith effeithiol. Ym mis Mehefin 2018 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r adroddiad hwn a gomisiynwyd. Yr awduron oedd Fitzpatrick, Morris, Clark, Mitchell, Needs, Tanguay a Tovey.
  • Aelodau Abertawe Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC), prosiect a gyllidir gan yr ESRC/AHRC i greu adnodd corpws mawr i siaradwyr Cymraeg, dysgwyr Cymraeg, ymchwilwyr i'r Gymraeg ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y Gymraeg. Arweinir CorCenCC gan Dawn Knight ym Mhrifysgol Caerdydd; mae'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys Steve Morris, Tess Fitzpatrick, Alex Lovell, Jenny Needs, Mair Rees a Mark Stonelake.
  • Cydweithio gyda CBAC i greu rhestri geiriau pedagogaidd egwyddorol fel canllawiau i addysgu ac asesu'r Gymraeg (Morris, Meara a Fitzpatrick)
  • Ysgoloriaeth ymchwil PhD Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect CorCenCC ar Cyfnewid cod, benthyg, ac esblygiad ieithoedd lleiafrifol a ddelir gan Bethan Tovey.
  • Ysgoloriaeth ymchwil PhD ESRC yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ar Ddwyieithrwydd Strategol: nodi'r cyd-destun gorau ar gyfer y Gymraeg fel ail iaith yn y cwricwlwm (CA3-4), a ddelir gan Catrin Jenkins.
  • Ysgoloriaeth ymchwil PhD ESRC ar Brosesu cenedl ramadegol yn y Gymraeg fel iaith gyntaf ac ail iaith, a ddelir gan Tesni Galvin.

Os ydych chi am dderbyn gwybodaeth am ALaW a'n digwyddiadau yn y dyfodol neu os oes diddordeb gennych mewn ymuno â'r grŵp, byddai croeso mawr i chi.  Anfonwch ebost at Steve Morris s.morris@abertawe.ac.uk i gofrestru eich diddordeb.