Croeso i Lenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn eich annog i archwilio un o’r disgyblaethau mwyaf eang, cyffrous a heriol. Mae’n meithrin sensitifrwydd at iaith ac yn ceisio ateb rhai cwestiynau ysgogol. Mae ein cyrsiau'n ymdrin â’r amrywiaeth gyfan o lenyddiaeth Saesneg o’r cyfnod canoloesol cynnar hyd at heddiw ac yn datblygu eich dealltwriaeth o ddamcaniaeth feirniadol a’r amrywiaethau wrth ymdrin â llenyddiaeth. 

Mae'r rhaglen Ysgrifennu Creadigol yn Abertawe ymhlith y rhaglenni ysgrifennu gorau ym Mhrydain. Dan arweiniad tîm o ysgrifenwyr o fri, mae'n cynnig graddau israddedig ac ôl-raddedig mewn ystod eang iawn o genres a sgiliau ysgrifennu. Mae gan Gymru draddodiad canu telynegol cyfoethog, ac mae'r rhaglen yn falch o gyfuno dimensiynau o Gymru, o Brydain ac yn rhyngwladol. Mae'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd – mae'r cyfranogwyr diweddar wedi cynnwys pobl o UDA, Canada, Nigeria, Norwy, India, Bhutan, Sbaen, Ffrainc, Awstralia a Tsieina.

Ganed un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif yn Abertawe, sef Dylan Thomas, ac mae'r Brifysgol yn cynnal Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dylan Thomas bob blwyddyn – gwobr gyfoethocaf y byd i awduron o dan 40 oed. Mae'r cyswllt hwn â'r diwydiant llenyddol wrth wraidd rhaglen Ysgrifennu Creadigol Abertawe ac mae'n cysylltu myfyrwyr ag asiantiaid, golygwyr, cyhoeddwyr, awduron, perfformwyr a chynhyrchwyr.